Showing posts with label Jeremy Hunt. Show all posts
Showing posts with label Jeremy Hunt. Show all posts

30/10/2010

Cyfrinachedd a pharch

Ar Freedom Central mae Peter Black AC yn ailadrodd honiad a wnaed gan Glyn Davies yr wythnos diwethaf, sef mae'r rheswm am ddiffyg ymgynghoriad a Llywodraeth Cymru parthed ddyfodol S4C oedd bod Llywodraeth y DU yn methu ymddiried yn Llywodraeth Cymru i gadw cyfrinachau. Mae'r ddau wleidydd yn gweld hyn fel beirniadaeth o Blaid Cymru wrth reswm. Mae llywodraeth y Bae yn dangos diffyg parch, yn wir yn ymddwyn yn blentynnaidd yn ôl Mr Black; agwedd od gan un sy'n honni ei fod yn rhyddfrydwr ac yn ddemocrat.

Y cwestiwn y byddwn i yn disgwyl i ddemocrat rhyddfrydig ei ofyn yw Pam ar y diawl bod angen gwneud penderfyniadau am ddarlledu Cymraeg yn gyfrinachol ac yn Llundain?

Mae diffyg parch wedi ei ddangos yn achos adrefnu S4C yn ddi os. Trwy wneud penderfyniadau am ddyfodol y Sianel yn y dirgel heb hidio am farn gwylwyr Cymraeg, heb ymgynghori a'r sawl bydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y penderfyniad mae Jeremy Hunt wedi trin y Gymru Gymraeg gyda diffyg parch syfrdanol.

Os ydy honiad Glyn bod y manylion am gynnwys trafodaethau rhwng Ysgrifennydd diwylliant Llundain a gweinidogion Plaid Cymru wedi eu rhyddhau o fewn munudau, nid diffyg parch yw hynny; i'r gwrthwyneb mae'n dangos bod gweinidogion Plaid Cymru yn parchu'r bobl yr etholwyd hwy i'w cynrychioli - trwy beidio a'u cadw yn y tywyllwch, yn ol drefn Sansteffan.

20/10/2010

Rysáit Cymraeg: Humble Pie!

Un o'r pethau sydd yn nodweddiadol o'r Blaid Geidwadol yw ei allu i dal dig a thalu'r pwyth yn ôl blynyddoedd wedi achos yr anghydfod gwreiddiol.

Yn ddi-os roedd gan yr ymosodiad ar y glowyr ym 1984 gymaint, os nad mwy, i'w wneud efo talu pwyth am ddymchwel llywodraeth Ceidwadol deng mlynedd ynghynt, ac ydoedd yn ymwneud a pholisi ynni ac economi'r dwthwn.

Er bod ambell i Geidwadwr wedi hawlio clod am greu'r Sianel Gymraeg, does dim ddwywaith mae bygythiad ympryd Gwynfor oedd sylfaen y Sianel.

Dros ei chrogi troi nath y ledi dros sianel teledi (chwedl DI).

Rwy'n cofio cartŵn o un o bapurau mawr Llundin y cyfnod yn dangos llun o Willie Whitelaw yn bwyta llond ceg o humble pie a slogan yn cyhoeddi rhywbeth tebyg i Gwynfor Evans isn't the only one who won't be starving now!.

S4C oedd un o'r prin esiamplau o Fagi yn methu cael ei ffordd ei hunan. A yw'r bygythiad i S4C yn engraifft arall o'r Ceidwadwyr yn dal dig? Ydy'r blaid a orfodwyd i fwyta humble pie yn ôl ym 1980, bellach am gael dial?

Os ydy Jeremy Hunt (efo C) yn credu bod modd iddo wireddu ei ddial oherwydd bod Gwynfor wedi marw a bod Cymry Cymraeg yn gallu bod yn feirniadol o S4C, mae o wedi gwneud camgymeriad mawr.

Fel aelod o'r genhedlaeth sy'n cofio'r dyddiau cyn bodolaeth y sianel, rwy'n gweld beirniadaeth negyddol (a diffyg gwylwyr) i ambell i raglen Gymraeg fel rhan o gryfder a phrifiant teledu Cymraeg.

Does dim rhaid i'r gwyliwr teledu Cymraeg cyfoes clodfori unrhyw cach yn yr Iaith Gymraeg er mwyn cyfiawnhau hanner awr o deledu yn ein hiaith bellach! Does dim rhaid inni gogio mae Shane wedi ei dybio'n wael yw'r ffilm gorau inni ei weld erioed. Yr ydym wedi dod i arfer ar wylio'r gwachul a'r gwych yn y Gymraeg, ac mae digon ohonom ar ôl sydd am roi'r un ymrwymiad a rhoddodd Gwynfor i'r achos dros sicrhau bod hynny'n parhau.

Mae'r rysáit am humble pie ar gael o hyd, mae'n deisen efo plas cas. Wyt wir am ei brofi Jeremy?

Mae Mr *unt yn blogio, os hoffech gadael sylw, na chaiff ei gyhoeddi, dyma ei flog gyfeiriad.