25/07/2014

Pwy laddodd Iesu Grist?


Fel anghydffurfiwr fy ateb yw mai FI lladdodd yr Iesu, gan iddo farw er mwyn maddau FY mhechodau.

Mae'r Beibl yn awgrymu bod yna ryw fath o gynllwyn rhwng yr Iddewon a'r Rhufeiniad i'w dienyddio heb osod bai penodol ar y naill ochr na'r llall ond gan ddatgan yn weddol glir ei fod wedi marw dros bechodau ei ddilynwyr.

Mae'r Eglwys Gatholig Rufeinig yn credu ei fod yn etifedd i'r Ymerodraeth Rufeinig, a gan hynny wedi mynd dros ben llestri i brofi mae'r Iddewon nid yr Ymerodraeth Rufeinig bu'n gyfrifol am ladd yr Iesu (er gwaetha'r ffaith mae'r Rhufeinwyr oedd yr awdurdod dros achosion y gosb eithaf ar y pryd). Yr angen yma i ddargyfeirio'r bai o Rufain i'r Iddewon sydd wedi bod yn gyfrifol am erledigaeth yr Iddewon fel Grist Laddwyr am ganrifoedd.

Mae'r Beibl yn dweud bod yr Iesu wedi ei ddienyddio yn ei ddillad ei hun - dillad Iddew. Mae Josephus yn awgrymu bod y condemniedig yn cael eu dienyddio'n noethlymun; byddai Crist noethlymun hefyd yn dangos ei fod yn Iddew. Mae'r traddodiad darluniol o ddangos Crist ar y groes yn gwisgo dim ond rhecsyn lwynau yn ymgais i guddio ei Iddewiaeth er lles achos Rhufain.

Rwy'n cael anhawster derbyn honiad Cai bod yr Iwerddon Rufeinig yn barth lle fu llai o erledigaeth ar yr Iddewon nag unrhyw ran arall o Ewrop, tra fu Eglwys Rufain yn bennaf gyfrifol am yr erlid!

Mae Cai yn llygad ei le wrth ddweud bod y Black Shirts wedi dwyn cefnogaeth o Lafur Prydain a Thorïaid Prydain, ond cawsant eu diarddel o'r naill blaid a'r llall. Eu cyffelyb yn yr Iwerddon oedd y Blue Shirts ffasgwyr nas ddiarddelwyd o Fine Gael, un o brif bleidiau'r Iwerddon hyd heddiw.

Dwi ddim yn cytuno a chefnogaeth unllygeidiog Guto Bebb i orthrwm Israel ar Balestina, ond yn ei gefnogi parthed hanes wrth Iddewiaeth yn yr Iwerddon!

5 comments:

  1. Alwyn - efallai dy fod yn cael trafferth credu hynny, ond rhagfarn sy'n dy arwain at hynny.

    Mae hanes yr Eglwys Babyddol yn Iwerddon yn wahanol iawn i hanes yr Eglwys Babyddol yn - dyweder - Sbaen. Tan y Catholic Emancipation Act (1829 dwi'n meddwl) roedd yr Eglwys ei hun a'i dilynwyr mewn anodd a dweud y lleiaf yn gyfreithiol. Roedd yr ymgyrch a arweiniodd at y CEA (ymgyrch O'Connell) yn pwysleisio cyfartaledd i Babyddion - ac Iddewon.

    Hyd yn oed wedi'r CEA uchelgais gwleidyddol yr Eglwys Babyddol yn Iwerddon oedd dadgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd, nid dod yn Eglwys wladwriaethol. Yn rhyfedd iawn roedd hyn yn debyg i uchelgais yr eglwysi anghydffurfiol Cymreig. Dyna pam ei bod yn gyffredin i Gatholigion fotio i'r Rhyddfrydwyr cyn dyfodiad yr INP. Roedd John Bwlchllan y diwrnod o'r blaen yn G/narfonyn son am Esgob Pabyddol o Wyddel yn y 19C yn holi os mai fo oedd yr unig esgob Pabyddol yn Ewrop oedd yn fotio i Grynwr.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Roeddwn yn ddisgybl yn Ysgol y Gader Dolgellau ym 1972 pan benderfynodd Idi Amin alltudio pobl o dras Asiaidd o Iwganda.

      Wrth i Lywodraeth Prydain meddwl am y lle gorau i'w adsefydlu cafwyd hyd i hen wersyll milwrol ym Meirionnydd a oedd yn ymddangos yn berffaith gan fod Sir Feirionnydd, hefyd, oedd y sir efo'r ystadegau gorau, drwy holl siroedd Prydain, am absenoldeb o hiliaeth droseddol. Penderfynwyd, gan hynny i ddanfon y trueiniaid o Asia i Donfannau.

