21/04/2015

Y Lle am Lansiad Maniffesto

Does dim ots am eich barn am y blaid, ei pholisïau a'i phersonoliaethau, prin y gall unrhyw un anghytuno mae'r SNP yw enillwyr y frwydr i gynnal lansiad maniffesto yn y lleoliad mwyaf trawiadol.



Mae'r Edinburgh International Climbing Arena, wedi cael cyhoeddusrwydd byd eang gwerth miliynau o hysbys am ddim trwy'r i gyfryngau'r byd casglu yno i adrodd ar gynnwys Maniffesto'r SNP. Sy'n gwneud i ddyn meddwl pam bod pleidiau Cymru heb gael yr un weledigaeth?

Meddyliwch am Leanne yn cyhoeddi polisïau ei phlaid trwy wibio dros 100 milltir yr awr yn Zip World, neu Carwyn yn bownsio pob polisi Llafur yn Bounce Below, neu Andrew RT yn cyhoeddi ei bolisïau ymysg dinosoriaid Tan yr Ogof, neu Nick Clegg yn lansio ei faniffesto mewn man bydd digon mawr i gynnal Cynhadledd y LibDems y flwyddyn nesaf:

1 comment:

  1. Mae'r teimladau wrth wraidd y sylwadau uchod ymhlith y rhai callaf a ymddangosodd erioed ar yr Hen Rech Flin !

    ReplyDelete