09/02/2016

Cymru yn Ewrop

Dyma neges gan Blaid Cymru yn cefnogi pleidlais o blaid i'r DU aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd:

Mae Cymru yn elwa o fod yn rhan o’r UE, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.

Mae’r UE wedi helpu i sefydlu heddwch ac i gynnal heddwch yn Ewrop: rôl yr ydym yn ei gwerthfawrogi a rhywbeth na ddylid fyth ei anghofio.

Mae bron i 200,000 o swyddi yng Nghymru yn gysylltiedig â’n mynediad i’r Farchnad Sengl a’i hanner biliwn o bobl. Mae miloedd o fyfyrwyr a phobl ifanc yn elwa o
raglenni UE sy’n eu galluogi i astudio a gweithio mewn gwledydd eraill a dysgu ieithoedd newydd.

Dyma ond rhai o’r manteision i Gymru. A diolch i’r UE mae gennym gyfreithiau ar gydraddoldeb, ar yr amgylchedd, ar hawliau gweithwyr a phrynwyr, ar amaeth ac ansawdd bwyd, i daclo newid hinsawdd a llawer mwy.

Mae’r Deyrnas Gyfunol eisoes yn eithrio ei hun o ardal deithio’r Schengen, sef pam fod gennym reolaeth pasbort o hyn ar ffiniau allanol y DU. Ac wrth gwrs, wnaethom ni erioed ymuno â’r Ewro.

Mae llawer yr hoffem ei newid am yr UE, ond dim ond o’r tu mewn y gellir gwneud hynny. Does dim pwynt cwyno o’r cyrion. Yn hytrach, rydym yn dewis gweithio gyda’n chwaer bleidiau yng Nghyngrhair Rhydd Ewrop a chydweithwyr blaengar ledled yr UE. Dyna sut y byddwn yn sicrhau Ewrop fwy agored, democrataidd ac effeithiol ble y gall Cymru chwarae ei rhan yn llawn.

No comments:

Post a Comment