Showing posts with label Dafydd Wigley. Show all posts
Showing posts with label Dafydd Wigley. Show all posts

16/05/2010

Addysg Bonheddig Wigley?

Mae wastad croeso yma i aelodau o Lais Gwynedd sy'n ymosod ar y Blaid, roeddwn yn dueddol o gytuno, ar y cyfan, a chyn brîf blogiwr Llais nag oeddwn yn anghytuno ag ef, ond mae'r blogiwr Llais sydd yn parhau a'i traed yn rhydd yn mynd dan fy nghroen braidd.

Ar y cyfan yr wyf wedi anwybyddu ei dadleuon sur, ond pan mae o'n rhoi'r gorau i ymosod ar Blaid Cymru er mwyn ymosod ar fy enwad mae'r cyllyll yn cael eu miniogi.

Nid Addysg Bonheddig cafodd Dafydd Wigley, nac addysg preifat chwaith.

Fe gafodd Dafydd ei addysgu yn Ysgol Rydal, Bae Colwyn, ysgol elusennol, ar y pryd, o dan reolaeth enwad y Wesleaid. Y rheswm am sefydlu'r ysgol oedd bod gweinidogion Wesla yn newid cylchdaith (plwyf) pob tair blynedd. Roedd yr ysgol yn caniatáu i feibion i weinidogion cael addysg (HEB gost i'w rhieni) nad oedd yn cael ei aflonyddu gan newid cylchdaith barhaol y tad.

Fe gafodd Dafydd ei addysgu yn Rydal gan ei fod yn fab i flaenor amlwg yn yr Eglwys Fethodistaidd (Wesleaidd) yn nalgylch yr ysgol. Yn y cyfnod mi fyddai addysgu'r Dafydd ifanc yn Rydal yn rhatach i'r teulu na fyddai ei anfon i Ysgol Ramadeg Caernarfon.

Nid cyfoeth y byddigions a thalodd am addysg Wigley ond plât casglu'r werin dlawd mewn capeli ar hyd a lled Cymru. Dydy dweud yn wahanol ddim yn sarhad ar Mr Wigley, ond yn sarhad ar bob un aelod o'r Eglwys Fethodistaidd a rhoddodd gwiddon gweddw ar y plât mewn capel tlawd er mwyn sicrhau bod addysg o'r fath ar gael i feibion tebyg i hogyn gwyn teulu Wigley.

07/06/2009

Adrefnu'r Arglwyddi?

Cwestiwn gwirion, hwyrach.

Ond sut, wedi i Lafur honni iddynt glanhau Tŷ’r Arglwyddi, bod Glenys Kinnock wedi ei ddyrchafu i'r Tŷ o flaen Dafydd Wigley?

06/03/2009

Polau Piniwn ac Amseru Refferendwm

Ychydig ddyddiau yn ôl, ar Ddydd Gŵyl Dewi, cyhoeddodd BBC Cymru pôl piniwn a oedd yn awgrymu bod 52% o bobl ein gwlad o blaid pwerau ychwanegol i'r Senedd a bod 39% yn wrthwynebus i bwerau ychwanegol.

Mewn adroddiadau ar y pryd cafwyd awgrym gan Betsan Powys, ymysg eraill, bod y gwahaniaeth rhwng yr Ie a'r Na ddim yn ddigon eang i liniaru ofnau'r sefydliad. Cyn i'r bobl bwysig dechrau alw am refferendwm bydda angen o leiaf 20% o wahaniaeth, yn nhyb Betsan.

Aelod o'r sefydliad yw Dafydd Wigley, Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru. Mae o'n cefnogi sylwadau'r newyddiadurwyr, gan rybuddio bod y polau piniwn wedi bod yn anghywir yn y gorffennol. Mae Dafydd yn nodi:

Dwi'n cofio yn 1978 bod pôl piniwn yn dangos bod 'na ddwywaith yn fwy o blaid nag oedd yn erbyn er bod y canlyniad yn 1979 bedair gwaith yn fwy yn erbyn nag oedd o blaid

Nid ydwyf yn cofio'r pôl y mae Dafydd yn ei gofio. Ond rwy'n parchu geirwiredd Dafydd, nid oes amheuaeth bod canlyniadau'r pôl y mae o'n ei gyfeirio ati ar gael yn rhywle. Ond os oedd ddwywaith gymaint o bobl wedi dweud ie yn y pôl, mae'n rhaid bod y gagendor rhwng yr ie ar na ym fwy nag 20% Betsan.

Fy atgof pennaf o'r ymgyrch ym 1979 oedd ei fod yn uffernol o oer, a doedd yr ymateb ar y drws ym Meirion '79 yn gwneud dim i gynhesu'r galon. Roedd pob Tori, pob Rhyddfrydwr a phob Llafurwr yn erbyn. Roedd nifer o Bleidwyr pybyr wedi eu dychryn gan atgasedd rhai o Lafurwyr y Deheubarth ac yn poeni mae pobl fel nhw bydda'n gyfrifol am bethau fel addysg Gymraeg os oedd senedd i ddyfod i Gaerdydd.

Roedd yn amlwg o ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch bod y refferendwm am gael ei golli yn drychinebus, beth bynnag fu canlyniad y polau piniwn.

Roedd yr un peth yn wir ym 1997. Roedd y polau piniwn yn awgrymu mwyafrif mawr i'r achos o blaid datganoli. Ar y drws rodd yn amlwg mae cael a chael oedd y canlyniad am fod - felly y bu!

Mae yna dwy wers yma.

Y gyntaf yw bod polau piniwn Cymreig sydd wedi eu selio ar arferion y DU yn fethedig ac annibynadwy parthed Cymru! Does dim modd rhoi cred ynddynt. Gwirion bydd amseru refferendwm ar sail polau o'r fath. Da o beth bydda weld gwyddoniaeth polio yng Nghymru yn gwella fel bod polau mwy dibynadwy ar gael - breuddwyd gwrach mae'n debyg.

Yr ail wers yw mai trwy ymgyrchu a chanfasio bydd gwybod pryd bydd yr amser gorau i alw refferendwm. Os am lwyddo cael pleidlais IE mae'n rhaid i'r ymgyrch a'r canfasio dechrau rŵan - nid tair wythnos cyn diwrnod y bleidlais.

27/08/2008

Dail Cymraeg

Croeso cynnes i wefan Cymraeg newydd Dail y Post. Yn ogystal â'r newyddion a chwaraeon diweddaraf o'r Gogledd yn y Gymraeg, mae'r gwefan yn cynnwys tair blog Gwleidyddol Cymraeg gan Ieuan Wyn Jones, Dafydd Wigley a Tom Bodden.

16/01/2008