30/08/2013

Ydy fy Saesneg yn Ddigon Da?

Yr wyf newydd ganfod ymchwil Beaufort Reserch i ddefnydd yr Iaith Gymraeg. Ymchwil hynod ddiddorol.

Un o'r canfyddiadau mwyaf difyr yw'r un bod pobl sy'n gallu defnyddio'r Gymraeg dim yn ei ddefnyddio o dan ofn beirniadaeth o ddefnyddio Cymraeg Anghywir.

Nid ydwyf yn anghytuno a'r canfyddiad. Ond yr wyf wedi cael llond bol o bobl sy'n dweud hynny!

Rwy'n fath o Gymro ail iaith. Roeddwn bron yn uniaith Saesneg ym 1974 ac yn rhugl dwyieithog erbyn 1979. Yn y cyfnod y bûm yn magu'r iaith nis cywirwyd fy Nghymraeg gan neb (ond ar ofyn). Roedd PAWB yn fodlon derbyn bod pob ymgais gennyf i ddefnyddio'r Gymraeg (hyd yn oed yn anghywir) fel ymdrech clodwiw i ddefnyddio'r Gymraeg ac yn rhoi pob annogaeth a chefnogaeth i mi.

Ers peth amser yr wyf wedi cyfrannu sylwadau ar y we yn y ddwy iaith. Nid ydwyf erioed wedi cael sylw ar y flog hon am gam dreiglad, cam acen na cham ramadegol, er gwaetha'r ffaith eu bod yn frith. Yr wyf wedi cael degau o sylwadau piwis am deipos, camgymeriadau sillafu a chamau gramadeg ar fy mlog Saesneg. Mae'r un yn wir ar Facebook a Twitter hefyd, cwynion dirifedi am fethianau fy Saesneg ond dim um am frychau fy Nghymraeg.

Mae safon fy Saesneg yn cael llawer mwy o feirniadaeth nac ydy safon fy Nghymraeg, er gwaetha'r ffaith fy mod yn llawer mwy rhugl yn y Saesneg na'r Gymraeg! Er hynny nid ydwyf wedi ystyried rhoi'r gorau i siarad Saesneg gan nad yw fy Saesneg yn ddigon da!

Os oes unrhyw beth all achub yr Iaith Gymraeg, cael gwared ar y ffug canfyddiad bod pobl yn feirniadol o "safon" Cymraeg ein cyd Cymreigwyr neu ein bod yn credu nad yw eu Cymraeg yn "ddigon da", bydd hynny!

10/08/2013

Ydy'r Eisteddfod Genedlaethol y Dal i Deithio?


Ers i mi dechrau ymddiddori mewn Eisteddfodau bu drafodaeth am ddilyn Y Sioe Amaethyddol trwy gynnal Ŵyl sefydlog neu barhau i deithio.

Er gwaethaf lwyddiant y Sioe Amaethyddol mae'r Eisteddfod wedi parhau i deithio mae'n debyg, o bosib, neu ydyw?

Ers tua 1993 rwy'n teimlo bod yr Eisteddfod wedi dewis gylch o lefydd bron yn barhaol i gynnal yr Ŵyl. Nid ydwyf wedi mynychu Bro Newydd na Thref Newydd Eisteddfodol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf; ail ymweld ydwyf flwyddyn ar ôl flwyddyn!

Lle mae ail gyfle Dolgellau, Blaenau Ffestiniog, Llandudno, Pontypridd i gynnal yr Ŵyl?

Lle mae cyfle cyntaf Harlech, Y Bermo, Tywyn a llwyth o drefi eraill i fod yn wahoddedigion?

Os am gadw at drefn o Gasnewydd / Bala / Caerdydd/ Dinbych / Llanelli / Meifod ac ati onid gwell byddid i'r Eisteddfod cydnabod y Gylchdaith yn gyhoeddus yn hytrach na ffugio bod yr Eisteddfod yn wirioneddol deithiol?

07/08/2013

Y Berygl o Ffocysu ar y Ceidwadwyr


Dyma sylw diddorol ar Drydar:



Ar yr olwg gyntaf mae'r sylw yn gwbl chwerthinllyd. Mae'r polisïau sydd wedi eu ffocysu gan y Ceidwadwyr yn rhai bydd yn gwbl wrthyn i'r rhan fwyaf o Bobl Cymru.

Un o'r polisïau, er enghraifft yw'r bwriad i ail gyflwyno Addysg Ramadeg yng Nghymru. Yn ddi-os roedd Ysgolion Ramadeg yn llwyddo, i raddau. Ewch trwy'r Bywgraffiadur ar-lein a chwlied hanes unrhyw Gymro neu Gymraes lwyddiannus a addysgwyd rhwng 1900 a 1960; canfyddwch fod y mwyafrif wedi eu haddysgu yn Ysgol Ramadeg Llanbethma.

Methiant yr Ysgol Ramadeg oedd bod pob un a lwyddodd wedi gadael degau ar ôl ar y domen dail o ddiffyg cyfle'r Secondary Moderns bondigrybwyll.

Er gwaethaf pob tystiolaeth i'r gwrthwyneb, mae polisi ffocysu'r Ceidwadwyr yn dal i bedlera'r celwydd bod Parasetamol am ddim ar y GIC yn amddifadu pobl rhag cyffuriau iachau cancr, sydd yn gelwydd llwyr, ond yn troelli da.

OND hwyrach bod gan Darren pwynt teg. Trwy ffocysu ar bynciau bydd Llafur, Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn eu gwrthwynebu wrth reddf maent yn creu dau begwn yng ngwleidyddiaeth Cymru "Ni a Nhw", yn cadarnhau eu safle nhw wrth wanhau'r ddadl "go iawn" - y ddadl dylid bod ymysg y pleidiau eraill.

Mae 'na berygl mawr i Blaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr i lyncu abwyd y Torïaid a ffocysu ar wrthwynebu polisïau Torïaidd, lle na fydd mawr o fydd etholiadol iddynt, yn hytrach na rhoi eu ffocws ar fethiant, brad a siomedigaeth y Blaid Lafur i werin Cymru.

Yn ddi-os y gelyn i Blaid Cymru yw'r Blaid Lafur, nid y Torïaid - nid UKIP. Yr unig ffordd i Blaid Cymru llwyddo yw trwy anwybyddu'r sioeau ymylol a chanolbwyntio ar gipio cefnogaeth oddiwrth Llafur, trwy wrthwynebu Llafur yn hytrach na gwrthwynebu gelynion Llafur.

Gwendid mwyaf Plaid Cymru yw'r temtasiwn i anelu at y cocyn hawdd i'w hitio yn hytrach nag anelu pob ergyd at y Goliath Mawr