31/12/2013

Yr Hen Ffordd Gymreig o Wleidydda

Yr wyf wedi bod yn esgeulus o fy mlogiau yn niweddar, wedi mynd o sgwennu post neu ddau bob wythnos i sgwennu post neu ddau bob 6 wythnos neu lai. Mae nifer o resymau am y ffaith fy mod wedi colli'r awch i flogio. Yr rheswm pennaf yw fy mod wedi dweud fy nweud, wedi gosod fy mherlau o flaen y moch, wedi chwythu fy mhlwc o ran canfod cwynion newydd ar ôl cyfnod o 7 mlynedd o flogio; bron pob tro mae erthygl neu adroddiad yn fy nghythruddo i enyn ymateb rwy'n cofio imi ddeud hynny eisoes.

Yr ail reswm yw bod blogio wedi mynd yn hen ffasiwn braidd. Pan gychwynnais roedd tua dwsin o flogiau gwleidyddol Cymraeg a thua 30 o flogiau Cymreig gellid creu cyd drafodaeth a thraffig rhyngddynt, prin yw'r blogiau gwleidyddol Cymraeg / Cymreig bellach. Pelican yn yr Anialwch yw'r post yma bellach yn hytrach na rhan o drafodaeth fywiog am wleidyddiaeth Cymru.

Y trydydd reswm, ar reswm pwysicach, o bosib, yw fy mod heb fy narbwyllo o'r cychwyn cyntaf bod gwleidydda ar y we o'r pwys mwyaf.

Mewn erthygl ar Amcanion i'r Blaid ar gyfer 2014 mae Blog Menai yn ddweud:

"Bydd yr etholiad San Steffan nesaf yn torri tir newydd i'r graddau y bydd llai o bobl nag erioed o'r blaen yn derbyn eu gwybodaeth am yr etholiad o'r cyfryngau prif lif. Mae darlleniad papurau newydd yn syrthio fel carreg trwy'r DU. Bydd mantais sylweddol gan y sawl sy'n gwneud defnydd o ddulliau amgen o gyfathrebu neges wleidyddol. Mae'n bwysig i'r Blaid fod ar flaen y gad yma. "

Rwy'n cytuno'n llwyr, ond dwi ddim yn credu mai'r Cyfryngau Newydd yw'r ffordd amgen i gyfathrebu'r neges wleidyddol. Pan oedd fy mlogio ar ei anterth yr oeddwn yn cael 4 mil o "hits" ar Miserable Old Fart a bron i fil yma ar bob erthygl, ond bu 90% o'r darllenwyr yn bobl gadarn eu barn wleidyddol. Rwy'n sicr nad ydwyf wedi ennill na cholli un bleidlais i unrhyw blaid trwy fy mlogiau.

Mae argaeledd 300 o sianeli teledu ac argaeledd y we wedi sicrhau bod modd i bobl osgoi'r newyddion ac osgoi gwleidyddiaeth mewn ffordd nad oedd modd gwneud 20in mlynedd yn ôl, ac o gael newyddion dim ond derbyn y newyddion sy'n bwydo eu rhagfarnau.

Gwastraff dadl yw i mi trydar neges o gefnogaeth i'r achos IE yn yr Alban neu achos Cenedlaetholdeb Cymreig gan fod 90% o fy nilynwyr eisoes yn hollol gefnogol neu'n hollol wrthwynebus i'r achos, does dim dylanwad i'w cael.

Yr hyn mae'r cyfryngau newydd yn rhoi inni yw'r cyfle i fynd yn ôl i'r Hen Ffordd Gymreig o wleidydda!

Curo drysau a dadlau ar bentan, cyrn siarad ar ben car, côr cefnogaeth ar sgwâr tref a phentref, bore goffi lle mae'r ymgeisydd yn bresennol, cwrdd â phobl yn y byd go iawn yn hytrach nag ar lein creu gwleidyddiaeth gymunedol lle mae'r etholwr yn gwybod am, os nad yn adnabod yr ymgeisydd, nid yr avatar ar lein!

Mae'r cyfryngau newydd yn galluogi pobl i osgoi gwleidydda cyfryngol - mynd yn ôl i wreiddiau gwleidydda personol cymunedol "yn y cigfyd" yw'r ateb nid gwleidydda ar lein. Tra fo eraill yn ceisio dilyn Obama ar y we - y cigfyd yw cryfder Plaid Cymru o'i drin yn iawn!