Showing posts with label Barddoniaeth. Show all posts
Showing posts with label Barddoniaeth. Show all posts

16/08/2015

Ymddiheuro am y Steddfod

Mi fwynheais raglen y bardd Benjamin Zephaniah ar y BBC am yr Eisteddfod, fe wnaeth ambell i sylw ardderchog, megis mae adeiladwyr, a phlymwyr a phobl gyffredin yw mynychwyr yr Eisteddfod, nid y crach sydd yn mynychu gwyliau tebyg yn Lloegr - rhywbeth i'w gofio pan fo'r Blaid Lafur, yn cyhuddo'r Gymraeg o fod yn Iaith y Crachach, eto byth a gofyn am adolygiad, eto, i ehangder apêl yr Eisteddfod.

Un o'r elfennau o'r rhaglen nad oeddwn yn hoff ohoni oedd yr "ymddiheuriad" bron gan ambell i Gymro a ymddangosodd ar y rhaglen am sylfeini "ffug" yr eisteddfod. Mae pawb yn gwybod mae ffantasi dan ddylanwad cyffuriau Iolo Morgannwg yw'r orsedd a'i rhwysg, ond ffantasi a seiliwyd ar wirionedd. Roedd Iolo yn gelwyddgi penigamp, gofynnwch i unrhyw heddwas - mae'r celwydd anoddaf i'w gwrthbrofi yw'r un sydd â sail gwirionedd ynddi, mae sail wirioneddol yn hanes y Derwyddon ers dros 2,000 mlynedd, mae sail Cadeirio bardd ers 700 mlynedd, mae'r sail canu cerdd dant a chanu cynghanedd yn draddodiadau sy'n bod, heb angen ffug hanes iddynt.

Syr John Morris Jones, wrth gwrs, dechreuodd y traddodiad o ymddiheuro am yr Eisteddfod. Dyn a wrthododd cael ei Urddo i Orsedd y Beirdd, gan fod Gorsedd y Beirdd yn "ffug", ond dyn a dderbyniodd ei urddo'n Marchog, er gwaetha'r ffaith na fu'n marchogaeth ceffyl mewn rhyfel erioed! Ond dyn oedd yn digon bodlon torri holl reolau'r marchog i gynghreiriodd efo Lloyd George i sicrhau marwolaeth milwr, Hedd Wyn, er mwyn creu "ffug" propaganda Rhyfel Eisteddfod Penbedw!

Yr hyn sydd fwyaf chwerthinllyd am yr ymddiheuriad am ffug hanes yr Eisteddfod, yw clywed Huw Edwards, mab Hywel Teifi Edwards, yr awdurdod mwyaf ar hanes ffug rhwysg yr Eisteddfod, yn sylwebu ar hen hanes a thraddodiadau Agoriad Wladol y Senedd. Ni agorwyd y Senedd gyda rhwysg y "State Opening" cyn i'r Arglwydd Esher ail greu traddodiad ar gyfer y Brenin Edward VII ym 1901. Perthyn i'w gyfnod ef mae'r cau drws cyn cnoc y Rod Du, cadw'r prif chwip yn wystl ac ati, nid hen, hen hanes a thraddodiad. Lol botas o draddodiad sydd gan mlwydd yn iau na thraddodiad yr Eisteddfod fodern ydyw!

Ond pwy sy'n dal ymddiheuro?

25/11/2011

Stat Porn Od

Yr wyf i a fy nghymdogion wedi bod yn cael trafferthion efo'r llinell ffôn ers dros wythnos, diolch i'r drefn daeth dyn bach caredig o gwmni BT acw pnawn' ddoe i drwsio'r gwall. Gan fod fy nghysylltiad â'r we yn dod trwy'r llinell ffôn hefyd yr wyf wedi methu cael mynediad i'r WWW ers dros wythnos chwaith!

Dydy stat-porn ddim yn rhywbeth sydd yn fy mhoeni lawer, prin ar y diawl y byddwyf yn gwirio faint o bobl sydd wedi ymweld â fy mlogiau a fy ngwefannau. Ond wedi wythnos o ddiffyg mynediad i'r we mi wiriais y ffigyrau er mwyn canfod faint o iawndal i fynnu am ddiffyg gwasanaeth.

Ond dyma beth od, mae mwy o bobl wedi ymweld â Blog Hen Rech Flin a Blog Miserable Old Fart yn ystod yr wythnos diwethaf nag erioed o'r blaen! Nid Cymry sy'n eiddgar am fy marn ar bynciau llosg y dydd mohonynt, ysywaeth, ond bobl sy'n dod o barth .UA - sef yr Iwcrain - yn chwilio am Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw? Darn o farddoniaeth a bostiais fel ymateb i'r glymblaid rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yn ôl yn 2007

A oes gan unrhyw un unrhyw syniad paham bod Marwnad Gruffudd ab yr Ynad Goch i Llywelyn ein Llyw Olaf o'r fath diddordeb cyfoes i bobl yr Iwcrain?