31/08/2014

Atgof am Ryfel

Roedd Hedd Wyn yn perthyn o bell i mi. Wrth gofio'r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, "perthnasau o bell" bydd pob perthynas i'r mwyafrif ohonom mi dybiaf. Perthynas o bell oedd y bardd Wilfred Owen hefyd. Ac mewn sefyllfa o gynghanedd od bron ym Mhrifwyl Penbedw 1917 roedd Prifardd y Gadair (Hedd Wyn) yn perthyn i Dad a Phrifardd y Goron (Wil Ifan) yn perthyn, drwy briodas, i Mam.

Mae perthyn i Hedd Wyn bron iawn yn "obsesiwn" ar edeifion safleoedd Hel Achau, a does dim rhyfedd am hynny. Roedd Hedd Wyn yn perthyn i deulu mawr, ac fe ddefnyddiwyd ei hen, hen daid Hugh Humphrey, Tafarn yr Helyg, Maentwrog gan yr achydd Cymreig academaidd gyntaf ers dyddiau Hywel Vaughan, Bob Owen, fel "enghraifft" o ddiwylliant enwi Cymreig. Rhywbeth sydd yn gwneud Hedd yn berthynas hawdd ei ganfod mewn cyfnod lle mae enwau cyffredin yn creu dryswch i'r hanesydd teuluol.

Ond nid enw enwog ar achres yw Hedd Wyn i mi ond person yr wyf yn cofio Taid yn sôn amdano o'i nabod. Ar sôn, ymysg y teulu, oedd bod Lloyd George a JMJ wedi trefnu ei gadeirio a'i lofruddio ar faes y gad er mwyn sicrhau Cadair Ddu er les achos y rhyfel! Conspiracy theory di-sail, o bosib, ond yn sicr un gyffredin ym Meirion sydd heb ei wirio na'i wrthod na'i drafod gan ymchwilwyr ysywaeth.

Wrth edrych ar fy ngardd achau rwy'n gweld enwau degau o berthnasau mwy agos na Hedd Wyn / Wilf Owen yn flodau sydd ynddi, ac yn teimlo'n drist braidd bod eu marwolaethau hwy yn cael eu hystyried yn llai pwysig gan y cyfryngau. Colled oedd colled i bawb o bob gradd. Roedd colli Wncl Huw cymaint o loes a cholli Elsyn!

Fy hoff gerdd gan fy nghyfyrder Wilfred Owen yw Dulce et Decorum, sydd yn gwrthgyferbynnu'r gwahaniaeth rhwng y propaganda a'r gwirionedd. Dydy fy hoff gerdd gan fy nghyfyrder Hedd Wyn ddim yn gerdd Rhyfel go iawn gan nas ysgrifennwyd yng ngwres y gad; ond mae ei glywed yn dod a dagrau pob tro: Cerdd syml, ddibwys bron, ond dyhead pob milwr am fod adref unwaith eto, cyn mynd dros y clawdd!

Atgof
Dim ond lleuad borffor
Ar fin y mynydd llwm;
A sŵn hen afon Prysor
Yn canu yn y cwm.

12/08/2014

Cwestiwn i Guto Bebb AS

O dderbyn dy amddiffyn nad oes cysylltiad rhwng y rhodd gan Alexander Temerko a dy farn ar Israel / Palestina. A oes modd i ti egluro i mi, un o dy etholwyr, pam dy fod wedi derbyn arian gan Oligarch Rwsiaidd?

05/08/2014

Cabledd!

Ar 8 Mai, 2008, diddymwyd y troseddau Cabledd ac Enllib Cableddus yng Nghymru a Lloegr a da o beth oedd eu diddymu. Cyn hynny roedd modd i bobl cael eu dedfrydu i ddirwy, carchar, ac ar un adeg marwolaeth am anghytuno a barn y wladwriaeth parthed y ffydd Gristionogol.

Roeddwn yn credu bod 'na elfen o gabledd yn y deddfau cabledd - os yw Duw Hollalluog yn Teyrnasu, pam ddiawl bod angen Cyfraith Lloegr i'w amddiffyn?

Ond mae'n rhyfedd sut mae dileu cabledd crefyddol wedi esgor ar gabledd seciwlar newydd!

Ychydig yn ôl cefais fy mragaldio am awgrymu bod gan bob dyn yr offer a'r gallu corfforol i ymddwyn yn heterorywiol neu'n wrywgydiol ac mae dewis moesol oedd y modd y defnyddiwyd y fath offer / dewis. Cefais fy ngalw yn Homophobe o'r herwydd - hynny yw yr oeddwn yn euog o'r cabledd newydd o feiddio anghytuno ag uniongrededd y farn gyfredol parthed mynegiant rhyw!

Mae'r un yn wir am sylwadau diweddar Myfanwy Alexander. Mae'r hyn dywedodd Myfanwy yn hollol gywir. Mae cleifion Cymraeg yn cael eu cam-drin mewn ysbytai yn Lloegr oherwydd eu bod yn gleifion Gymraeg, maent yn cael eu trin fel Nigers Cymraeg, yn cael eu trin fel pobl eilradd dibwys, fel yr oedd Nigers de'r UDA yn cael eu camdrin yn y gorffenol. Ond y Cabledd Newydd yw defnyddio'r "N air" - dibwys yw'r cydestyn na'r pwynt roedd Myfanwy yn codi parthed cam drin cleifion Cymraeg eu hiaith gan nad yw cam drin claf o Gymro yn rhan o'r cabledd yn ôl y chwilys modern. Reitiach ar ran Unsain, undeb mwyaf Cymru, byddid ymchwilio i sylwadau Myfanwy am gam drin ei aelodau Cymreig, mewn yspytai Lloegr, yn hytrach na gwneud pwyntiau pleleidiol tra'n cuddio tu nol i'r esgus o'r gabledd newydd!