Showing posts with label Cwango. Show all posts
Showing posts with label Cwango. Show all posts

22/10/2010

Stori od! Athrawon Seisnig am ddod yn Gymry!

Mae'n ymddangos, yn ôl yr Independent, bod nifer o athrawon yn Lloegr yn poeni gymaint y bydd gwaredu'r cwango The General Teaching Council for England yn eu hamddifadu o gorff disgyblu fel eu bod am gofrestru eu hunain fel athrawon Cymreig sydd yn atebol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CynACC, fel mae'n digwydd, mae'n amlwg bod rhywun wedi gweld y perygl o gyfeirio at y corff fel CACC!)

Rwy'n deall pam fod cyrff disgyblu proffesiynol yn bod, rwy'n atebol i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, da o beth yw bod y fath corff yn bodoli i reoli nyrsio a bydwreigiaeth; rwy'n deall pam fod pobl broffesiynol yn dymuno i sefydliadau o'r fath i barhau er mwyn cynnal safon broffesiynol.

Ond wedi cael y profiad annymunol o gael fy nisgyblu gan ragflaenydd y NMC (am roi swadan i glaf nath poeri crachboer yn fy llygaid) byddwn i byth yn gwirfoddoli i ddod o dan reolaeth corff disgyblu heb orfodaeth. Mae ymateb yn reddfol yn hytrach nag yn broffesiynol mor hawdd!

Ac ar ddiwedd y dydd onid y rhai sydd fwyaf sicr na chant eu disgyblu bydd yn cofrestru fel athrawon Cymreig? Bydd y gwael a'r gwachul a'r mwyaf tebygol o dramgwyddo byth yn ystyried ymuno yn wirfoddol a chorff megis CynACC.

Mawr obeithiaf y bydd CynACC yn ymwrthod a'r mewnlifiad. Mae gan y corff ddigonedd o ddyletswydd i reoli proffesiynoldeb athrawon Cymreig go iawn, heb iddi orfod pandro i athrawon Seisnig hunan gyfiawn sy'n meddwl eu bod mor sbesial na chant byth eu dal mewn cyfyng gyngor proffesiynol!