Showing posts with label Blogiau. Show all posts
Showing posts with label Blogiau. Show all posts

17/11/2010

Yn ail i Cai eto byth!

Rwy'n ddiolchgar i Gylchgrawn Golwg am ddyfarnu fy myfyrdodau fel ail flog Cymraeg gorau'r bydysawd.

Fel yr wyf wedi dweud bron pob tro yr wyf wedi derbyn "gwobr" am flogio, rwy'n casáu’r syniad bod mynegi barn yn beth gystadleuol i'w gwneud; mae yna wastad berygl bod dyn yn newid ei farn er mwyn cipio'r wobr - neu yn wir yn newid ei arfer. Rwy'n cynnal dau flog - yr un yma yn iaith y Nefoedd ac yr un acw yn y fain, bai (sef arfer i'w newid) yn ôl beirniaid Golwg:
"un o brif ffaeleddau’r blog wleidyddol yma yw bod gan yr awdur flog Saesneg"
Am sylw hurt! Mae fy myfyrdodau Cymraeg yn ffaelu oherwydd fy mod hefyd yn myfyrio yn fy iaith gyntaf! Gwir yr?

Pe na bawn yn blogio yn Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg a fyddwn wedi cael siawns o gipio'r brif wobr?

Oni bai am y llall, ai'r blog hon, yn hytrach na blog dwrdio plant ddrwg Cymru am boeri gwm ar fuarth y Blaid gan yr Hen Sgŵl byddai ar y brig?

I ddweud y gwir rwy'n poeni braidd bod Macsen yn hen snich sydd yn dymuno imi gael y gansen gan y prifathro o herwydd imi gael fy nal ar ddiwedd fy mhost diwethaf gyda'r English Not ar fy mrest.

01/09/2010

Oscars y blogiau

Mae fy mlog Saesneg Miserable Old Fart wedi syrthio o'r ail safle yn rhestr blogiau gorau Cymru Total Politics i'r chweched safle, siom! Ond mae fy mlog Cymraeg wedi esgyn o'r bedwerydd safle ar ddeg i'r bedwerydd safle - y tro cyntaf ers i fy mlogiau cael eu crybwyll yn y dyfarniadau i fy myfyrdodau Cymraeg curo fy myfyrdodau Saesneg. Fel un sydd yn llawer mwy hyderus yn ysgrifennu yn y Saesneg na'r Gymraeg mae hyn yn achos o beth balchder imi.

Llongyfarchiadau mawr i Flog Menai am lwyddo, am yr ail dro yn olynol, i fod y Blog Cymraeg fwyaf llwyddiannus ac ar ben hynny i gipio'r wobr aur am y blog Cymreig gorau eleni hefyd. Nid bod y diawl yn haeddu’r wobr wrth gwrs - rwy'n benderfynol o guro'r bastard y flwyddyn nesaf!

Difyr oedd gweld bod fy hen gyfaill Gwilym Euros Roberts yn parhau i fod yn y 50 uchaf er gwaetha'r ffaith bod diweddaru ei flog braidd yn anodd o dan ei amgylchiadau presennol.

Ond y peth wnath rhoi'r pleser mwyaf imi o ran y gwobrau oedd bod fy nau flog wedi curo'r diawliaid trahaus sydd yn honni mai nhw yw cartref gwleidyddiaeth Gymreig. Os nad ydych yn gwybod pwy ydynt, mae'n ddrwg gennyf ond yr wyf wedi cael fy ngwahardd rhag rhoi dolen i'r safle gan fydda hynny, yn ôl un o'r gweinyddwyr, yn gam ddefnyddio eu safle hwy i ennyn trafnidiaeth i fy mlogiau (llawer mwy poblogaidd) i- so twll dy din di Duncan Higget!

Dyma'r canlyniadau:
1 Blog Menai
2 Plaid Wrecsam
3 Syniadau
4 Hen Rech Flin
5 Vaughan Roderick
6 Miserable Old Fart
7 Cardiff Blogger
8 Betsan Powys
9 Peter Black AM
10 Everyone's Favourite Comrade
11 Blog Guto Dafyyd (anhaeddianol mae blog Guto DAFYDD yn llawer gwell)
12 Pendroni
13
14 Welsh Ramblings
15 Freedom Central
16 Bethan Jenkins AM
17 Ffranc Sais
18 Dib Lemming
19 The Druid of Anglesey
20 Valleys Mam
21 Blog yr Hogyn o Rachub
22 Glyn Davies MP
23 Plaid Panteg
24 Polemical Report
25 A Change of Personnel
26 Leanne Wood AM
27 Politics Cymru
28 Blog Answyddogol
29 Liberal Smithy
30 Inside Out - A Jaxxland Perspective
31 Alun Williams
32 Gwilym Euros Roberts
33 Institute of Welsh Affairs
34 Dylan Jones-Evans
35 Borthlas
36 Paul Flynn MP
37 David Cornock
38 Morfablog
39 Red Anorak
40 Mike Priestley
41 07.25 to Paddington
42 Blog Golwg
43 Plaid Cymru Llundain
44 Rene Kinzett
45 This is My Truth
46 Denverstrope
47 Independence Cymru
48 Grangetown Jack
49 Blog Rhys Llwyd
50 Cambria Politico

