18/01/2015

Gweddïwch Dros Dylan Llŷr


Un doniol yw Dylan Llŷr, prif ladmerydd Rhyddid Barn yn Lloegr a Ffrainc, ond yr un mwyaf annioddefol o ran caniatáu'r fath ryddid yng Nghymru.

Mae Dylan yn anghrediniwr rhonc (meddai fo) ac yn cadw Blog o'r enw Anffyddiaeth lle mae o'n pregethu ei efengyl o ffobia at grefydd, wrth dangos y fath ddiffyg ffydd yn ei anffyddiaeth bod o'n methu dadlau'r achos efo credinwyr!

Mae Dylan yn ysgrifennu Epistolau sydd yn dangos pa mor agos ydyw at eisio cael ei achub trwy ras Crist, ond eto yn ymwrthod ag unrhyw sylw sydd yn dangos gwendid ei ddadleuon, gan eu deleu.

Diffyg ffydd yn ei anffyddiaeth sydd yn gyfrifol am ei fethiant i gyhoeddi barn amgen ar dudalennau sylwadau ei flog. Dyma anffyddiwr sydd mor agos at ras, fy mod yn sicr y bydd, cyn bo hir, yn blogio'r Efengyl!

16/01/2015

Pa mor Rydd yw Rhyddid Barn?

Mewn nifer o byst ar fy mlogiau ac ar y diweddar Maes-E yr wyf wedi mynegi'r farn bod ymddygiad gwrywgydiol yn ddewisol. Nid ydwyf erioed wedi awgrymu bod y fath dewis yn wrthyn, yn wir yr wyf wedi dweud ei fod yn ddewis imi ei fwynhau, - ond mae "dewis"' yn groes i'r uniongredaeth gan hynny yr wyf yn cael fy ngwatwar yn ffiaidd o feiddio honni'r cysyniad o ddewis wrywgydiaeth. Yr wyf wedi fy nghondemnio'n "homophobe"!

Llathryd (rape) yw'r ail drosedd gwaethaf yng nghyfraith Lloegr ar ôl Lofruddiaeth, mae'r rheswm am hynny yn ofnadwy o an-PC - dwyn trysor dyn oedd dwyn gwyryfdod ei ferch! Byddai unrhyw awgrym o wneud rape yn drosedd llai difrifol (ond haws ei erlyn) ar sail y newid rhwng perthynas dyn a dynes mewn cymdeithas fwy rhyddfrydol eu moesau rhywiol yn cael ei gondemnio'n groch gan ffeministiaid fel agwedd misogynist anfaddeuol.

"Onid yw hiliaeth yn rhan o natur yr anifail llwythog dynol? - Pan oedd y Llychlynnwr yn ymosod ar Gymru yn yr 11 ganrif, a oeddem yn dadlau bod stereoteipio wrth Lychlynnaidd yn wrthun a chondemnio'r wrth Lychlynwyr fel hilgwn - nag oeddem wir?" - Trafodwch! - Dim ffiars o beryg!

Cwestiynau na ellir eu trafod yn rhydd, gan fod y rhan fwyaf o gefnogwyr rhyddid Charlie Hebdo, yn gyfyng ar y diawl o ganiatáu trafodaeth rydd ar bynciau lle bid barn amgen yn wrthyn iddynt!

15/01/2015

Je ne suis pas Charlie


Rwy'n teimlo'n anghynnes parthed rhan o'r naratif sydd wedi codi ers yr erchyllterau yn Ffrainc yr wythnos diwethaf.

Yr wyf, yn ddiamheuaeth, yn cefnogi rhyddid barn a hawl newyddiadurwyr / sylwebwyr / blogwyr (hyd yn oed) i sarhau unrhyw gredo, ond dyw cefnogi rhyddid barn ddim yn gyfystyr a gorfod sarhau!

Y cyhuddiad o lwfrdra, ildio i derfysgaeth, diffyg cefnogaeth i achos ryddid ac ati sy'n cael ei daflu at y sawl sy'n gwrthod ail gyhoeddi cartwnau Charlie Hebdo sydd yn fy mhoeni. Os mae ofn, yn unig, yw'r rheswm dros beidio cyhoeddi - digon teg; ond fel y mae rhyddid yn rhoi imi'r hawl i sarhau, mae hefyd yn rhoi imi'r hawl i barchu. Ac os yw papur yn dewis peidio ail gyhoeddi'r cartwnau ar sail parch (yn hytrach nag ofn) rhaid amddiffyn eu hawl hwy gymaint, os nad fwy, a hawl y sawl sydd am ail gyhoeddi'r cartwnau sarhaus.

Nid gwendid yw dweud Rwy'n parchu dy ffydd a dy hawl i arddel y ffydd honno, ac nid ydwyf am dy sarhau o'i herwydd, ond cryfder yn erbyn y sawl sy'n camddefnyddio rhyddid fel moes am yr uniongrededd cyfoes!