17/06/2015

Achub Pantycelyn neu achub yr Iaith?

Mae gennyf pob parch dros y sawl sydd wrthi'n meddiannu Neuadd Pantycelyn ar hyn o bryd. Mae pob safiad dros yr iaith yn haeddu parch, ond mae gennyf bryderon enfawr am sail eu safiad.

Mi fûm yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor am gyfnod hynod ber yn nechrau'r 1980au ac yn breswylydd Neuadd JMJ y cyfnod, sef yr "Univerity Hall" cynt a sefydlwyd yn ystod taernasiad Victoria (symudodd JMJ drws nesaf i'r hen Neuadd Rathbone wedyn).

Roedd y neuadd, hyd yn oed yn yr 1980au, yn llety gwael. Roedd symud o dŷ cyngor lle'r oedd dau doiled (efo PST meddal) ac un bath i saith o honnom, i neuadd lle 'roedd coridor cyfan yn rhannu bath a geudy (efo papur IZAL caled) yn sylymio, hyd yn oed i hogyn fel fi! Yr Iôr a ŵyr be oedd barn fy nghyd fyfyrwyr o gefndiroedd mwy sedêt o'r lle!

Roedd fy nghyfnod byr yn JMJ yng nghyd fynd ag un allweddol yn hanes yr ymgyrch iaith, cyfnod brwydr y sianel, cyfnod elyniaeth Adfer a CIG, cyfnod MG, cyfnod UMCB v NUS ac ati, cyfnod Gwerin v Roc v Siwpergrwp yn y byd cerddorol, ac o fyw yn JMJ yr oeddwn yn teimlo fy mod yn byw yng nghanol berw brwydr dyfodol y genedl.

Wrth ymweld â chyfeillion ym Mhantycelyn, tebyg oedd eu llety a'u profiad hwy, ar y pryd. (Ar y pryd roedd myfyrwyr yn cael eu talu grant am eu myfyrdodau, bellach mae'n rhaid iddynt dalu am y fraint o fod yn efrydydd!)

Rwy'n fodlon derbyn bod Pantycelyn wedi ei uwchraddio ychydig ers y 1980au ond mae'n parhau yn debycach i brofiad y 1980au (a'r 1880au) na phrofiad y rhan fwyaf o fyfyrwyr Prydain sy'n byw mewn fflatiau en suit y 2010au.

Rwy'n gwybod am sawl berson ifanc Cymraeg ei iaith sydd wedi ymwrthod a Phantycelyn ac wedi dod yn rhan o brofiad Saesneg Pentref y Myfyrwyr ym Mhenglais; rhai sydd wedi dewis Prifysgolion yn Lloegr yn hytrach nag Aber, o herwydd y disgwyl iddynt breswylio ym Mhanty, o ddewis Aber.

Waeth i Achubwyr Pantycelyn derbyn bod disgwyliadau myfyrwyr am ddarpariaeth llety wedi newid ers y 1980au, y 1960au ac yn sicr ers y 1880au, do fe fu cyfraniad Pantycelyn, JMJ ac Univeristy Hall yn arbennig ym mharhad yr iaith, ond mae ceisio cadw sylfaen darpariaeth hen ffasiwn fel yr University Hall er mwn achub yr iaith megis dweud mai rhywbeth sy'n perthyn i'r 1880au yw'r Gymraeg!

Rhaid darparu'r safonau llety gorau i'r Cymry cyfoes er mwyn eu taenu i'n prifysgolion, yn anffodus dyw Pantycelyn, hen ffasiwn, dim yn cyflenwi'r fath darpariaeth bellach!