23/10/2009

Helo Dylan!

Croeso mawr i Dylan Llyr, yr aelod diweddaraf o deulu bach y blogwyr gwleidyddol Cymraeg.

16/09/2009

Cysur i Cai.

Mae Cai druan yn poeni am ei safle yn y blogosffer mawr. Ar hyn o bryd ef yw'r blogiwr gwleidyddol Cymraeg fwyaf poblogaidd yn y Byd i gyd a'r trydydd yng Nghymru fach ddwyieithog. Mae o'n poeni bod Simon am ei guro'r flwyddyn nesaf i'r ail safle o ran blogwyr mwyaf poblogaidd Cangen Caernarfon o Blaid Cymru.

Cafodd y rhestrau lleol eu tynnu allan o restr Prydeinig cynhwysfawr. Mae Guerilla Welsh Fare prif blogiwr Cymru ym mhell ar y blaen yn y rhestr Prydeinig ar rif 36. Mae Blog Menai yn rhif 53 o gymharu a rhif 251 salw Simon. Ond Mae'r ail yn y rhestr Gymreig (blog Saesneg fi) yn rhif 50 sydd yn awgrymu bod fy mwyafrif i dros Cai cyn deneued a mwyafrif Gwynoro dros Gwynfor yn Chwefror '74!

Rhif 146 yw fy mlog Cymraeg. Erbyn ertholiadau blogawl 2010 byddwyf wedi agor cannoedd o gyfrifon e-bost i sicrhau mae fy mlogiau i bydd y gydradd gyntaf trwy'r bydysawd i gyd.

Mae hynt a helynt y blogiau Cymreig eraill i'w gweld yma 1-100; 101 i 200, 201 i 300.

29/05/2009

Mae'r blogiau'n Ddylanwadol!

Rwy'n falch o weld dylanwad blog Yr Hen Rech Flin ar golofnydd Byd y Blogiau yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Golwg.

Y mae o / hi wedi dilyn fy nghyngor i gynnwys URL y blogiau y cyfeirir atynt yn y golofn yr wythnos yma.

Da iawn Golwg!

22/05/2009

Golwg a Byd y Blogiau

Ers rhifyn yr wythnos diwethaf mae fersiwn lladd coed Golwg wedi cynnwys colofn o'r enw Byd y Blogiau. Y rheswm pam bod Golwg yn cynnwys y golofn newydd, yn ôl yr is pennawd, yw oherwydd bod Y Blogiau'n Ddylanwadol.

Mae dylanwad y blogiau yn fater o farn, hwyrach, ond y farn sy'n cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn yw bod y blogiau'n ddylanwadol. Mor ddylanwadol bod angen i Golwg cyhoeddi yr hyn maen nhw'n ei ddweud.

Rwy'n ddiolchgar i awdur y golofn am roi sylw i ddylanwad blog yr Hen Rech Flin yr wythnos diwethaf (er mae at bost ar Miserable Old Fart roedd yr erthygl yn cyfeirio).

Nodwyd post gan Cynical Welshman yr wythnos diwethaf hefyd, er mae post gan y Cynical Dragon ydoedd. Yn y rhifyn cyfredol ceir cyfeiriad at bost gan Welsh Mam, sy'n wir gyfeirio at bost gan Valleys Mam.

Nid hollti blew yw nodi camgymeriadau y golofn. Nid camgymeriadau dibwys mohonynt.

Os ydy Golwg yn credu bod y blogiau'n ddylanwadol, ac yn teimlo bod angen i'w darllenwyr cael gwybod yr hyn y maent yn eu dweud, mae'n rhaid wrth gywirdeb i alluogi darllenwyr y cylchgrawn cael gafael ar y pyst gwreiddiol. Does dim modd dod o hyd i bost Mam trwy roi Welsh Mam i mewn i beiriant chwilio.

