Showing posts with label Caernarfon. Show all posts
Showing posts with label Caernarfon. Show all posts

06/02/2009

Croeso-ish i Garchar C'narfon

Os cofiaf yn iawn roedd yr alwad am garchar i ogledd Cymru yn un o'r pynciau cynharaf i Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas codi ar ôl eu hethol am y tro cyntaf ym 1974. Mae Elfyn Llwyd a Hywel Williams wedi parhau a'r frwydr gydag angerdd.

Yr wyf yn cael fy nghyhuddo gan rai (yn annheg fel arfer) o ladd ar y Blaid ar bob cyfle. Yn ddi-os roedd y cyhoeddiad heddiw bod carchar am gael ei godi yng Nghaernarfon yn enghraifft o werth Plaid Cymru ar ei orau. Mae creu polisi a dal ati, ac ati ac ati am 35 mlynedd hyd nes cael y maen i'r wal yn rhywbeth i'w clodfori. Felly llongyfarchiadau mawr i'r Blaid, i'r ddau Ddafydd i Hywel ac Elfyn ar eu llwyddiant.

Am yr holl resymau y mae'r Blaid wedi eu nodi dros gyfnod hir mae'r newyddion bod carchar newydd am gael ei hadeiladu yng Nghaernarfon yn newyddion da dros ben.

Ond, dydy cael y carchar ddim yn ddiwedd yr ymgyrch. Un o fanteision y carchar yw bydd hi'n dod a hyd at 1,000 o swyddi i'r ardal.

Mae profiad wedi dangos, ysywaeth, bod cynlluniau gwasanaeth cyhoeddus mawr yn aml yn dod a swyddi i ardal mewn modd llythrennol. Y DVLA, Y Bathdy Brenhinol, Y Swyddfa Breinlen a hyd yn oed swyddfeydd y Cynulliad ym Merthyr, Aberystwyth a'r Gyffordd yn mewnforio staff o ardaloedd eraill, yn dod a nhw, yn hytrach na chreu swyddi i'r boblogaeth leol.

Gall hyd at fil o swyddogion carchar yn mewnfudo i Gaernarfon bod yn niweidiol i un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru. Gall effeithio ar y farchnad tai, troi ysgolion cynhenid Cymraeg yn rhai Saesneg a chreu gelyniaeth gymdeithasol - ymysg pethau eraill.

Bydd llwyddiant y prosiect carchar yn hollol ddibynnol ar sicrhau bod canran uchel o'r swyddi ar gael i bobl leol. I gael y sicrwydd yna bydd rhaid i'r awdurdodau, yr asiantaethau cyflogaeth, gwasanaeth y carchardai a'r colegau lleol cyd weithio yn ystod y cyfnod adeiladu i hyfforddi pobl leol ar gyfer y swyddi bydd ar gael yng Ngharchar Caernarfon. Rwy'n mawr obeithio bydd y Blaid yn ychwanegu at y llwyddiant trwy sicrhau bod hyn yn digwydd.