30/08/2013

Ydy fy Saesneg yn Ddigon Da?

Yr wyf newydd ganfod ymchwil Beaufort Reserch i ddefnydd yr Iaith Gymraeg. Ymchwil hynod ddiddorol.

Un o'r canfyddiadau mwyaf difyr yw'r un bod pobl sy'n gallu defnyddio'r Gymraeg dim yn ei ddefnyddio o dan ofn beirniadaeth o ddefnyddio Cymraeg Anghywir.

Nid ydwyf yn anghytuno a'r canfyddiad. Ond yr wyf wedi cael llond bol o bobl sy'n dweud hynny!

Rwy'n fath o Gymro ail iaith. Roeddwn bron yn uniaith Saesneg ym 1974 ac yn rhugl dwyieithog erbyn 1979. Yn y cyfnod y bûm yn magu'r iaith nis cywirwyd fy Nghymraeg gan neb (ond ar ofyn). Roedd PAWB yn fodlon derbyn bod pob ymgais gennyf i ddefnyddio'r Gymraeg (hyd yn oed yn anghywir) fel ymdrech clodwiw i ddefnyddio'r Gymraeg ac yn rhoi pob annogaeth a chefnogaeth i mi.

Ers peth amser yr wyf wedi cyfrannu sylwadau ar y we yn y ddwy iaith. Nid ydwyf erioed wedi cael sylw ar y flog hon am gam dreiglad, cam acen na cham ramadegol, er gwaetha'r ffaith eu bod yn frith. Yr wyf wedi cael degau o sylwadau piwis am deipos, camgymeriadau sillafu a chamau gramadeg ar fy mlog Saesneg. Mae'r un yn wir ar Facebook a Twitter hefyd, cwynion dirifedi am fethianau fy Saesneg ond dim um am frychau fy Nghymraeg.

Mae safon fy Saesneg yn cael llawer mwy o feirniadaeth nac ydy safon fy Nghymraeg, er gwaetha'r ffaith fy mod yn llawer mwy rhugl yn y Saesneg na'r Gymraeg! Er hynny nid ydwyf wedi ystyried rhoi'r gorau i siarad Saesneg gan nad yw fy Saesneg yn ddigon da!

Os oes unrhyw beth all achub yr Iaith Gymraeg, cael gwared ar y ffug canfyddiad bod pobl yn feirniadol o "safon" Cymraeg ein cyd Cymreigwyr neu ein bod yn credu nad yw eu Cymraeg yn "ddigon da", bydd hynny!

1 comment:

  1. Mae'r ymchwil yn diddorol iawn. Ond yr un ateb sydd ddim yn ymddangos yn ymchwil Beaufort yw 'Does gen i ddim yr amser na'r amynedd i ddefnyddio/dysgu'r iaith'.

    Rwy'n credu efallai bod nifer o'r atebion eraill, gan gynnwys 'bydd pobl yn beirniadu fy iaith', yn ffordd o beidio a gorfod cyfaddef hynny!

    ReplyDelete