29/06/2013

Gwers Cadwaladr Jones i Fôn


Yr wyf wedi bod yn chwilio papurau ar lein am hanes Dolgellau, bro fy magwraeth, ac wedi dod ar draws sawl hanesyn difyr am fy nheulu. Bedydd, Priodas, Cofnod Claddu ac ati. Yng nghanol yr holl minutiae bersonol yr hanes mawr o Ddolgellau yn niwedd y 19 ganrif oedd hanes y llofrudd Cadwaladr Jones, y dyn olaf i ddioddef y gosb eithaf yng Ngharchar Sir Feirionnydd.

Roedd trosedd Cadwaladr yn un erchyll. Fe lofruddiodd hogan yr oedd yn cael perthynas a hi y tu allan i briodas; fe gladdodd ei chorff mewn bedd bâs, a phan oedd o'n tybio bod llif yr afon yn ddigon cryf darniodd ei chorff a'i thaflu i'r afon yn y gobaith y byddai'r darnau yn llifo i'r môr. Yn anffodus i'r dihiryn aeth darnau o'r corff yn sownd yn adeiladwaith Bont yr Aran (y bont bwa ger y siop kibabs) ac fe gafodd ei ddal, ei ganfod yn euog a'i ddedfrydu i farwolaeth.

Pan ddaeth dydd y dienyddiad daeth y dieneiddiwr swyddogol ar y trên i Ddolgellau a mynd yn syth at siop T.H.Roberts i ymofyn am raff. Roedd y dienyddiwr yn cael ei dalu am raff fel rhan o gostau ei gwaith, ond yn aml roedd y trigolion lleol mor frwd i weld dihiryn yn crogi bod y rhaff yn cael ei roi yn rhad ac am ddim gan siopwr lleol. Gwrthodwyd gwerthu rhaff iddo yn Nolgellau, yr Abermaw, Aberystwyth, Y Bala a Rhuthun, bu'n rhaid iddo fynd yn ôl dros y ffin i Gaer i gaffael ar raff (am bris lawn).

Wrth gwrs bod pobl Gogledd Cymru yn gweld Cadwaladr fel dihiryn afiach a oedd yn haeddu ei gosb, yr hyn a oedd yn wrthun iddynt oedd Sais hy yn dod i mewn i Gymru i weinyddu'r gosb honno i un ohonynt hwy.

Pawb yn cytuno mae bastard drwg oedd Cadwaladr – ond ein bastard drwg ni!

Rwyf wedi gweld rhywbeth ffigurol tebyg yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru sawl gwaith. Pan oedd Ron Davies o dan lach y papurau Prydeinig am ei gamweddau, codi gwrychyn am eu hymosodiadau ar un o'n hogiau ni fu ymateb y Cymry cefn gwlad (os nad Cymry'r cymoedd).

Cofio bod yn Nhafarn y Stag Dolgellau pan glywyd bod Dafydd Êl wedi bod yn anffyddlon i'w wraig gyntaf, hogan o Ddolgellau. Pawb wedi ffieiddio ato. Ond pan ddaeth riporter o'r Sun i'r dafarn i geisio chwilio baw am Ddafydd roedd yr hac yn lwcus dianc efo'i bywyd. Roedd DET yn gont am gachu ar ben Elen, ond cont ni ydoedd nid cont Y Sun.

Un o'r siociau mwyaf i wleidyddiaeth Cymru a Phrydain oedd ethol y Tori o Brighton, Keith Best yn AS Môn ym 1979. Roedd Keith yn gyff gwawd i genedlaetholwyr ar ôl ei ethol, ond chware teg iddo fe ddysgodd y Gymraeg a fu'n AS etholaethol pen ei gamp. Pan gafodd ei ddal yn twyllo efo siars BT a'i garcharu, yr oedd o hefyd wedi ei ddyrchafu yn "gont ond ein cont ni, nid cont Llundain". Ceisiodd y Ceidwadwyr ymbellhau oddi wrtho, ceisiodd Llafur gwneud môr a mynydd o'i gam, gwrthod gwneud sylw ond un o deimlo tristwch ar ei ymadawiad o dan y fath amgylchiadau oedd sylw'r Blaid, a bu hynny'n allweddol yn ethol IWJ am y tro cyntaf.

Cyn cychwyn yr ymgyrch y mae'r Blaid Lafur wedi methu rheol Cadwaladr Jones dwywaith. Y maent wedi danfon estron i grogi John Chorlton ac y maent wedi ceisio cachu ar enw un sydd, yn ddiamheuaeth, yn hogyn lleol ac un o "hogia ni" yr etholaeth!

