15/05/2013

Siarad ar fy rhan neu siarad ar eu cyfer?

Yn y senedd ddoe bu lobio ar ran pobl sy'n dioddef efo clyw’r digwydd (epilepsi).

Roedd Darren Millar AC yn falch o weld pobl o bob parth o Gymru yno i gefnogi'r achos

Roedd Aled Roberts AC yn falch o fod yn westai i'r digwyddiad


Dysgodd Rebecca Evans AC lawer o'r cyfarfod

Yr wyf wedi byw efo clyw’r digwydd am dros ddeugain mlynedd. Mae clyw’r digwydd yn anhawster sydd yn dueddol mewn teuluoedd, gan hynny mae gennyf nifer o gefndryd a chyfyrdryd sy'n dioddef yr un fath a fi ond, hyd y gwyddwn, doedd neb o'r teulu yn gwybod am y digwyddiad pwysig yma yn y senedd chwaith. Sy'n codi'r cwestiwn pam?

Mae'n debyg bod y lobi yma wedi ei drefnu gan grŵp o'r enw Epilepsi Action Cymru. Er gwaethaf dioddef o'r clyw am gyhyd dim ond pythefnos yn ôl (ar Twitter) clywais gyntaf am fodolaeth y fath mudiad.

Ar wahân i'r gair Cymru yn yr enw does dim gair arall o Gymraeg ar wefan y grŵp. Yn waeth byth Dyma ymateb y grŵp i ymholiad am weithgarwch yn y Gogledd:

Epilepsy Action Cymru does not have a group in North Wales. However a well established Mersey Region Epilepsy Group meets in Bangor.

Pa fandad sydd gan fudiadau o'r fath i siarad ar fy rhan ac i gael y fath ddylanwad ar ein Cynulliad?

Sut mae mudiad sydd yn amharchu'r Gymraeg ac sydd yn credu fy mod yn perthyn i barth Mersey yn cael siarad ar fy rhan i'm llywodraethwyr?

Pwy sydd yn rhoi'r hawl i'r bobl yma siarad ar fy rhan heb imi gael cyfrannu at eu trafodaethau?

Nid ydwyf yn gwybod be ddywedwyd wrth yr ACau am Glyw’r Digwydd, nid ydwyf yn gwybod os ydwyf yn cytuno neu'n anghytuno a barn y lobïwyr. Yr hyn yr wyf yn gwbl sicr ohoni yw nad oedd y lobïwyr yn siarad ar fy rhan i, fel un sy'n byw efo'r anabledd, gan na wnaed unrhyw ymdrech i gaffael fy marn i cyn iddynt fynd i bwyso ar aelodau'r Cynulliad!

Engraifft yn unig am un anabledd yw'r uchod ond un sy'n cael ei hailadrodd yn achos bron pob anabledd / afiechyd / salwch!

No comments:

Post a Comment