Peth hawdd ar y we yw rhoi ddolen i wefan arall. Does dim modd gwneud hynny mewn print. Ond bydda nodyn bach ar waelod y golofn yn nodi cyfeiriadau'r blogiau a gyfeiriwyd atynt yn gymorth.

e.e. Cyfeiriwyd at y blogiau yma yn y golofn:
http://miserableoldfart.blogspot.com
http://henrechflin.blogspot.com/
http://www.cynicaldragon.com/
http://merchmerthyr.blogspot.com/

04/08/2008

Coron i flogiwr.

Damnia, mae fy ngobeithion mae fy mlog i fyddai'r un i'w llefaru yng nghystadleuaeth 122 Eisteddfod y Bala newydd dderbyn glec angheuol gan fod blogiwr arall newydd ennill Goron Brifwyl Caerdydd.

Llongyfarchiadau mawr i Hywel Griffiths o Flog Hywel.

Achos "Annibyniaeth"

Rwyf newydd ddanfon cyfraniad i'r blog Annibyniaeth i Gymru. Mae'r blog wedi bod yn segur am rai misoedd, yn anffodus.

Mae Annibyniaeth yn flog cyfansawdd - un sydd a mwy nag un cyfrannydd. Mantais blog cyfansawdd yw bod modd cyfrannu iddi unwaith yn y pedwar amser, does dim angen "mynd yn rheolaidd" fel petai.

Rwy'n siŵr bod nifer o flogwyr o anian genedlaethol sydd yn teimlo fel gwyntyllu barn wleidyddol o bryd i'w gilydd ond yn teimlo byddai'n "amherthnasol" i’w blogiau hwy. Mae'n debyg bod yna amryw un sydd yn darllen blogiau sy'n teimlo fel dweud ei ddweud dros annibyniaeth i Gymru yn achlysurol, ond nid mor aml ag i gyfiawnhau blog bersonol.

Os hoffech wneud cyfraniad achlysurol i Annibyniaeth cysyllta â Hedd trwy Maes-e, neu fi trwy e-bost (cyfeiriad ar y bar ochor).

Afraid dweud, mae dim ond y sawl sydd yn gefnogol i achos annibyniaeth bydd yn cael eu derbyn fel cyfranwyr :-)

03/08/2008

Gwobrau Blogiau gwleidyddol

Nid ydwyf yn o'r hoff o'r syniad o wobrau am "fynegi barn".

Pan oeddwn yn blentyn rhoddais gynnig ar gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus yn Eisteddfod yr Urdd, a chael y feirniadaeth Alwyn oedd y mwyaf brwd ac argyhoeddedig o'r cystadleuwyr - ond does dim modd caniatáu i'w farn eithafol cael llwyfan cyhoeddus yn yr Eisteddfod!

Pe bawn wedi ffrwyno fy marn eithafol ar gyfer y flwyddyn ganlynol, roedd y feirniadaeth yn awgrymu bod y gallu i gael llwyfan a bri cenedlaethol yna. Ond roedd ac mae'n well gennyf fi ddweud fy nweud yn onest yn hytrach nac ildio i wobr.

Wedi dweud hynny mae dyn yn byw yn y byd sydd ohoni ac mae gwobrau yn cael eu cynnig ac yn gallu bod yn fodd i hyrwyddo barn.

Mae'r blogiwr enwog Iain Dale yn cyhoeddi rhestrau o flogiau gwleidyddol "gorau" yn flynyddol. Mae dod yn uchel ar ei restrau yn gallu cael effaith boddhaol ar y niferoedd sy'n darllen blogiau.

Does dim modd i flog Cymraeg dod i frig y rhestr, wrth gwrs, ond braf bydde gweld ambell un yn y 100 uchaf.

Dyma'r brif blogiau Iaith Gymraeg sydd yn cael eu cyfrif fel blogiau Gwleidyddol:

Hen Rech Flin
Blog Dogfael
Blog Menai
Gwilym Euros Roberts
Blog Answyddogol
Gwenu dan Fysiau

I noddir blogiau hyn danfonwch e-bost i toptenblogs*@*totalpolitics.com.(gwaredwch y sêr) gyda'r pwnc neges "Top Ten", rhestra nhw yn ôl eich dewis o un i chwech ac ychwanega 4 arall atynt i wneud y chwech yn ddeg. (Os yn brin o syniadau mi awgrymaf Miserable Old fart, Ordovicius, Cambria Politico, Amlwch to Magor)

Mae yna ddewis ehangach o flogiau gwleidyddol Cymreig ar gael YMA

Cyn i neb dweud yn wahanol, does dim byd twyllodrus na dan din yn y post yma. Mae hyrwyddwyr y wobr yn erfyn ar flogwyr i ofyn am fôt ar eu blogiau, er mwyn rhoddi bri eang i'r gystadleuaeth.

