17/04/2013

Mrs Thatcher - Angladd Y Fi Fawr



Y peth cyntaf imi gofio ei weld ar deledu erioed oedd cynhebrwng Winston Churchill ym 1965. Yn wir prynwyd y teledu cyntaf gan fy nheulu yn unswydd ar gyfer ei wylio.

Nid Churchill oedd y prif weinidog cyntaf i gael cynhebrwng Seremonïol / Gwladol, cafodd Dug Wellington un a William Gladstone hefyd.

Rhwng marw Mr Churchill a Mrs Thatcher mae 6 o Brif Weinidogion eraill y DU wedi marw Eden, MacMillan, Attlee, Wilson, Callahagn a Heath a phob un wedi ymadael heb sploets gwladol /seremonïol. Sydd yn codi y cwestiwn pam bod marwolaeth Thatcher yn cael ei thrin yn wahanol i farwolaethau ei rhagflaenwyr?

Yr ateb, mae'n debyg, yw dewis personol. Mae pob cyn Brif Weinidog yn cael nodi os ydyw am gael cynhebrwng mawr cenedlaethol. Ers 1965 yr unig un i ddweud ydwyf yw Mrs Thatcher, sydd yn adrodd cyfrolau am natur y ddynes. Nid y wlad sydd wedi penderfynu ei chofio gyda'r fath sploets ond Y Fi Fawr Hunanbwysig sy'n gwbl nodweddiadol o'i chymeriad hunanol. Mae'r ffaith bod y chwech arall wedi dweud na yn profi eu bod yn bobl llawer mwy diymhongar, nes at y bobl, ac yn fwy haeddiannol o barch na'r un sy'n cael ei choffau heddiw.

5 comments:

  1. Rhaid i eironi Hestletine troi i fyny wedi cael eu colli gan y rhan fwyaf, gan mai ef oedd y rheswm Thatcher cael y penelin.

    ReplyDelete
  2. Os wyt ti’n ddigon hen i gofio angladd seremonïol y diweddar Winston Churchill, dylet fod yn cofio mai mewn tlodi ariannol affwysol yr oedd dosbarth gweithiol ein gwlad yn byw bryd hynny. Roedd gwahaniaeth cymdeithasol amlwg ych-a-fi mewn amryfal ffyrdd rhwng aelodau anffortunus y dosbarth hwnnw ag aelodau’r bonedd hetiau silc oedd yn edrych i lawr arnynt ac yn eu cadw nhw dan eu traed gyda dirmyg mawr a chas berffaith. Gwelidyddion y dosbarth olaf a enwyd gennyf yn y frawddeg flaenorol oedd gwleidyddion Plaid Dorïaidd y cyfnod. Roedden nhw’n cadw at gytundeb a wnaed wedi’r Ail Ryfel Byd a oedd yn cynnig cyflogaeth lawn a chydfargeinio rhydd unai am well cyflogau neu well amodau gwaith neu’r ddau beth hynny dan yr amod y cedwid nhw dan gyfradd chwyddiant yn economi’r wlad eithr erbyn 1979 aeth chwyddiant y tu hwnt i allu neb ei reoli. Ar ben hynny roedd llawer wedi hen alaru ar amryfal effeithiau economaidd llaw farw’r diwydiannau gwladol ar eu bywydau. Un enghraifft nodweddiadol o nifer o hynny oedd y ffaith fod ymron bob aelod o’r dosbarth gweithiol yn byw mewn tai gwladol a reolwyd gan adrannau tai cynghorau lleol. Onid oedd dy rieni di yn eu plith ? Châi neb ddewis ble’r oedd arno eisiau byw a rhaid oedd derbyn yn ddiolchgar unrhyw anedd a gynnigwyd waeth beth oedd ei gyflwr. Eithr roedd y dosbarth gweithiol wedi dechrau dyheu am newidiau er gwell o bob math yn eu bywydau erbyn 1979 a chan iddi hi’n yn anad neb un arall sylweddoli hynny gan ddeall eu dyheadau’n well na neb, fe enillodd Margaret Thatcher rym welidyddol y flwyddyn honno pan ddaeth hi’n Brif Weinidog Prydain Fawr am y tro cyntaf erioed. Y nannedd gwrthwynebiad chwyrn y pendefigion Torïaidd Gwlybion yn ei phlaid fe ddechreuodd roi cyfle i bawb yn ddiwahân wella’i fywyd. Oni chafodd dy rieni fel pawb arall y cyfle hwnnw ac oni fanteisiodd y ddau ohonynt ar y cyfle hwnnw a roddwyd iddynt i brynu eu tŷ cyngor yn Nolgellau ? Onid yw bywyd bob un ohonom yn well heddiw, diolch i’r diweddar Brif Weinidog Maragret Thatcher ? Onid hi hefyd sydd biau’r diolch fod gennym, er enghraiff, Gynulliad yng Nghaerdydd a sianel S4C yng Nghymru ? Credaf fod y rhai sy’n ei dilorni yng nghaethiwed angau yn ddigywilydd fel pot. Maent yn ymddwyn yn angharedig a chwbl anghristnogol !

