25/03/2015

Diwedd y Cyngor Cymuned

Mae llawer o drafod wedi bod ar yr angen i leihau'r nifer o Gynghorau Sir yng Nghymru, gyda chonsensws ar yr angen i gael llai na'r 22 bresennol (er nad oes fawr o gytundeb ar siâp y fath gynghorau). Un elfen o'r Papur Gwyn Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni - Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol ar ddiwygio'r cynghorau sydd heb gael llawer o sylw yw'r cymylau ar ddiwygio'r cynghorau tref a chymuned; mae'r cymylau hyn yn peri pryder i mi fel aelod o gyngor cymuned. Yr awgrym yw bod cyngor yn "gymwys" i barhau fel cyngor cymuned os yw ei gyllideb dros £250,000 y flwyddyn. Mae'r cyngor cymuned yr wyf i yn aelod ohoni yn casglu tua £40K y flwyddyn ac yn gwario tua £35K y flwyddyn.

Mae'r hyn mae'r cyngor yn cyflawni efo'i £25 y cartref pob blwyddyn yn hynod bwysig i'r gymuned; yn wir mae'n sicrhau mae cymuned ydy'r plwyf, nid jest lle i bobl sy'n gweithio a siopa tu allan i'r llan cael cysgu. Yr ydym yn sicrhau bod llwybrau cyhoeddus yn aros ar agor, yr ydym yn trefnu gweithgareddau cymunedol i gadw'r llan yn daclus, yn cefnogi grŵp hybu'r Gymraeg yn y llan, yn cefnogi dau grŵp drama, yn rhoi nawdd i grwpiau ieuenctid megis yr Urdd a'r Sgowtiaid; yn cefnogi tîm pêl droed a chymdeithas chwaraeon, yn cefnogi cymdeithasau hanes, yn cynnal neuaddau cyhoeddus, yn trefnu digwyddiadau cymunedol i'r henoed a llwyth o bethau eraill sydd yn creu bywyd cymunedol glos mewn cymuned byddai mewn peryg o droi'n "stafell gwely" heb ein mwynbwn.

I gael cyllid o dros chwarter miliwn, a pharhau'n gymwys, mae gennym ddewis:

1 Cynyddu’r dreth o £25 y cartref i £600 y cartref

2. Uno efo cymuned fawr gyfagos megis Llandudno, Conwy neu Fae Colwyn a bod yn ddim byd ond ploryn ar din y dref bwysig

3 Uno efo cynghorau bychain eraill y fro i greu "cymuned" dros 600 milltir sgwâr

Colled i'r llan byddid pob dewis!

Mae Cyngor Cymuned Llansanffraid Glan Conwy wedi ffieiddio gymaint gyda'r trefniadau a grybwyllwyd fel ein bod wedi ymateb yn chwyrn i'r ymgynghoriad ac wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus er mwyn annog ein cyd brodorion i fynegi eu gwrthwynebiad i'r newidiadau arfaethedig.

Rwy'n synnu nad ydwyf wedi clywed ymateb chwyrn gan aelodau a chefnogwyr cymunedau eraill Cymru i fwriad Llywodraeth y Cynulliad i ddileu llais unigryw ein cymunedau bach.

No comments:

Post a Comment