      Doedd Meirionnydd ddim yn oddefgar o ran hiliaeth, wrth gwrs, dibrofiad ydoedd! O’r eiliad glaniodd y trueiniaid alltud yn Nhonfannau fe brofodd fy nghymdogaeth a fy ysgol ein bod ni'n gallu bod mor, os nad mwy, hiliol na unrhyw barth arall o'r DU.

      A dyna berygl ceisio honni bod y Cymry a'r Pabyddion Gwyddelig yn llai gwrthwynebus i Iddewiaeth na lefydd eraill yn y byd; diffyg cyfle i fynegi ein casineb yn hytrach na goddefgarwch oedd yn gyfrifol. Roedd yr Eglwys Gatholig yn yr Iwerddon yn defnyddio'r un llyfr ddefod a phob Eglwys Gatholig arall; yr un a oedd yn son am "perfidis Judaeis".

      Delete
  2. Wel, mae yna elfen o wirionedd yn hynny - tua 4,000 oedd yn y gymuned Iddewig yn Iwerddon ar ei mwyaf.

    Ond nid dyna'r pwynt - mae'r blogio ar y pwnc yma wedi cychwyn yn sgil Guto Bebb yn honni bod sylwadau gwrth Isrealaidd o ziwerddon yn digwydd yn sgil 'hanes' o wrth Semitiaeth. Mae yna lawer llai o dystiolaeth o wrth Semitiaeth hanesyddol yn Iwerddon na sydd yn Lloegr - yn arbennig ymysg dilynwyr y Blaid Doriaidd.

    ReplyDelete
  3. Anonymous9:13 pm

    Dyw'r Eglwys Gatholig Rhufeinig ddim yn honni rhagor yn swyddogol fod yr Iddewon fel cenedl wedi 'lladd Crist' ar eu pennau'u hunain heb son am 'ladd Duw', ond rydw i wedi clywed a darllen Cristnogion o Balesteina yn honni hyn o fewn yr ugain mlynedd ddiwethaf.
    Darllenwch 'Nostra Aetate', dogfen yr Eglwys Gatholig o Ail Gyngor y Fatican, sy'n dangos y newid agwedd
    a ddigwyddodd 'nol yn yr 1960au. Arweiniodd hwnna at yr Eglwys Gatholig yn cydnabod gwladwriaeth Israel a'i hawl I fodoli dan y Pab Ioan Paul II.

    Rydych chi'n iawn nad yw'r Cymry o reidrwydd yn llai gwrth-semitaidd na phobl eraill. Cyn 1967 roedd nifer o Gymry'n fodlon bod yn gyfeillgar, ond fel pawb arall,
    fe droeson nhw yn erbyn Israel wedyn.
    Mae ymneilltuwyr Cymraeg wedi rhoi heddychiaeth uwchlaw pob dim arall, hyd yn oed yr Efengyl, ac mae hwn yn faes amlwg ble y gwelwn ni hyn ar waith. Dim rhyfedd fod yr eglwysi Cymraeg wedi gwacau a fod pobl ddifrifol wedi symud i'r eglwysi Saesneg - dydyn nhw ddim yn darllen Rhufeiniaid 9-11.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Am ymateb od ar y diawl!

      Sôn am agwedd "traddodiadol" yr Eglwysi Pabyddol a Phrotestannaidd mae'r uchod, nid am y newid barn a orfodwyd arnynt yn sgil erchyllterau Hitler. A gan hynny yn methu deall y pwynt yr wyt yn ceisio gwneud.

      Rwy'n deall perthnasedd 1967 yn hanes y dwyrain canol; ond yn methu credu bod Cymru na "phawb arall" wedi troi yn erbyn Israel ar y pryd, yn wir (hyd eleni) byddwn yn ddweud bod Israel wedi cael rhwydd hynt oherwydd euogrwydd y Gorllewin.

      Wedi pregethu yn y Gymraeg ers dros 40 mlynedd lol botas yw dweud bod pobl wedi troi o eglwysi Cymraeg i eglwysi Saesneg. Yr wyf yn pregethu i ddau neu dri bellach, lle byddwn yn arfer pregethu i gant na mwy, ond y bedd nid Eglwys Saesneg sydd wedi hawlio'r hen ffyddloniaid. Mae ambell i Eglwys newydd, Saesneg ei iaith, yn ffynnu mewn trefi lle fu Eglwysi Cymraeg yn arfer ffynnu ond mewnfudwyr o Loegr yw'r ffyddloniaid nid plant yr hen gapelwyr Cymreig.

      A does dim yn yr Epistol i'r Rhufeiniaid sy'n annog rhyfel!

      Delete