    ReplyDelete
    Replies
    1. Ymateb diddorol gan un oedd yn gydymaith imi ar linell piced yn ystod streic y Glowyr!

      Does dim yn y post uchod sy'n trafod etifeddiaeth Thatcher na'i pholisiau yn ystod tymor ei llywodraeth, dim ond trafod rhinwedd y trefniadau angladdol.


      Delete
  3. Yn ddi-os roedd y fath o gymdeithas yr wyt yn disgrifio yn bodoli yn ystod cyfnod Churchill, ond rwy'n ansicr os yw dy ddisgrifiad yn hollol gywir parthed adeg angladd Churchill; erbyn 1965 yr oedd pethau wedi newid yn aruthrol. Yn wir byddwn yn mynd mor bell ag i ddweud mai canol y chwedegau pan fu farw Churchill oedd un o’r adegau gorau yn hanes y bod dynol i berthyn i'r dosbarth gweithiol Prydeinig.

    Yr oedd y Gwasanaeth Iechyd wedi ei sefydlu, yr oedd yr ysgolion cyfun a'r prifysgolion newydd (gan gynnwys y Brifysgol Agored a Choleg Harlech) yn rhoi cyfleoedd addysg gorau fu i blant gweithwyr - yn rhoi'r cyfle cyntaf iddynt i ddewis peidio dilyn yn ôl traed eu rhieni. Yr oedd y slymiau yn cael eu clirio a phobl yn cael gwarant, bron, o dy gyngor cysurus solet ac yr oedd yn gyfnod o lefelau uchel o gyflogaeth ac yn y diwidianau gwladol, yn arbennig, roedd cyflogau dechau ar gael hefyd.

    Wrth gwrs roedd y sefyllfa yna'n anfoddhaol i ddwy garfan. Ar y naill law'r undebwyr milwriaethus fel Mick McGahey, Joe Gormeley, Jimmey Ried ac ati oedd yn gweld pobl gyffredin cysurus eu byd yn fygythiad i'w grym fel arweinwyr y dosbarth difreintiedig. Ar y llaw arall y cyfalafwyr mwyaf milain a oedd yn gweld dosbarth gweithiol cysurus yn fygythiad i elw a rheol naturiol "the rich man in his castle, the poor man at his gate".

    Tristwch y 70au a'r 80 oedd bod un o'r carfanau eithafol a threchodd o dan arweiniad Mrs Thatcher.

    Pe bai dynes gref arall, Barbera Castle, wedi dyfod yn Brif Weinidog benywaidd cyntaf y DDU, siawns byddai'r syniad o ddosbarth gweithiol llewyrchus yn bwydo'r farchnad gyfalafol wedi ei greu ym Mhrydain yn yr un modd a'i crëwyd yn Yr Almaen a Japan!

    ReplyDelete
  4. Dafydd

    Wyt ti'n cofio Clare Short yn Foneddiges gwadd yng Ngwyl Gweithwyr Bangor a'r gwynt yn dangos nad oedd hi'n gwisgo nicar?

    ReplyDelete