Showing posts with label #plaidconf. Show all posts
Showing posts with label #plaidconf. Show all posts

10/09/2011

Ieuan Carasmataidd?

Rwyf newydd gael cyfle i wrando ar araith Ieuan Wyn i Gynhadledd y Blaid, roeddwn yn cytuno ag ambell i beth yr oedd o'n dweud ac yn anghytuno ag ambell i bwynt. Prin fod dim byd newydd nac yn annisgwyl yn sylwedd yr araith. Yr hyn oedd yn annisgwyl imi oedd arddull yr araith. Prin byddai selogion mwyaf cibddall y Blaid yn honni bod Ieuan wedi bod ym mysg areithwyr gwleidyddol gorau ein gwlad - dydy o ddim yn Lloyd George nac yn Nye Bevan nac hyd yn oed yn Adam Price - ond 'yw, roedd fflachiadau o areithiwr tanbaid, angerddol, twymgalon yn dod drosodd yn araith ddoe. Byddai neb yn defnyddio'r geiriau Carismataidd a Ieuan Wyn yn yr un frawddeg fel arfer, ond roedd yna egin o garisma yn ei draddodi ddoe.

Mae hyn yn codi cwestiwn neu ddau : lle mae'r arweinydd a welwyd ddoe wedi bod yn cuddio am y 11 mlynedd diwethaf? Lle bu'r gwleidydd a oedd yn dod a'i yrfa at ei derfyn ddoe wedi bod trwy weddill ei yrfa? Awgrymodd y gohebydd John Stevenson bod Ieuan wedi gwneud cystal gan ei fod wedi ei rhyddhau o bwysau ei gyfrifoldebau a hualau ei swydd. Os yw John yn gywir rhaid gofyn pam diawl bod Plaid Cymru (neu unrhyw blaid, os ddaw i hynny) yn gosod y fath gaethiwed a hualau ar arweinydd?

09/09/2011

DET - Athro neu Arweinydd?

Cocyn hawdd ei hitio yw Dafydd Elis Thomas, y lladmerydd mwyaf wrth Ewrop yn ystod refferendwm 1975 a drodd Plaid Cymru yn Blaid Cymru yn Ewrop. Y sosialydd a drodd yn Arglwydd ac yn Cwangocrat. Y cenedlaetholwr tanbaid a drodd yn ôl cenedlaetholwr ar sail rhyw ychydig bach o ddatganoli yn hytrach na gwireddu'r breuddwyd cenedlaethol. Bradwr dauwynebog dan din?

Ond mae ymwrthod a DET yn simplistig oherwydd anghytundebau arwynebol yn gwneud cam ag un o fawrion y genedl a'r achos cenedlaethol!

Do, fe gafodd Plaid Cymru etholiadau gwael eleni a llynedd, ond o gymharu sefyllfa'r Blaid pan gafodd DET ei ddewis yn ymgeisydd seneddol am y tro cyntaf mae'r Blaid a'r genedl yn gryfach heddiw nag y bydda unrhyw aelod yn gallu dirnad deugain mlynedd yn ôl, ac mae'r diolch am lawer o'r cynnydd yna'n perthyn yn uniongyrchol i DET.

Rhan o enigma Dafydd Êl yw, er gwaetha'r ffaith ei fod wedi bod yn wleidydd am ran fwyaf ei oes, nid gwleidydd mohono, ond athro. Dysgu'r Blaid a dysgu'r genedl bu ei genhadaeth yn hytrach na'i harwain. Rhinwedd / gwndid y mae o'n rhannu efo Saunders a Gwynfor. Un o fethiannau Plaid Cymru fel Plaid bu trin yr academyddion hyn fel arweinwyr gwleidyddol yn hytrach nag athrawon!

Un o'r pethau bydd athrawon yn eu gwneud yw cynnig gosodiad efo'r her trafodwch yn ei ddilyn. ee Oliver Cromwell oedd yr arweinydd gorau yn Ewrop ei gyfnod - trafodwch! Pwrpas y fath osodiad yw cael disgyblion i bwyso'r dadleuon o blaid ac yn erbyn y gosodiad ac o'u pwyso yn y fantol dod i ganlyniad! Dyma fu her academaidd DET i Blaid Cymru a'r Genedl hefyd.

Wedi refferendwm 1975 - Mae yna le i Gymru llwyddo fel gwlad fach yn y Gymuned Ewropeaidd - Trafodwch!

Wedi methiant 1979 - Mae Cymru am gael ei redeg gan Cwangos - mae'n rhaid sicrhau lle ar y Cwangos i Gymru dda. Trafodwch!

Wedi i Neil Kinnock taflu'r Sosialwyr allan o'r Blaid Lafur Mae yna le ym Mhlaid Cymru i'r sosialwyr di gartref. Trafodwch!

Wedi pasio Deddf yr Iaith 1993 Mae brwydr yr iaith ar ben! Trafodwch!

Drwg y Blaid bu derbyn sylwadau DET fel sylwadau arweinydd sydd raid eu dilyn, yn hytrach na'u trafod, a gan hynny eu derbyn yn di-drafodaeth.

Drwg DET oedd credu ei fod wedi cael ymateb teg i'w testun trafodaeth gan y Blaid!

Yn ôl y Daily Post mae Dafydd wedi dweud:

Mae Annibyniaeth Cyfansoddiadol yn rhithlun. Mae'n gwleidyddiaeth rithwir, nid yw'n gwleidyddiaeth go iawn - ond fe anghofiodd y Daily Post rhoi’r gair trafodwch ar ôl y sylw!

Mae'n rhaid i Blaid Cymru mynd yn ôl i fod yn llyfwyr tin y Blaid Lafur yn y Cynulliad er mwyn cael dylanwad ar Lywodraeth! TRAFODWCH a thrafodwch yn ddwys – da chi!

Mae cyfraniad Dafydd Elis i'r achos cenedlaethol wedi bod yn enfawr, rwy’n ddiolchgar iddo ac yn eiddgar na fu fy nghyfraniad cystal â'i un ef, ond mae'n rhaid cofio bod modd trafod yn barchus a dod i ganlyniad sy' ddim yn dilyn yr athro!

Ac efo pob parch i DET, Gwynfor a Saunders, hwyrach bod cyfnod wedi dod lle bo angen arweinydd gwleidyddol go iawn, nid athro, ar y Blaid a'r Genedl!