Showing posts with label Darlledu. Show all posts
Showing posts with label Darlledu. Show all posts

22/12/2010

BBC Alba a S4(BB)C

Mae'n debyg bod y rhesymeg tu cefn i'r penderfyniad i roi S4C yn nwylo'r BBC yw'r diffyg ymwybyddiaeth gan Sansteffan parthed y gwahaniaeth rhwng sefyllfa'r Aeleg yn yr Alban a'r Gymraeg yng Nghymru. Mae'r sianel Gaeleg wedi bod yn weddol lwyddiannus o dan reolaeth y Bîb, waeth i'r Sianel Gymraeg gael ei redeg yr un fath, mae'n debyg yw'r rhesymeg.

Rwy'n wyliwr eitha' cyson o BBC Alba, rwyn gwylio dwy neu dair rhaglen pob wythnos, mae'r sianel yn darlledu nifer o raglenni dogfennol, hanesyddol a cherddorol sydd yn hynod ddiddorol o ran eu cynnwys ond yn gwan o ran eu harddull.

Er enghraifft mi wyliais raglen yr wythnos diwethaf a oedd yn trafod y ffordd yr oedd y tlodion yn yr ucheldiroedd yn cyweirio gwely o rug gan nad oedd deunydd gwely amgenach ar gael iddynt; rhywbeth na wyddwn i amdano gynt. Roedd y rhaglen yn agoriad llygad, yn brawf o ddyfeisgarwch dyn o dan yr amgylchiadau dwysaf, yn gofnod gwych o draddodiad gwerin, yn addysg ac yn hynod ddiddorol; ond o ran ddarllediad yr oedd o'n wan. Dynes yn ymweld â dyn ac yn dweud wrtho rwy'n deall dy fod di yn gwybod sut i wneud gwely o rug. Y fo'n ateb ydw -fel 'ma mae gwneud hi ac yn dangos y grefft - rhaglen dechnegol wael a rhad.

Y fath o ddeunydd rwyf am ei weld ar S4C ond nid y fath o safon yr wyf am weld ar S4C. A'i dyma'r safon bydd ar S4BBC yn y dyfodol?

Lansiwyd BBC Alba dwy flynedd yn ôl fel arbrawf, bu adolygiad o'i ddwy flynedd gyntaf yr wythnos yma. I wylwyr BBC Alba mae'r newyddion yn galonogol, mae'r sianel wedi bod yn llwyddiant ac y mae o am barhau am o leiaf pum mlynedd eto.

Ond mae rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu codi yn yr adolygiad yn peri pryder, er enghraifft a ddylai'r sianel cael ei gyfyngu i'r we yn unig? Dim ar hyn o bryd gan fod argaeledd y we yn wan yn yr ardaloedd lle mae'r Aeleg yn gryfaf - ond posibilrwydd yn y dyfodol! A'i dyna ddarpar ddyfodol S4BBC hefyd?

Mae'r Gorfforaeth yn gyndyn o sicrhau slot i BBC Alba ar Freeview yn yr Alban oni bai bod ambell i sianel radio yn cael ei golli i wneud lle ar ei gyfer, yn ddi-os ni fydd ar gael ar Freeview trwy wledydd Prydain. Yn ôl y son mae hyd at draean o wylwyr S4C yn wylwyr y tu allan i ffiniau Cymru, a fydd S4BBC am eu haberthu hwy er mwyn sicrhau ystod i sianelau eraill, gan wanhau darlledu Cymraeg?

O dderbyn mae dim ond tua 70 mil o siaradwyr Aeleg cynhenid sydd ar ôl, mae'n rhaid llongyfarch y BBC am ei ddarpariaeth wych o dan yr amgylchiadau ieithyddol, ond mae’n rhaid gwylio nad yw'r gorfforaeth yn tybio bod yr un fath o ddarpariaeth yn ddigonol i dri chwarter miliwn o Gymry Cymraeg hefyd!

20/10/2010

Rysáit Cymraeg: Humble Pie!

Un o'r pethau sydd yn nodweddiadol o'r Blaid Geidwadol yw ei allu i dal dig a thalu'r pwyth yn ôl blynyddoedd wedi achos yr anghydfod gwreiddiol.

