30/04/2014

Sbwriel!

Llongyfarchiadau i Gyngor Gwynedd;am benderfynu i leihau pa mor aml bydd y biniau brwnt yn cael eu casglu.Rwy’n mawr obeithio bydd Cyngor Conwy yn dilyn yr un trywydd.

Gan fy mod yn ailgylchu yn ddiwyd, tua unwaith pob chwe wythnos byddwyf yn rhoi fy bin gwasarn methu ail gylchu allan - a hynny'n hanner llawn fel arfer.

I'r rhai sydd yn cwyno, yn arbennig ar sail gost, hoffwn ofyn pam ddiawl dylwn i dalu i wasanaethu eich diogi chi? Os allwn i yn fy mhenwynni a gydag anabledd difrifol torri lawr ar faint sydd yn mynd i'r bin gwastraff gweddilliol gall bawb gwneud yr un fath. Annheg yw disgwyl i drethdalwyr sy'n gwneud eu gorau i ailgylchu i sybsedeiddio pobl sy'n methu gweld yr angen i roi'r tin bîns neu'r botel llefrith mewn bin gwahanol!

Difyr gweld cwynion yn erbyn Gwynedd gan gefnogwyr y Torïaid ac UKIP. Pobl sydd yn ddigon bodlon gyhuddo eraill am ddiogi o herwydd salwch, anabledd neu anffawd gymdeithasol; yn cwyno am amgylchiad sydd yn codi o herwydd eu bod nhw'n rhy blydi ddiog i wahaniaethu rhwng y botel Gin a'r botel Tonic i'w gwaredu ar wahân!

3 comments:

  1. Anonymous10:52 am

    Clywch clywch. mae gen i 3 o blant (er 'mod i wedi ysgaru ac felly dydy'r plant ddim gen i ond hanner yr amser). Dwi'n aml yn anghofio rhoi'r bag du allan i'w gasglu gan mai pob pythefnos mae nhw'n cael eu casglu. A dweud y gwir dwi'n amau 'mod i'n ei lenwi hyd yn oed mewn mis. Dydy byth yn orlawn gen i. Ail-gylchwch beth sy'n bosib. hefyd - peidiwch brynu stwff nad ydych angen - mae dyn safio arian fel yna hefyd. Syml.

    Does dim angen casglu pob pythefnos a dwi'n byw mewn ty teras bychan.

    Da iawn Gwynedd.

    ReplyDelete
  2. Anonymous10:53 am

    Whilst I agree with much you have written, there is another issue, we in Wales do not process much that can be recycled, an example is the Tasimo coffee system, the packaging clearly indicates it can be recycled but here in Caerphilly only a quarter of the packaging is accepted for recycling, in Holland and Germany every piece is recycled.
    There is of course no excuse for the lazy.
    John.

    ReplyDelete
  3. Anonymous3:29 pm

    Cytuno gyda ti cant y cant HRHF on mae darllenwyr Golwg sy'n drigolion yng Ngwynedd ddim yn swnio yn hapus iawn amdano y sefyllfa, ond mae gormod o wastraff,. Rhaid inni gyd dynnu y pethau a medrwn allan o'i becyn a gadel y pecynnau yn yr archfarchnad fel protest yn erbyn llapio diangen. Mwynhau darllen dy flog

    ReplyDelete