03/09/2014

Darogan Refferendwm yr Alban

Mae'n gêm mae pob blogwyr wedi chware ers cyn cof - darogan canlyniad pleidlais cyn cynnal pleidlais.

O edrych ar yr ychydig iawn o bolau sydd wedi eu cynnal ar achos refferendwm, sef refferendwm Cymru 2011 a Refferendwm AV 2011, yr un nodwedd fwyaf yw bod y polau wedi bod yn or-obeithiol ar y nifer o bleidleiswyr oedd am droi allan i bleidleisio. Rwy'n credu bydd yr un yn wir parthed Refferendwm yr Alban 2014; mae arolygon sy'n awgrymu 80-90% o'r blediais yn bwrw yn rhy anhygoel i'w credu, bydd y turnout tua 70% neu lai a bydd pleidleiswyr Ie yn fwy tebygol o bleidleisio.

Rwy’n darogan y bydd Ie yn ennill rhwng 60 i 65% o'r bleidlais. Rwy’n credu y bydd IE yn ennill yn weddol gyffyrddus.

4 comments:

  1. Bill Chapman1:18 pm

    A dwy’n credu y bydd NA yn ennill yn weddol gyffyrddus. Bydd pobl yr Alban yn penderfynu.

    ReplyDelete
  2. Gêm ydy darogan Bill, fel betio ar ganlyniad ond yn rhy cybyddlyd i bacio barn efo pres. Cawn weld yn fuan os mae ti neu fi bydd yn gywir!

    ReplyDelete
  3. Bill Chapman3:57 pm

    Tybed os ydach chi yn baroad i ffonio fi ar 01492 583420? Wn i ffonio chi yn ol yn syth!

    ReplyDelete
  4. Bill Chapman7:03 am

    Fel Carwyn Jones, dw I’n falch bod pobl Yr Alban wedi pleidleisio i aros yn y Deyrnas Unedig

    ReplyDelete