15/10/2016

Diolch Dafydd

Fel un sydd wedi pleidleisio i Blaid Cymru ym mhob etholiad, lle fu ymgeisydd Plaid Cymru, ers imi ddyfod yn ddigon hen i bleidleisio, rwyf mor siomedig ag aelodau eraill o'r Blaid bod Dafydd Êl wedi ymadael a grŵp y Blaid yn y Cynulliad. Wedi dweud hynny rwyf hefyd yn siomedig efo rhai o'r sylwadau gwenwynig sydd yn cael ei wneud am Dafydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn ei benderfyniad.

Eleni bydd Dafydd yn cyrraedd oed yr addewid; am 60 o'i 70 mlynedd mae o wedi rhoi gwasanaeth clodwiw i Blaid Cymru; wrth iddo ymadael dylem ddiolch o galon iddo am ddiwrnod hir a da o waith.

Ydi, mae o wedi bod yn ddraenen yn ystlys y Blaid ar sawl achlysur yn ystod ei drigain mlynedd o wasanaeth, ond mae'r Blaid yr hyn ydyw heddiw o herwydd y ddraenen honno.

Yn ystod y gynhadledd gyntaf imi fynychu tua diwedd y 70au /dechrau'r 80au, bu cynnig gerbron gan y grŵp ieuenctid i gefnogi hawliau pobl hoyw; bu nifer o fawrion y Blaid (gan gynnwys asiant DET) yn bygwth ymadael a'r Blaid pe bai'r cynnig yn cael ei drafod (nid ei basio, ei DRAFOD); tynnwyd y cynnig, er lles y Blaid, penderfyniad a gondemniwyd gan DET; bellach mae'r Blaid yn cytuno a'i gyn annheyrngarwch parthed hawliau cyfartal.
Ym 1970, pan safodd DET dros y Blaid am y tro cyntaf, roedd yn blaid weddol geidwadol, Dafydd fu'r lladmerydd dros ei dynnu i'r chwith (penderfyniad nad oeddwn, ac nid ydwyf, yn cytuno a hi). Roedd Dafydd yn uchel ei groch yn cefnogi streic y glowyr, pan oedd mwyafrif y Blaid yn credu nad oedd yn bwnc cenedlaetholgar. Heb y symud i'r chwith a chefnogaeth i'r glowyr, byddai pobl fel Leanne Wood, Adam Price a llawer un arall yn aelodau Plaid Cymru heddiw?
Ym 1975, roedd Plaid Cymru yn gwrthwynebu aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, er bod Wigley eisoes o blaid Ewrop, Thomas fu'n bennaf gyfrifol am droi barn mwyafrif y Blaid tuag at Ewrop; DET yw "tad", yr holl ralïau "Cymru Annibynnol yn Ewrop" a gynhaliwyd dros y 3 mis diwethaf.

Beth bynnag eich barn wleidyddol am DET, gall neb amau na fu DET yn aelod etholaethol da yn San Steffan a'r Bae am gyfnod o dros 40 mlynedd. Mae Dafydd wedi gwasanaethu ei etholwyr, o bob plaid, yn driw a bod ei waith fel aelod etholaethol da wedi cryfhau brand y Blaid ar draws y cymunedau mewn sawl etholaeth, bellach.

Yn bersonol, bu Dafydd yn gyfaill ac yn fentor i mi. Y tro cyntaf i mi ei gyfarfod roeddwn yn aelod 15 oed, hyf, o'r Blaid Ryddfrydol. Mynychais un o'i gyfarfodydd cymhorthfa gyntaf i fynnu bod o'n dweud wrthyf, fel fy AS, am bopeth roedd o'n wneud yn y Senedd er mwyn imi gael ei herio yn yr etholiad nesaf, pan fyddwn yn ddigon hen i'w herio. Yn hytrach na chael y ffyc off roeddwn yn haeddu am fod yn gôc oen hunan tybus, rhoddodd cyngor imi fod rhaid i wleidydd Cymreig siarad Cymraeg, a rhoddodd cyfle imi drafod gwleidyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy Nghymraeg simsan ail iaith ar ddiwedd pob cymhorthfa yn Nolgellau. Oni bai amdano, byddai dim modd imi ysgrifennu'r pwt o gyfraniad hon i'r bologesffêr Gymraeg

Rwy'n rhannu'r siom, rwy'n brifo'n arw, wedi clywed am benderfyniad DET, ond rwy'n dal i ddiolch iddo am ei gyfraniad mawr.