30/09/2014

Hen Ddigon o'r Drewdod

Adeiladwyd gwaith trin carthffosiaeth Y Ganol (drws nesaf i orsaf betrol Black Cat ger Llansanffraid Glan Conwy a Chyffordd Llandudno) ym 1999 ar gost o £45 miliwn.

Y bwriad oedd creu gwaith byddai'n sicrhau bod carthion o'r rhan helaethaf o Sir Conwy yn cael eu trin yn ddiarogl ac mewn modd oedd yn amgylcheddol garedig. Yn anffodus dyw'r gwaith erioed wedi gweithio'n iawn, yn bennaf gan brofwyd bod y system a adeiladwyd yn y Ganol yn beryglus, ychydig cyn ei agor. Oherwydd y peryglon mae rhywfaint o'r carthion yn cael eu cadw mewn sgipiau ac yna'n cael eu trosglwyddo i loriau caca er mwyn eu trin rhywle arall. Mae'r sgipiau yn drewi'n barhaus pan fyddent ar gau, pan cant eu hagor er mwyn trosglwyddo eu cynnwys i'r loriau mae'r oglau yn ddigon i godi cyfog.

Dim ond rhan o'r broblem yw'r oglau; mae ymchwil wedi dangos bod y gwynt sy'n dod o'r fath lefydd hefyd yn cynnwys pathogenau sy'n gwneud i bobl dioddef o Asma ac E-Coli.

Mae Dyffryn Conwy yn ardal sy'n denu ymwelwyr o bob parth o'r byd; eu croeso cyntaf i ben y Dyffryn yw oglau cachu - sôn am groeso!

Mae miliynau o bunnoedd wedi eu buddsoddi yn y Gyffordd er mwyn ei wneud yn un o'r llefydd gorau i brynu ceir yn y DU. Os am brynu car slic drudfawr neu hen fangyr rhad, bydd clywed oglau cachu wrth ystyried prynu dim yn atyniad mawr!

Mae'r rhai ohonom sydd yn byw yn yr ardal wedi cael llond bol o esgusodion Dŵr Cymru o wadu maint y broblem a ffug sicrwydd mae problem dros dro ydyw. Mae 15 mlynedd o ddrewdod, anfantais iechyd ac anfantais economaidd yn fwy na digon!

Cynhelir protest yn erbyn y Gachfa, ger orsaf betrol Black Cat ar 4ydd Hydref 2014 am 11 y bore. Dewch yn llu - a dewch a mwgwd rhag y drewdod!

03/09/2014

Darogan Refferendwm yr Alban

Mae'n gêm mae pob blogwyr wedi chware ers cyn cof - darogan canlyniad pleidlais cyn cynnal pleidlais.

O edrych ar yr ychydig iawn o bolau sydd wedi eu cynnal ar achos refferendwm, sef refferendwm Cymru 2011 a Refferendwm AV 2011, yr un nodwedd fwyaf yw bod y polau wedi bod yn or-obeithiol ar y nifer o bleidleiswyr oedd am droi allan i bleidleisio. Rwy'n credu bydd yr un yn wir parthed Refferendwm yr Alban 2014; mae arolygon sy'n awgrymu 80-90% o'r blediais yn bwrw yn rhy anhygoel i'w credu, bydd y turnout tua 70% neu lai a bydd pleidleiswyr Ie yn fwy tebygol o bleidleisio.

Rwy’n darogan y bydd Ie yn ennill rhwng 60 i 65% o'r bleidlais. Rwy’n credu y bydd IE yn ennill yn weddol gyffyrddus.