11/11/2013

I Ddwys Goffau y Rhwyg o Golli'r Hogiau


Mi fûm yn arfer bod yn driw i wasanaeth y cadoediad ar un adeg.

Nid ydwyf, yn amlwg, yn cofio neb a gollwyd yn y ddwy gyflafan fawr ond cefais fy magu mewn cymdeithas lle'r oedd cof, go iawn, am y rhai a gollwyd yn fyw. Ewyrth, cefndryd, cymdogion, pobl dylwn eu hadnabod pe na bai eu bywydau wedi eu dwyn oddi wrthynt.

Yn ystod fy ngwaith fel nyrs cofrestredig yr wyf wedi nyrsio cleifion o bob rhyfel yn yr 20 ganrif o Ryfel y Bore 1901 i ail Ryfel y Gwlff 2003 ac wedi clywed hanesion dirdynnol am brofiad rhyfel.

Rwyf wedi crio o flaen cofadail Dolgellau, sawl gwaith, er cof am aelodau fy nheulu sydd a'u henwau wedi eu hysgythro arni. Mae'n gas gennyf hel achau hogiau yn fy ngardd achau a anwyd rhwng 1880 a 1895 gan fy mod yn gwybod mae'r ffynhonnell blaenaf yw'r CWGC.

Mae'n debyg mae fi oedd yr unig aelod o fy nghyngor plwyf i fethu'r gwasanaeth cofio ddoe (ac yn ôl rhai "cywilydd" arnaf am hynny); ond wrth i amser mynd heibio rwyf wedi teimlo, mwyfwy, mae nid cofio'r enwau ar y cofadail yw'r bwriad bellach ond cofio cyfnod cynnes o hanes nad oedd yn bod!

Nid ffordd i ddwys goffau y rhwyg o golli'r hogiau, mo Sul y Cofio mwyach ond jambori o Brydeindod afiach sy'n colli'r hogiau eilwaith!

1 comment:

  1. Anonymous11:04 am

    Ti'n llygad dy le. Roedd slip Nicholaf Owen ar newyddion BBC ddoe yn dweud y cyfan, “The Queen will lead the Remembrance Sunday celebrations – commemorations – at the Cenotaph this morning”.

    Ac mae gweld cyflwynwyr rhaglenni plant S4C yn gwisgo'r pabi coch yn wirioneddol wirdroedig. Ydy nhw am gofio a dathlu'r milioedd ar filoedd, os nad miliynau petai rhywun yn cyfri'r newin a'r sgileffeithiau a achoswyd gan fiwyr Prydain wrth adeiladu'r Ymerodraeth felltigedig, neu hyd yn oed yn Kenya, Malaya ag ati wedi'r Ail Ryfel Byd.

    Mae Prydain ym ymdebygu i Prussia!

    Blogiad da yma: http://wingsoverscotland.com/the-great-circus/#more-43930

    ReplyDelete