04/06/2014

Stwffiwch eich technoleg newydd ewch allan i ymgyrchu!


Yn ystod etholiadau cyffredinol 1974 roeddwn yn berchen ar declyn, newydd ei ddyfeisio, y cyfrifiannell; peiriant a oedd yn caniatáu imi gyfrif gobeithion fy mhlaid yn gynt nag oedd aelodau eraill o'r blaid yn gallu gwneud ar bapur, roedd hynny'n wych ac yn syfrdanol ac yn dechnoleg newydd go iawn 40 mlynedd yn ôl.

Mi brynais fy nghyfrifiadur cyntaf tua 1979 a sgwennais raglen ar ei gyfer o fewn mis o'i brynu (ar y pryd doedd dim modd prynu raglen). Bum ym mysg y cynharaf i ddefnyddio e-bost, byrddau trafod ac ati. Mae rhai o'r gwefannau Cymraeg cynharaf sydd ddal ar y we yn rhai a gynhyrchwyd gennyf i, nid brolio - jest deud.

Yr wyf, bellach, yn ymylu at statws hynafgwr; ac os ydwyf i'n hen, mae'r dechnoleg rwyf wedi byw efo trwy fy oes hefyd yn hen; twt lol botas yw cyfeirio ati byth a hefyd fel dechnoleg newydd.

Mae sôn bod yr hen dechnoleg yma wedi cynorthwyo Obama mewn ymgyrch etholiadol, a bod rhaid i ni ei ddefnyddio bellach er lles ein Plaid. Digon teg. Ond cofiwch bod rhai ohonom sydd yn ein penwynni yn hen gyfarwydd â'r bysellfwrdd; ac mae ni sy'n methu clywed yn ein henaint a ni sy'n methu cerdded bellach o herwydd crug cymalau yw'r goreuon i'w ddefnyddio fel keyboard Warriors.

Os am berswadio ein cenedl, lle'r HEN yw'r cyfrifiadur, lle'r ifanc, o hyd, yw curio drysau, canfasio a pherswadio wyneb wrth wyneb ar stepen drws, megis yr hen ffordd Gymreig o wleidydda!

1 comment: