15/10/2014

Sut mae dod yn berchennog parth dot.cymru / dot.wales?


Pan ddaeth y parthau dot-me-dot-uk ar gael mi brynais, drwy gwmni a oedd yn darparu gwefannau, y wefan dolgellau.me.uk. Creais wefan o filoedd o dudalennau efo llwyth o wybodaeth hanes lleol a hanes teuluol ardal bro fy mebyd. Llogais le ar y we am ddwy flynedd am rent eithriadol rhad (tua £10 y flwyddyn os gofiaf yn iawn); ym mhen y ddwy flynedd cododd y rhent i grog pris. Er mwyn cadw'r wefan yn fyw gofynnwyd am rent o gannoedd o bunnoedd yn fwy nag oeddwn yn fodlon talu am wasanaeth gwirfoddol.

Wedi gweithio'n socs off i drawsysgrifio manylion cyfrifiad, tynnu lluniau beddfeini, trawsysgrifio adysgrifau ac ati cefais sioc o ganfod bod yr holl waith wedi mynd yn ofer wrth imi fethu talu am barhad y wefan, gan mae'r cwmni yr oeddwn yn talu i gynnal y wefan, nid myfi, oedd gwir berchennog y cyfeiriad.

Os ydwyf yn dymuno prynu'r parth alwynaphuw.cymru neu alwynaphuw.wales sut ydwyf yn sicrhau mae FI bia'r cyfeiriad am byth bythoedd a fy mod yn gallu trosglwyddo cynnwys rhwng darparwyr gwefannau?

Mae'r Cyngor Cymuned yr wyf yn aelod ohoni a chynghorau cyfagos yn hynod awyddus i brynu'r parthau "einpentref.cymru" ac "ourvillage.wales" ond yn methu cael hyd i'r modd o brynu cyfeiriad tu allan i gontract darparwyr gwefannau.

Roedd nifer o bobl ifanc sy'n deall y pethau 'ma yn gofyn am gefnogaeth ein cynghorau bach i gael parth dot-cym. Wedi cael y parthau a oes modd i chi rhoi gwybod inni sut i'w perchnogi - plîs?