01/08/2008

Llefarwch fy mlog!

Wrth wenu dan ei fys,
Fe gododd Rhys Wynne ffỳs,
Am wobr hael am flogiad gwael,
Wedi ei ddyfarnu gan Ddogfael.

Mae'r flogodliad uchod yn cyfeirio at bost gan Gwenu dan Fysiau sy'n son am gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cynnig gwobr o £200 am ysgrifennu blog. Fel mae nifer wedi dweud yn y sylwadau i gofnod Rhys, mae yna rywbeth od ar y naw am gofnod blog sydd ddim ar y we. Yr hyn sydd yn gwneud post ar flog yn bost ar flog yw ei lleoliad ar y we. Heb fod ar y we mae'n gofnod dyddiadur, llythyr i olygydd y Cymro neu ddarn cyffredin o lenyddiaeth. Fel mae Nic yn nodi Mae blog heb HTML fel englyn heb gynghanedd.

Rwyf wedi sylwi ar gystadlaethau tebyg mewn eisteddfodau blaenorol, yn gofyn am dudalennau we sydd ddim i'w cyhoeddi ar y we er mwyn eu cadw yn ddienw ac yn anhysbys cyn y feirniadaeth. Wrth chwilio trwy restr testunau Eisteddfod y Bala 2009 roeddwn yn hanner ddisgwyl cystadleuaeth am dudalen Facebook nad wyt yn cael son amdani wrth dy ffrindiau rhag torri amodau'r ŵyl.

Cefais hyd i rywbeth llawer llawer gwell yn y rhestr testunau, sef cystadleuaeth rhif 122 Darllen Blog Amser rhwng 3 a 5 munud Gwobrau 1 £60; 2 £30, 3 £20.

Byddai'n anrhydedd mawr pe dewiswyd erthygl o'r blog yma fel un i'w adrodd ar lwyfan yr Eisteddfod, felly mae'n rhaid imi godi fy mhyst i safon gwerth eu llefaru. Dyma sydd i gyfrif am y flogodliad cychwynnol:

Fel bod y cystadleuwyr fel un dyn
Yn dewis darllen o flog yr Hen Rech Flin.

I ddod yn fuan:
Telyneg am broblemau bins Sir Conwy
Soned i ymryson DI ac Elfyn am lywyddiaeth y Blaid
Cywydd i ymadawiad Brown o'r brif weinidogaeth (wedi ei osod ar gainc Alwyn o'r Blog Wen - rhag ofn bod yr Ŵyl Gerdd Dant am ddilyn arweiniad yr Eisteddfod.)

19/02/2008

Mensh i Ddyfrig

Mae Dyfrig, pen bandit y cylchgrawn Barn yn ymffrostio yn ei bost diweddaraf dwi wedi llwyddo i gael mensh ym mlog Vaughan Roderick.

Twt lol botas, mae Vaughan yn desparet ac yn ddolenni at unrhyw fath o flog.

Dyma anrhydedd go iawn - yr wyt newydd gael mensh ar flog yr Hen Rech Flin!

16/01/2008

15/01/2008

10/01/2008

Blogiau o Gernyw

Dau ( neu ddwy? Cwestiwn i'w gofyn ar Faes-e) Flog sy'n trafod yr ymgyrch genedlaethol yng Nghernyw sydd werth eu gosod ar eich darllenydd yw:

Cornish Democrat. Blog cyfansawdd sydd yn ymdrin â nifer o agweddau o'r sin gwleidyddol yng Nghernyw ac yn cyhoeddi nifer o ddatganiadau gan y Gyngres Geltaidd.

Y Cyng. Dick Cole yw arweinydd Plaid Genedlaethol Cernyw, Mebyon Kernow (Meibion Cernyw) ac yn un sydd yn gwybod o iawn brofiad pa mor ddau wynebog mae'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn gallu bod o gymharu eu hagwedd tuag at Gernyw a'r Gernyweg a'r ffug gefnogaeth y maent yn rhoi i Gymru a'r Gymraeg.

Gan nad ydwyf yn ddeall mawr dim o'r Llydaweg na'r Ffrangeg rwy'n cael anhawster cael dolenni at yr ymgyrch cenedlaethol ac ieithyddol yn Llydaw. Os oes darllenydd mwy amlieithog nag ydwyf i yn gwybod am rai, mi fyddwn yn falch o'u cael er mwyn eu gosod yn y golofn ochor.