25/05/2014

Yr Angen am Hen Bregethwrs ar Lein

Pan ddechreuais bregethu, bron i ddeugain mlynedd yn ôl bellach, cefais lwyth o gefnogaeth gan frodyr a chwiorydd yn y ffydd a oedd yn falch o weld gŵr ifanc yn ymlwybro i uchel arswydus swydd y weinidogaeth, ac un o'r ffyrdd yr oeddent yn mynegi eu gwerthfawrogiad oedd trwy roi imi lyfrau.

I mi, yn ddeunaw oed, roedd y llyfrau yn chwerthinllyd, yn hen ffasiwn, yn ddiflas ac yn amherthnasol. Roedd y cofiannau yn sôn am gyfnod cyn fy ngeni a'r pregethau yn perthyn i'r 1870au nid y 1970au, a gan hynny yn ddiwerth i efengylydd cyfoes.

Mi dderbyniais y cyfrolau, gyda diolch (wrth gwrs)- a'u taflu i'r bin sbwriel agosaf ar y ffordd adref.

Ond bellach rwy'n difaru binio’r llyfrau.

Roedd ambell un yn rwtsh a ysgrifennwyd gan pobl (nad oeddwn yn gwybod ar y pryd) eu bod yn aelodau o'r teulu, ac yn golled i'r archif hanes teulu o'u binio.

Roedd rhai yn defnyddio aelodau o fy nheulu fel enghreifftiau o dda neu ddrygioni ac yn sôn am eu hanes yn dilyn, neu yn gwrthwynebu, achos crefydd y fro. Mae llawer o'r rhai cynharaf yn rhoi darlun byw o draddodiadau ac arferion Cymru cyn anghydffurfiol.

Mae llawer un o'r llyfrau crefyddol yn rhoi gwybodaeth achyddol pur, sefydlwyd y capel gan X mab Y ond mae mwy yn rhoi jest yr un llinell o wybodaeth achyddol euraidd mewn cofiant a phregethau diflas. Pe na bawn yn gôc oen mor hy yn fy ieuenctid, ac wedi cadw'r llyfrau, prin y byddwn wedi eu darllen, hyd yn oed erbyn callineb fy mhenwynni.

Gwychder y we, wrth gwrs, yw bod peiriant chwilio yn gallu canfod y perl yn y cachu, a gan hynny hoffwn ofyn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, eto, i gynnwys holl gynnwys eu Cofiannau, pregethau ac Hanesion yr achos ar lein, er mwyn inni gallu canfod y perlau yn y baw.

No comments:

Post a Comment