06/03/2015

Mae Croeso yma i Dylan Llyr

You are blocked from following @dylanllyr and viewing @dylanllyr's Tweets.

Y mae pob ymateb yr wyf yn postio ar flog Anffyddiaeth yn cael ei ddileu.

Nid ydwyf yn cael bod yn "ffrind "i Dylan ar Facebook!

Mae croeso i Dylan darllen fy nhrydar dros achos Cymru, Crist a Chyd ddyn, mae croeso i Dylan postio barn yn yr adran sylwadau ar unrhyw post ar fy mlogiau; mae croeso i Dylan bod yn ddigon o ffrind i drafod a chytuno i anghytuno ar y Weplyfr.

Ond "blocio" yw ymateb Dylan. Sy'n dangos diffyg ffydd yn ei anffyddiaeth. Be di pwynt cael blog efo'r enw Anffyddiaeth sydd yn ofni trafod efo bobl o ffydd?!

A'i chachwr yw Dylan Llŷr, neu enaid sydd mor agos at achubiaeth, ei fod yn ofni cadwedigaeth?

2 comments:

  1. Anonymous8:31 pm

    Falle bod e jyst ddim yn lico ti, a dim i neud â chryfder ei farn.
    jyst meddwl, like.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Hyd y gwyddwn, dim ond unwaith yr wyf wedi cyfarfod a Dylan yn y cnawd, a hynny am ychydig eiliadau cyn cyfrannu i raglen Radio Cymru tua deng mlynedd yn ôl. Gan hynny rwy'n amau mae atgasedd personol sy'n gyfrifol.

      A gan fod Dylan yn dueddol o flocio a dileu negeseuon pawb sydd yn anghytuno ag ef, rwy'n credu ei fod naill ai yn ddihyder ei allu i drafod a phobl sy'n anghytuno a'i farn, neu mor agos at achubiaeth ei fod yn ofni tröedigaeth trwy drafod ei farn.

      Delete