25/07/2014

Pwy laddodd Iesu Grist?


Fel anghydffurfiwr fy ateb yw mai FI lladdodd yr Iesu, gan iddo farw er mwyn maddau FY mhechodau.

Mae'r Beibl yn awgrymu bod yna ryw fath o gynllwyn rhwng yr Iddewon a'r Rhufeiniad i'w dienyddio heb osod bai penodol ar y naill ochr na'r llall ond gan ddatgan yn weddol glir ei fod wedi marw dros bechodau ei ddilynwyr.

Mae'r Eglwys Gatholig Rufeinig yn credu ei fod yn etifedd i'r Ymerodraeth Rufeinig, a gan hynny wedi mynd dros ben llestri i brofi mae'r Iddewon nid yr Ymerodraeth Rufeinig bu'n gyfrifol am ladd yr Iesu (er gwaetha'r ffaith mae'r Rhufeinwyr oedd yr awdurdod dros achosion y gosb eithaf ar y pryd). Yr angen yma i ddargyfeirio'r bai o Rufain i'r Iddewon sydd wedi bod yn gyfrifol am erledigaeth yr Iddewon fel Grist Laddwyr am ganrifoedd.

Mae'r Beibl yn dweud bod yr Iesu wedi ei ddienyddio yn ei ddillad ei hun - dillad Iddew. Mae Josephus yn awgrymu bod y condemniedig yn cael eu dienyddio'n noethlymun; byddai Crist noethlymun hefyd yn dangos ei fod yn Iddew. Mae'r traddodiad darluniol o ddangos Crist ar y groes yn gwisgo dim ond rhecsyn lwynau yn ymgais i guddio ei Iddewiaeth er lles achos Rhufain.

Rwy'n cael anhawster derbyn honiad Cai bod yr Iwerddon Rufeinig yn barth lle fu llai o erledigaeth ar yr Iddewon nag unrhyw ran arall o Ewrop, tra fu Eglwys Rufain yn bennaf gyfrifol am yr erlid!

Mae Cai yn llygad ei le wrth ddweud bod y Black Shirts wedi dwyn cefnogaeth o Lafur Prydain a Thorïaid Prydain, ond cawsant eu diarddel o'r naill blaid a'r llall. Eu cyffelyb yn yr Iwerddon oedd y Blue Shirts ffasgwyr nas ddiarddelwyd o Fine Gael, un o brif bleidiau'r Iwerddon hyd heddiw.

Dwi ddim yn cytuno a chefnogaeth unllygeidiog Guto Bebb i orthrwm Israel ar Balestina, ond yn ei gefnogi parthed hanes wrth Iddewiaeth yn yr Iwerddon!

08/07/2014

Y Parchedig Dr Hen Rech Flin?

Yn ôl yn y 1980au mi fûm yn fyfyriwr yn adran Diwinyddol Prifysgol Bangor. Yr oeddwn yn ymgeisydd am weinidogaeth yr Eglwys Fethodistaidd (Weslead ar lawr gwlad). Ar y pryd doedd gan Yr Eglwys Fethodistaidd dim modd i roi addysg Gymraeg i'w cyw weinidogion, gan hynny defnyddiwyd fi fel arbrawf gan y Parch O E Evans (Gweinidog Wesla, un o athrawon Prifysgol Bangor a phrif olygydd y BCN) gan gythruddo un o fawrion adran Diwinyddol Bangor, y Parch Dr R Tudur Jones (un oedd yn gweld Arminiaeth a Seisnigrwydd y Wesleaid yn wrthyn) gan fy ngadel i fel gwystl yng nghanol dadl ddau o fawrion Crefydd Cymru.

Doedd dim modd imi ennill y frwydr, gan mae cownter oeddwn yng nghanol eu gêm. Tudur enillodd y frwydr, gan imi ddechrau dioddef o ffitiau epilepsi aflywodraethus tra yn y Brifysgol, rwy'n dal i ddioddef o'r un aflwydd. Roedd Tudur yn honni mae medd-dod yn hytrach nag afiechyd oedd yn gyfrifol am fy "ffitiau" a chefais fy niarddel o'r Brifysgol o herwydd ei enwadaeth ffiaidd, yn hytrach na dim arall.

Wedi cael fy nghicio allan o Brifysgol Bangor mi ymgofrestrais ag Ysgol Nyrsio Gwynedd, wedi imi golli dim ond un ddarlith heb eglurhad, ymchwiliwyd i'r achos a chanfuwyd yr Epilepsi.

Yn fy nicter yn erbyn Y Brifysgol, Owen a Tudur mi ddefnyddiais fy nghyflog fel cyw nyrs i "brynu" graddau DD ac ordeiniad fel gweinidog o Brifysgol Llwyth Brodorol Annibynnol yn yr UDA. Mae'n debyg bod y llwyth yn gallu gwerthu'r fath raddau yn gyfreithiol o dan ddeddfwriaeth yr UDA a chytundebau efo Gwledydd Prydain; gan hynny y mae gennyf perffaith hawl i ddefnyddio'r teitl Y Parchedig Doctor a ddyfarnwyd imi ganddynt!

Cyn i'r tystysgrifau cyrraedd 'roeddwn wedi dechrau mwynhau fy ngyrfa fel nyrs ac wedi rhoi'r gorau i fy nicter yn erbyn cachwrs yr eglwys a'r coleg, a gan hynny nid ydwyf erioed wedi defnyddio'r graddau a brynais.

Ond wedi gweld sut mae arian, bellach, yn bwysicach na dim byd arall ym myd addysg Ynysoedd Prydain, onid ydy fy ngradd DD cyfwerth ag unrhyw radd a thalwyd amdani ym Mhrydain?