30/04/2014

Sbwriel!

Llongyfarchiadau i Gyngor Gwynedd;am benderfynu i leihau pa mor aml bydd y biniau brwnt yn cael eu casglu.Rwy’n mawr obeithio bydd Cyngor Conwy yn dilyn yr un trywydd.

Gan fy mod yn ailgylchu yn ddiwyd, tua unwaith pob chwe wythnos byddwyf yn rhoi fy bin gwasarn methu ail gylchu allan - a hynny'n hanner llawn fel arfer.

I'r rhai sydd yn cwyno, yn arbennig ar sail gost, hoffwn ofyn pam ddiawl dylwn i dalu i wasanaethu eich diogi chi? Os allwn i yn fy mhenwynni a gydag anabledd difrifol torri lawr ar faint sydd yn mynd i'r bin gwastraff gweddilliol gall bawb gwneud yr un fath. Annheg yw disgwyl i drethdalwyr sy'n gwneud eu gorau i ailgylchu i sybsedeiddio pobl sy'n methu gweld yr angen i roi'r tin bîns neu'r botel llefrith mewn bin gwahanol!

Difyr gweld cwynion yn erbyn Gwynedd gan gefnogwyr y Torïaid ac UKIP. Pobl sydd yn ddigon bodlon gyhuddo eraill am ddiogi o herwydd salwch, anabledd neu anffawd gymdeithasol; yn cwyno am amgylchiad sydd yn codi o herwydd eu bod nhw'n rhy blydi ddiog i wahaniaethu rhwng y botel Gin a'r botel Tonic i'w gwaredu ar wahân!

28/04/2014

Syr Cyril Smith

Mi fûm yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol (noder NID y Rhyddfrydwyr Democrataidd) yn y 1970au. Roeddwn yn 13 oed pan gyfarfyddais a Cyril Smith am y tro cyntaf, mi fûm mewn cysylltiad â fo am lawer blwyddyn wedyn. Er gwaetha'r ffaith fy mod yn un o "protégés" Cyril ni chefais fy ngham-drin ganddo na derbyn unrhyw awgrym am ddymuno fy ngham-drin. Rwy'n cael yn anodd derbyn bod y Cyril Smith yr oeddwn i'n adnabod yw'r anghenfil y mae'r wasg yn son amdano.

Hwyrach caf fy siomi ar yr ochor waethaf ar ôl i'r heddlu gwneud eu hymchwiliadau a chanfod fy mod wedi bod yn lwcus o beidio fy ngham-drin. Rwy'n gobeithio cael fy siomi o'r ochor orau a chanfod mae'r Cyril yr oeddwn yn hoffi ac yn cael hwyl yn ei gwmni oedd y Cyril go iawn.

Yr un peth rwy’n sicr amdano yw nad oedd gan Nick Clegg unrhyw gysylltiad na bai am hanes Cyril Smith - mae o'n rhy ifanc ac yn rhy hwyr yn hanes Rhyddfrydiaeth i gynnal bai!

Mae'n anodd i mi gredu'r cyhuddiadau, ond siom mewn cyfaill, nid bai ar blaid, bydd fy ymateb os brofir y cyhuddiadau yn erbyn Cyril.

10/04/2014

Adfer a'r Fro Dwyieithog

Er gwell, er gwaeth, mi fûm yn gefnogwr brwd o Fudiad Adfer ar ddiwedd y Saithdegau, dechrau'r Wythdegau. Rwy'n dal i gredu bod polisi iaith Adfer yn gywir. Pe bai Bro Gymraeg wedi ei greu yn y 1980au byddai hanes yr iaith yn wahanol!

Dadl Adfer oedd Un Iaith i'r Fro!

Rwy'n cael fy nhristau gan ddadl rhai bod angen Uniaith i waddol Cymru (Saesneg) a dwyieithrwydd i'r Fro a hynny'n cael ei gyflwyno fel etifeddiaeth Adfer.

Gan nad ydwyf yn cofio colli fy lle ar Senedd Adfer hoffwn ddatgan, fel Seneddwr y Mudiad - na fu Dwy Iaith i'r Fro nac Unieithrwydd Saesneg  i weddill Cymru ymddangos yn rhan o'n credo - ac na fydd byth!

08/04/2014

Cymraeg "Ar y Gweill"

Bron i flwyddyn yn ôl cafodd y Cyngor Cymuned Lleol dipyn o anghydfod, pan benderfynodd y cyngor i beidio a dilyn traddodiad canrif oed o beidio ac ethol yr is-gadeirydd yn awtomatig i'r Cadeiryddiaeth. Wedi i bwyllgor safonau Sir Conwy edrych ar yr anghydfod cafwyd bod ein cyfansoddiad (a grëwyd yn wreiddiol tua 1974, mi dybiaf) yn annerbyniol a chawsom wŷs i'w diweddaru er mwyn adlewyrch newidiadau a fu yn neddfwriaeth yn ystod y 40 mlynedd diwethaf ac ati.

Cawsom gyngor i ddilyn drafft cyfansoddiad Un Llais Cymru, a dyna a wnaed. Ar y cyfan bu ddrafft Un Llais Cymru yn ddefnyddiol tu hwnt, bu angen tocio man hyn ychwanegu man draw er mwyn ddibenion lleol ond daeth y Cyngor i gytgord o ddefnyddio'r drafft, wedi ei addasu.

O dan Cynllun Iaith y Cyngor mae'n rhaid i ddogfennau, megis cyfansoddiad, bod yn ddwyieithog. Yn hytrach na thalu am gyfieithiad o'r cyfan o'r cyfansoddiad, gofynnodd y Cyngor i Un Llais Cymru am fersiwn Cymraeg y drafft, er mwyn i'r cynghorwyr Cymraeg rhugl rhoi llinell goch trwy'r darnau amherthnasol a chyfeirio'r darnau a addaswyd i'n cyfieithydd. Yr ymateb cawsom oedd bod y fersiwn drafft o dan hawlfraint National Association of Local Councils Lloegr, ac na fyddai hawl gennym i gyfieithu unrhyw ran ohono i'r Gymraeg a bod hawl cyfieithu wedi ei wrthod, hyd yn hyn, gan NALC, sydd yn creu cyfyng gyngor i mi.

Gallem ymofyn cyfreithiwr i greu cyfansoddiad, annibynnol o'r drafft, ar ein cyfer ni yn unigol - costio ffortiwn! Gallwn gogio bod ein cyfansoddiad wedi ei greu yn annibynnol a thalu am gyfieithu pob gair - ffortiwn arall; neu gallwn basio'r cyfansoddiad Saesneg efo addewid bod fersiwn Cymraeg ar y gweill. Mi fyddwn yn pleidleisio yn erbyn, ond mi dybiaf mai ar y gweill bydd yn ennill y dydd, ac mae "ar y gweill" bydd ein cyfansoddiad Cymraeg am byth bythoedd.

Wrth ddilyn cyfeiriadau Un Llais, fy nheimlad oedd bod Glan Conwy yn hwyr i'r sioe. Sy'n codi'r cwestiwn - Sawl Cyngor bach Cymreig sydd au cyfansoddidau Cymraeg  ar y gweill o dan yr un rwystredigeth?