25/06/2013

Yr hawl i ddinesydd cael sefyll etholiad mewn gwlad ddemocrataidd!


Nid wyf am wneud sylw am Rhun na Heledd fel unigolion gan eu bod ill dau yn bobl y mae gennyf lawer o barch tuag atynt ac mae fyny i Blaid Cymru ar yr y Fam Ynys i ddewis nid i mi argymell.

Ond hoffwn ymateb yn gyffredinol i'r sylwadau sydd wedi eu gwneud gan y Blaid Lafur a blogwyr genedloetholgar am gais Rhun ab Iorwerth i gael ei ystyried fel ymgeisydd.

Mae'n rhaid i ni dderbyn bod yna swyddi lle, er gwell neu er gwaeth, mae pobl yn cael eu gwahardd rhag bod yn aelodau o blaid wleidyddol ac o chware rhan weithredol mewn gwleidyddiaeth plaid - gohebwyr y BBC, clerigwyr Anglicanaidd, Swyddogion yr Heddlu, ambell i Wasanaethydd Sifil a rhai Swyddogion Llywodraeth Leol er enghraifft. Byddai nifer o'r bobl sy'n cael eu rhwystro o wleidydda o herwydd y fath swyddi yn ymgeiswyr etholiadau penigamp; gan hynny mae'n rhaid i bob plaid wleidyddol bod yn ddigon ystwyth eu rheolau ymgeiswyr i ganiatáu i'r fath bobl taflu het i'r cylch os dymunant wneud hynny.

Wrth ddilyn ffiasco Aled Roberts a John Dixon ar ôl yr etholiadau diwethaf i'r Cynulliad, yr hyn wnaeth fy nharo i fwyaf oedd cyn hired y rhestr o bobl sy'n cael eu hatal rhag sefyll mewn etholiad i'r Cynulliad. Mae rhif y bobl dalentog sydd wedi eu heithrio o'r broses wleidyddol oherwydd rheolau sefydliadol a chyfraith etholiadol yn ormodol, yn ddrwg i wasanaeth cyhoeddus, yn ddrwg i Gymru ac yn ddrwg i ddemocratiaeth.

Yn hytrach na beirniadu Plaid Cymru neu'r Blaid Lafur am y sefyllfa hon oni ddylem, canolbwyntio ar y sefydliadau, y rheolau a'r cyfreithiau sy'n atal pobl dda sydd wedi ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus, beth bynnag fo'u plaid, rhag cymryd rhan lawn yn y broses ddemocrataidd?

Pob hwyl i bwy bynnag syn llwyddo ennill yr enwebiad ym Môn, nid oes gennyf un bleidlais yn yr etholaeth, ysywaeth, ond damio 'swn i'n hoffi cael dwy er mwyn danfon Heledd a Rhun i'r Bae

19/06/2013

Piso ym Mhabell y Blaid

Yr wyf, yn wleidyddol, yn genedlaetholwr Cymreig yr wyf wedi bod yn gefnogol i'r Genedl ers dydd fy ngeni. Yn y 70au cynar Y Blaid Lafur oedd yn mynd a'm bryd. Bu cyfnod pan oeddwn yn credu mai'r Blaid Ryddfrydol (cyn bodolaeth y Lib Dems) oedd gobaith y Genedl Gymreig. Ond FI oedd yr unig Rhyddfrydwr ym Meirion aeth allan i ganfasio tros bleidlais Ie ym 1979.

Wedi cael fy siomi mi ymunais a Phlaid Cymru ym 1979 a fûm yn aelod dryw o'r blaid hyd 1995 pan ddywedodd Dafydd Wigley Plaid Cymru has never ever supported Independence for Wales.

Ers hynny yr wyf wedi bod fel Pelican yn yr Anialwch. Dim yn aelod o'r Blaid, ond dim amgen yn cael ei gynnig gan neb arall (er gwaethaf pob dymuniad i rywun rhywle cynnig achos amgen), o'r herwydd yr wyf wedi gwneud cais i ail ymuno a Phlaid Cymru.

Dwi ddim yn gwybod os bydd fy nghais yn cael ei gymeradwyo!

Yn ô LBJ It's probably better to have him inside the tent pissing out, than outside the tent pissing in. Os bydd fy nghais i ail ymuno yn cael ei gymeradwyo mwyaf tebyg mae mochyn yn piso tu mewn i'r dent byddwyf!