10/08/2013

Ydy'r Eisteddfod Genedlaethol y Dal i Deithio?


Ers i mi dechrau ymddiddori mewn Eisteddfodau bu drafodaeth am ddilyn Y Sioe Amaethyddol trwy gynnal Ŵyl sefydlog neu barhau i deithio.

Er gwaethaf lwyddiant y Sioe Amaethyddol mae'r Eisteddfod wedi parhau i deithio mae'n debyg, o bosib, neu ydyw?

Ers tua 1993 rwy'n teimlo bod yr Eisteddfod wedi dewis gylch o lefydd bron yn barhaol i gynnal yr Ŵyl. Nid ydwyf wedi mynychu Bro Newydd na Thref Newydd Eisteddfodol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf; ail ymweld ydwyf flwyddyn ar ôl flwyddyn!

Lle mae ail gyfle Dolgellau, Blaenau Ffestiniog, Llandudno, Pontypridd i gynnal yr Ŵyl?

Lle mae cyfle cyntaf Harlech, Y Bermo, Tywyn a llwyth o drefi eraill i fod yn wahoddedigion?

Os am gadw at drefn o Gasnewydd / Bala / Caerdydd/ Dinbych / Llanelli / Meifod ac ati onid gwell byddid i'r Eisteddfod cydnabod y Gylchdaith yn gyhoeddus yn hytrach na ffugio bod yr Eisteddfod yn wirioneddol deithiol?

3 comments:

  1. Anonymous3:50 pm

    Wi'n gwbod be ti'n feddwl. Mae mynd i'r Eisteddfod yn f'atgoffa fi o'r ffilm 'Groundhog Day' lle ma rhyw foi yn codi pob dwyrnod ac yn ail-fyw'r dwyrnod cynt ac felly mlan dydd ar ol dydd, blwyddyn ar ol blwyddyn - cylch cylchog di-ddiwedd. Mae gryndo ar Radio Cymru yn cal yr un effaith arno i, so fi wedi rhoi'r gorau i hwnna

    ReplyDelete
  2. Mae twf yr eisteddfod yn golygu fod eisiau tipyn o le i gynnal eisteddfod y dyddiau yma. O'r herwydd mae'r safleoedd posibl yn mynd yn brinach.
    'Rych chi cyfeirio at Bontypridd. Mae'r Eisteddfod wedi newid tipyn ers 1893 pan fu yn y dref honno. Anodd gweld safleoedd pwrpasol yno. Wn i ddim am y trefi eraill yr ydych chi'n cyfeirio atynt.
    Croeso i unrhyw dref neu ardal wahodd yr eisteddfod wrth gwrs.
    Yn yr ugain mlynedd diwethaf, bu hefyd yng Nglyn Nedd, Pencoed, Llanbedrgoch, Tyddewi, Glyn Ebwy. Dyw'r gylchdaith dim cweit mor gyfyng ar yr ych chi'n awgrymu

    ReplyDelete
  3. Anonymous12:39 pm

    Onid siroedd sy'n gwahodd yr Eisteddfod, a'r sir sydd wedyn yn dewis ble yn y sir i'w chynnal? Dwi wedi dadlau o'r blaen am ystyried y posibilrwydd o gynnal yr Eisteddfod yng nghanol trefi. Ffeindio cae mor agos â phosib i osod y pafiliwn, defnyddio neuaddau, capeli a chlybiau'r dre fel y Neuadd Gelf / y Babell Lên, Pabell y Cymdeithasau ac ati, a gosod y stondinau ar hyd y strydoedd. Peidio â chodi tal mynediad i'r 'maes', ond gwerthu tocyn diwrnod sy'n eich galluogi i fynd i mewn i'r Pafiliwn ac unrhyw un o'r 'neuaddau' ac ati. Bosib y byddai llai o arian yn dod i mewn, ond byddai'r gost llawer yn llai hefyd. Byddai hefyd yn golygu bod llawer o bobl yn cael profiad o 'faes' yr Eisteddfod heb fod wedi bwriadu hynny o gwbwl, a chael eu boddi mewn môr o Gymraeg a Chymreictod. Byddai hefyd yn gwneud llawer mwy o les i economi'r dref - siopau, tafarndai, gwestai. Jyst syniad.

    Iwan Rhys

    ReplyDelete