18/01/2015

Gweddïwch Dros Dylan Llŷr


Un doniol yw Dylan Llŷr, prif ladmerydd Rhyddid Barn yn Lloegr a Ffrainc, ond yr un mwyaf annioddefol o ran caniatáu'r fath ryddid yng Nghymru.

Mae Dylan yn anghrediniwr rhonc (meddai fo) ac yn cadw Blog o'r enw Anffyddiaeth lle mae o'n pregethu ei efengyl o ffobia at grefydd, wrth dangos y fath ddiffyg ffydd yn ei anffyddiaeth bod o'n methu dadlau'r achos efo credinwyr!

Mae Dylan yn ysgrifennu Epistolau sydd yn dangos pa mor agos ydyw at eisio cael ei achub trwy ras Crist, ond eto yn ymwrthod ag unrhyw sylw sydd yn dangos gwendid ei ddadleuon, gan eu deleu.

Diffyg ffydd yn ei anffyddiaeth sydd yn gyfrifol am ei fethiant i gyhoeddi barn amgen ar dudalennau sylwadau ei flog. Dyma anffyddiwr sydd mor agos at ras, fy mod yn sicr y bydd, cyn bo hir, yn blogio'r Efengyl!

1 comment:

  1. Gwir iawn, mae'n dod drosodd yn hysteraidd braidd mewn sawl blogiad, bron nes fod ei rethreg yn darllen fel rhywbeth gan grefyddwr ffwndamentalaidd!!

    ReplyDelete