17/03/2014

Nain, Dad, DET ac IWCIP

Pan oeddwn tua 11 oed, yn ystod etholiad 1970, daeth rhyw foi Plaid Lafur i gnocio ar ddrws tŷ Nain i ofyn a oedd hi am gael pas i'r bwth pleidleisio. Cafodd ei ddanfon i ffwrdd, efo pry yn ei glust, am geisio prynu ei phleidlais am gyn lleied o wobr. Fe benderfynodd hi fod rhaid imi ei hebrwng i'r Drill Hall yn Nolgellau i fwrw ei phleidlais er mwyn profi bod pleidlais yn bwysicach na phas mewn car.

Wedi cael rhywfaint o blas wefr yr etholiad, (ac roedd etholiadau yn wefreiddiol ar y pryd- efo gludion - a chyrn siarad - a dim byd arall ar yr ychydig sianeli radio a theledu ) roeddwn braidd yn underwhelmed gan y broses o bleidleisio; camgymeriad oedd sôn am hynny wrth Nain! Cefais ddarlith am y ffaith fy mod i am gael yr uchel arswydus braint o o bleidleisio yn ugain mlynedd yn iau na chafodd hi pleidleisio am y tro cyntaf, oherwydd bod hi'n fenyw; hanes ei hen daid yn cael ei droi allan, yn etholiad 1859, cwyn am y genhadaeth yn danfon bara i wledydd pellennig yn hytrach na'r hawl i bleidleisio am fara ac ati.

Wedi mynd adref mi adroddais y profiad swreal yma wrth Dad, gan ddisgwyl iddo gyd chwerthin efo fi, ond cefais siom! Cefais Wers y Persli gan Dad, hefyd, am y pwysigrwydd o bleidleisio. Fy Nhad, wrth gwrs, yn ddigon hen i gofio merched dibleidlais a rhai o'r bobl cafodd eu troi allan.

Anocdotau difyr yw'r uchod i fy mhlant, fy neiau, fy nithoedd, a bron pob pleidleisiwr ifanc arall o'r un genhedlaeth a nhw. Hen hanes - dyna pam nad yw'r ieuenctid yn trafferthu pleidleisio, ond bod ni, yn ein penwynni, yn hynod debygol o bleidleisio. Fel mae pob pôl piniwn yn dangos mae pobl o fy nghenhedlaeth i, a chenhedlaeth fy Nhad, a chenhedlaeth Dafydd Elis Thomas yn llawer, lawer mwy tebygol o bleidleisio yn etholiad Ewrop eleni na'r ieuenctid.

Mi nodais, wrth drafod etholiadau Ewrop pum mlynedd yn ôl, bod cenedlaetholwyr, fel fy nhad, am bleidleisio IWCIP fel pleidlais protest yn erbyn Plaid Cymru yn cau ysgolion eu disgynyddion, yn hytrach na chyflawni'r pechod mwyaf o beidio pleidleisio.

Gwyddwn i ddim pa wahaniaeth i'r canlyniad wnaeth pleidlais fy nhad, ei frodyr a'i chwiorydd i gynnydd pleidlais IWCIP na lleihad pleidlais y Blaid. Ond yr wyf yn gwybod bod y profiad o gael pobl oedd wedi bod yn ddriw iddo ers cyn 1974 yn dweud NA iddo, wrth ganfasio yn 2009, wedi brifo DET i'r byw.

Rwy'n deall pam nad yw DET am gnocio ar ddrws fy nhad a dweud ei fod wedi bod yn wrth -Gymreig pum mlynedd yn ôl - yn ei alw'n fradwr, a thrwy hynny colli ei bleidlais ef eto - a cholli pleidleisiau ei 25 disgynnydd sydd a'r hawl i bleidleisio rŵan neu yn fuan, yr un pryd!


Rwy'n credu bod IWCIP yn ffasgwyr gwrth Cymreig, ac yn cael dweud wrth Dad ei fod wedi cachu ar achos y genedl trwy eu cefnogi yn etholiad Ewrop 2009; ond os glywaf Leanne neu DET yn dweud hynny, swaden cant - nid bleidlais. Rhywbeth mae DET yn gwybod ac mae angen i Leanne dysgu cyn mis Mai!