Yn ddi-os roedd gan yr ymosodiad ar y glowyr ym 1984 gymaint, os nad mwy, i'w wneud efo talu pwyth am ddymchwel llywodraeth Ceidwadol deng mlynedd ynghynt, ac ydoedd yn ymwneud a pholisi ynni ac economi'r dwthwn.

Er bod ambell i Geidwadwr wedi hawlio clod am greu'r Sianel Gymraeg, does dim ddwywaith mae bygythiad ympryd Gwynfor oedd sylfaen y Sianel.

Dros ei chrogi troi nath y ledi dros sianel teledi (chwedl DI).

Rwy'n cofio cartŵn o un o bapurau mawr Llundin y cyfnod yn dangos llun o Willie Whitelaw yn bwyta llond ceg o humble pie a slogan yn cyhoeddi rhywbeth tebyg i Gwynfor Evans isn't the only one who won't be starving now!.

S4C oedd un o'r prin esiamplau o Fagi yn methu cael ei ffordd ei hunan. A yw'r bygythiad i S4C yn engraifft arall o'r Ceidwadwyr yn dal dig? Ydy'r blaid a orfodwyd i fwyta humble pie yn ôl ym 1980, bellach am gael dial?

Os ydy Jeremy Hunt (efo C) yn credu bod modd iddo wireddu ei ddial oherwydd bod Gwynfor wedi marw a bod Cymry Cymraeg yn gallu bod yn feirniadol o S4C, mae o wedi gwneud camgymeriad mawr.

Fel aelod o'r genhedlaeth sy'n cofio'r dyddiau cyn bodolaeth y sianel, rwy'n gweld beirniadaeth negyddol (a diffyg gwylwyr) i ambell i raglen Gymraeg fel rhan o gryfder a phrifiant teledu Cymraeg.

Does dim rhaid i'r gwyliwr teledu Cymraeg cyfoes clodfori unrhyw cach yn yr Iaith Gymraeg er mwyn cyfiawnhau hanner awr o deledu yn ein hiaith bellach! Does dim rhaid inni gogio mae Shane wedi ei dybio'n wael yw'r ffilm gorau inni ei weld erioed. Yr ydym wedi dod i arfer ar wylio'r gwachul a'r gwych yn y Gymraeg, ac mae digon ohonom ar ôl sydd am roi'r un ymrwymiad a rhoddodd Gwynfor i'r achos dros sicrhau bod hynny'n parhau.

Mae'r rysáit am humble pie ar gael o hyd, mae'n deisen efo plas cas. Wyt wir am ei brofi Jeremy?

Mae Mr *unt yn blogio, os hoffech gadael sylw, na chaiff ei gyhoeddi, dyma ei flog gyfeiriad.

04/08/2010

Prin sydd am ddim ar Freeview!

Ym mhob siop lle mae modd prynu set teledu gyda Freeview yng nghynwysedig neu i brynu bocs pen set Freeview ceir honiad bod modd cael hyd at 50 sianel yn rhad ac am ddim o brynu'r nwydd.

Ond dim ond 13 sianel rwy'n gallu eu derbyn yn Llansanffraid Glan Conwy! Rwy'n methu derbyn ambell i sianel bydda ddyn yn disgwyl i fod yn sylfaenol i ddarpariaeth ddi-dâl megis ITV3 a S4C2.

Mae'n debyg y byddai'n costio gormod i ddarparu signal digon cryf i fy mro er mwyn cael y gwasanaeth llawn!

Rwy'n gweld y diffyg darpariaeth yma'n warthus. Rwy'n talu'r un pris trwydded teledu a phawb arall ac yn talu'r un pris am nwyddau a hysbysebir ar y teledu a phawb arall - pam felly nad ydwyf yn cael yr un gwasanaeth am fy ngheiniogau prin a phawb arall?

O ran diddordeb a'i Dyffryn Conwy yn unig sy'n cael y fath wasanaeth gwachul yng Nghymru? Neu â ydyw yn gyffredin trwy barthau mawr o'r wlad?

