21/11/2014

Y Diwidiant Elusenu

Mae 'na erthyglau diddorol yn fersiwn print ac ar-lein Golwg heddiw am is-deitlau Cymraeg ar raglenni S4C. Fel un sydd yn hynod drwm fy nghlyw yr wyf yn cytuno cant y cant a mwy efo sylwadau Dr Wayne Morris bod angen is deitlau Cymraeg i'r byddar / trwm eu clyw ar S4C. Yn wir yr wyf wedi cwyno i S4C sawl gwaith ers ei sefydlu am y diffyg darpariaeth ar gyfer Cymry Cymraeg trom eu clyw.

Yr hyn sy'n ddifyr yw mai un o'r cwynwyr am y diffyg darpariaeth Cymraeg yw'r elusen Action on Hearing Loss; pan oeddwn yn cwyno 20 mlynedd yn ôl, ymateb S4C oedd eu bod wedi ymgynhori ag elusen arall oedd yn siarad ar ran cymuned byddar Cymru sef yr elusen Wales Council for the Deaf a bod WCD wedi cefnogi is deitlau Saesneg (yn benaf gan nad oedd Cymro Cymraeg yn aelod o Bwyllgor WCD ar y pryd) heb ymgynghori ag unrhyw Gymro Cymraeg byddar / trwm ei glyw.

A dyma broblem cyffredinol i Gymru a'r Gymraeg.

Mae Cymru yn ferw o elusennau a mudiadau'r trydydd sector sydd yn derbyn miliynau o bunnoedd gan Cynulliad Cymru, Yr EU a'r Loteri i helpu trueiniaid Cymru ond sy'n bod er mwyn bod nid er mwyn cymorth.

Rwy'n byw efo Epilepsi, yr wyf bron yn fyddar, rwy'n dioddef o crydcymalau, mae'r wraig yn diabetig, yn defnyddiwr cadair olwyn, yn dioddef o ecsema ac ostioperosis, rwyf yn yfed, rwyf yn ofer, rwyf yn g'wilydd gwlad i'm gweled! Mae 'na gannoedd o elusennau yn derbyn arian mawr ar fy rhan ond sy'n wneud flewj o ddim ar fy nghyfer, ac yn sicr dim yn gofyn imi ba gymorth byddai'n fuddiol imi, erioed wedi cynnig dimai o gymorth imi ac erioed wedi ceisio fy marn cyn siarad ar fy nghyfer yn gyhoeddus.

Rwy'n digwydd cytuno a barn Dr Morris, ond dim yn cofio iddo ymofyn fy marn cyn i Action on Hearing Loss siarad ar fy rhan!

No comments:

Post a Comment