14/05/2013

Iaith Iechyd



Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg wedi dweud ei bod hi eisiau clywed gan y cyhoedd am eu profiadau nhw o ddefnyddio’r iaith Gymraeg ym myd gofal iechyd.

Gan fy mod yn Gymro Cymraeg ac yn Nyrs Cofrestredig mi gyfrannais bwt i'r Rhestr Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth ac i Dermau Gwaith a Gofal Cymdeithasol.

Ar y cyfan yr oeddwn yn falch o fy nghyfraniad i Dermau Gwaith a Gofal Cymdeithasol, derbyniwyd y rhan fwyaf o fy awgrymiadau. Yr un awgrymiad yr wyf yn flin amdani, fel person hynod drwm fy nghlyw, oedd Iaith Arwyddion ar gyfer Sign Language. I mi iaith arwyddion oedd y cymhelliad dros Beintio'r Byd yn Wyrdd chwedl Dafydd Iwan, nid y ffordd y mae pobl byddar yn cyfathrebu. EG yw'r ôl-ddodiad sy'n cyfleu iaith. Arwyddeg, gan hynny, yw'r gair sydd yn cydnabod mae iaith go iawn yw arwydd-iaith.

Yr wyf yn casáu Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth, fy nadl i (a dadl Bedwyr Lewis Jones) oedd mai'r termau Cymraeg i'w defnyddio mewn ysbyty oedd y termau llafar gwlad, termau byddai'r cleifion yn eu defnyddio yn hytrach na thermau proffesiynol. Ond roedd y golygyddion am gael Termiadur Proffesiynol oedd at iws neb ond y clic proffesiynol. Hymroid yn hytrach na Chlyw'r Marchogion neu beils, neu sgrotwm yn hytrach na chwdyn ac wrin yn hytrach na phiso.

O ran iaith meddyg, rwy'n dymuno cael meddyg sy'n gallu cyfathrebu'n deg a fi, gwell gwybod y gwahaniaeth rhwng Arse ac Elbow na Chocsics ac Wlna y Termiadur, ond gwell byth un sy'n gwybod y gwahaniaeth rhwng Tîn a Phenelin!

Wrth son am dermau iechyd, os mae lluosog Doctor yw Doctoriaid, lluosog Nyrs yw Nyrsiaid! Mae'r gair nyrsus yn sarhaus!

4 comments:

  1. Ie ! A beth, er enghraifft, am y lôn goch am oesophagus, nafodau am ulcers, twnelau bwyd am bowels a chwpwrdd croen am stomach ?

    ReplyDelete
  2. Rwy'n ansicr os wyt yn gwneud sylw call, Dafydd neu yn Cymryd yr Wrin!

    Ie mae dy enghreifftiau o dermau iechyd cefn gwlad oll yn ddilys, er bod un neu ddau yn ddieithr i mi.

    Y pwynt pwysig yw - os ydym am gael mwy o ddoctoriaid a nyrsiaid sy'n defnyddio'r Gymraeg bydd nifer mawr ohonynt yn ail iaith - yn ddysgwyr. Ond be ddylid dysgu dysgwyr ein hiaith er mwyn eu galluogi i wneud eu gwaith? Termau technegol proffesiynol neu'r termau y bydd eu cleifion yn debygol o'u defnyddio?

    ReplyDelete
  3. Anonymous12:34 pm

    Faint o bobl fyddai'n deall beth ydy 'clyw'r marchogion'?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Os wyt yn dioddef ohonynt ti'n gwybod yn iawn pa beth ydynt!
      Ond o dderbyn dy bwynt "peils" yn well term na "hymroid".

      Delete