31/07/2010

Es-Pedwar-Ec-Giât

Sori am y pennawd - ond mae'n rhaid wrth bob scandal gwerth ei halen ei Iât! Er gwaetha'r ffaith mae wal o ddistawrwydd yw prif nodwedd helynt S4C.

Fel pawb arall sydd wedi gwneud sylw am hynt a helynt S4C yn ystod y dyddiau diwethaf, nid oes gennyf clem be ddiawl sy'n digwydd yn y gorfforaeth.

Ond dyma ychydig o bethau yr wyf yn gwybod:

1) Sefydlwyd S4C oherwydd cefnogaeth y Cymry Cymraeg i'r cysyniad o Sianel Teledu Cymraeg. Heb ein deisebu, ein protestio, ein carcharu, bygythiad ein harwr i lwgu hyd at farw ac ati - byddai'r Sianel ddim yn bodoli. Yn fwy nag unrhyw sianel teledu arall yn y byd, crëwyd S4C gan ddyhead ei ddarpar wylwyr.

2) Bydd colli chwarter cyllid y Sianel yn ergyd drom iawn i ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen deisebu ac ymgyrchu, protestio ac, o bosib, carcharu eto gan garedigion yr iaith, er mwyn sicrhau nad yw S4C yn cael ei ddienyddio o dan bolisiau mil-dorriadau'r ConDems.

3) Os ydym ni - garedigion y Sianel, y darpar ddeisebwyr, protestwyr a charcharorion yn cael ei'n trin fel madarch - yn cael ein cau yn y twyllwch a'n bwydo ar gachu - gan awdurdodau S4C bydd ein protestiadau yn ofer.

Tra fo Walter yn gwneud dim sylw, y mae o'n gadael cefnogwyr y Sianel heb Gaer i'w hamddiffyn!

Nid oes modd i'r Sianel barhau heb gefnogaeth brwd y Cymry Cymraeg - does dim modd cadw ac ysgogi ein cefnogaeth heb wybodaeth glir parthed be yn union sy'n digwydd - go iawn!

Os yw S4C am oresgyn rhaid i'r dirgelwch dod i derfyn RŴAN!

10/04/2010

Y Bîb, Yr Etholiad ac Ymwybyddiaeth am Ddatganoli

Yr wyf newydd wylio'r rhaglen gyfredol yng nghyfres Newswatch, rhaglen sy'n ymwneud a chwynion am ddarpariaeth newyddiadurol y BBC. Yn ôl y disgwyl roedd rhaglen heno yn ymwneud a'r ffordd mae'r BBC wedi ymdrin â'r etholiad hyd yn hyn.

Cafwyd cyfweliad â Craig Oliver, dirprwy pennaeth gwasanaeth newyddion y Gorfforaeth i gyfiawnhau'r ddarpariaeth a fu yn ystod wythnos gyntaf yr ymgyrch.

Fe ddywedodd Mr Oliver, mewn ymateb i gŵyn o gôr adrodd etholiadol, bod yr amser sy'n cael ei roi i'r etholiad ar y rhaglenni newyddion yn deg gan fod yr etholiad yn ymwneud ag arweinwyr y pleidiau yn debating the running of our country. Weather taxes should go up, the Health Service and the Education of our children.

Ond yng Nghymru, yr Alban a Gogledd yr Iwerddon prin fod y Gwasanaeth Iechyd ac Addysg ein Plant yn achosion etholiadol o fawr bwys yn nhermau Etholiad Sansteffan. Maent yn bynciau i'w trafod y flwyddyn nesaf yng nghydestyn etholiadau i'r cyrff datganoledig, gan eu bod yn faterion datganoledig.

Os nad yw'r gwron sydd yn gyfrifol am ddarpariaeth deg a di-duedd newyddion etholiadol y Bîb yn ymwybodol o derfynau datganoli a'u heffaithion ar gyhoeddiadau polisiau'r pleidiau Llundeinig, pa obaith sydd bod darpariaeth y gorfforaeth am fod yn un deg, cytbwys a pherthnasol i holl etholwyr y DU; Yn enwedig y rhai sy'n pleidleisio yng Nghymru?