29/12/2012

Sefyll ym mwlch ffiffti-êt sicsti tŵ

Ni fyddwn byth yn ystyried gwario bron i £60, mewn Siop Spar lleol!

Nid ydwyf yn gwybod pa nwyddau prynodd y Cyn Archdderwydd, ond rwy'n gwybod byddai ei bil yn llai, pe bai wedi siopa yn Asda neu Tesco. Yn wir mi fyddai'n cael taleb o £5 at ei neges nesaf a gostyngiad ar bris petrol pe na bai wedi cefnogi'r siop leol

Mae gwario £60 punt mewn un o siopau Pwllheli, ynddo'i hyn, yn safiad egwyddorol dros yr Iaith a'r Fro. Byddwn yn disgwyl i berchenogion siopau Pwllheli i longyfarch Robyn am ei safiad. Byddwn yn disgwyl i Gymry penbaladr ei longyfarch.

Ond nid dyna fu.

Wedi talu crocbris i gefnogi siop leol gofynnodd y ferch wrth y til am ffifti-êt sicsti tŵ yn ei Chymraeg gorau, a dyma le' mae'r ddadl yn corddi! Gofynnodd Robyn ar iddi ail adrodd y pris yn y Gymraeg, gan mae ei ffiffti êt sicsti tŵ ef oedd ar fin mynd i'r til, Roedd ganddo'r hawl i ofyn  -  yn ôl y ddihareb mae'r cwsmer wastad yn gywir

Gallasai'r hogan wedi ateb trwy ddweud Sori Rob, dwi'm yn gwybod rhifau mawr yn Welsh neu Hybarch Archdderwydd dysg imi'r Gymraeg am ffifti-êt sicsti tŵ, neu wedi rhoi ymgais ar ei haddysg meithrin trwy ofyn am Pump Wyth Chwech Dau, neu wedi defnyddio'r uchel seinydd i holi'r siop am gyfieithiad, ond nid dyna wnaed.

Ystyfnigodd yr hogan gan fynnu dweud y rhif tair gwaith yn y fain - ac yna galwyd yr heddlu i gyhuddo dyn oedd yn fodlon talu crog pris mewn siop leol o fod yn gont am ymofyn gwasanaeth lleol!

Ar ôl iddo wneud y fath safiad mai 90% o Gymreigwyr Trydar yn beio Robyn am y cawlach - yn hytrach na gweld siop leol yn piso ar ei jîps trwy neud or ffỳs am foi Cymraeg, sy'n gwario llawer mwy na wnaf i byth mewn siop leol, yn ymofyn gwasanaeth Cymraeg sylfaenol - Be di pwynt Brwdyr yr iaith os yw Cymry driw yn bodlon bwydo ein harwyr i gachfa'r Daily Mail

8 comments:

  1. Anonymous11:29 am

    Mae wedi canu arnom mae arna'i ofn

    ReplyDelete
  2. Anonymous12:11 pm

    Dwi'n anobeithio weithiau am agwedd ni'r Cymry Cymraeg weithiau.

    Os nad oedd Robyn wedi galw'r hogan yn enwau cas, yna beth oedd pwynt galw'r Heddlu!?

    (a dyna broblem fawr arall - Heddweision uniaith Saesneg mewn cymunedau Cymraeg.)

    Beth bynnag oedd natur union yr helynt, dyle'r perchennog y siop nawr droi hyn i rywbeth cadarnhaol a chydnabod bod cyfle i 'hyfforddi' ei staff i wella eu gwasanaeth Cymraeg. Mae na ddigon o gyrsiau ac adnoddau. Be di pwynt cefnogi cynnyrch a chymuned lleol os nad ydych yn rhagweithiol am iaith y gymuned hefyd.

    Er dweud hynny, y siop sy'n helpu Seisneigio Pwllheli mwya' yw Asda.

    ReplyDelete
  3. Anonymous7:49 pm

    A ddylem wastraffu amser yn poeni am storm mewn cwpan de o'r fath a ddisgrifir yn y blog uchod ? Mae pethau pwysicach o lawer yn digwydd yn y byd mawr llydan y tu draw i ryw siop Spar ym Mhwllheli ! Tyfwch i fyny gwir Dduw i chi ! - Dafydd Jones o Lanrwst

    ReplyDelete
    Replies
    1. Dafydd bach pe baem dim ond yn trafod pynciau pwysica’r dydd byddai bywyd yn ddiflas iawn - eu diddordeb i mi sy'n pennu pa bynciau byddwyf yn trafod yma, nid eu pwysigrwydd i gwrs y byd. Rwy'n gweld yr hyn a digwyddodd yn Siop Spar Pwllheli yn ddiddorol a'r ymateb i'r pwnc yn y Cyfryngau Saesneg a'r we-fyd Cymraeg yn hynod ddiddorol. Os nad wyt ti'n gwirioni'r un fath - purion - paid a bod yn rhan o'r drafodaeth.

      Gyda llaw yr wyf wedi colli dy rif ffôn yn dy gartref newydd - galwa fi i fy atgoffa ogydd!

      Delete
  4. Neilyn8:14 pm

    Tra'n cydymdeimlo, i ryw raddau, gyda rhwystredigaeth Dr Lewis, dwi'n teimlo iddo or-ymateb y tro hwn. Iesu Grist, Cymraes oedd yn ei wasanaethu, ond fod honno wedi defnyddio rhifau Saesneg i ddisgrifio'r gost. Mi oedd fy neiniau yn gwneud yr union beth, a'n Mam a'n Nhad fawr gwahanol. Dr Lewis - beth am i ni ganolbwyntio'n egni ac adnoddau ar y pethau hynny sy'n arwain at gynyddu hyder a chariad, yn hytrach nag ymosod ar unigolion sydd a Chymraeg amherffaith? Mae'n rhaid ystyried cyn ymateb.

    ReplyDelete
  5. Mae cywiro Cymraeg rhywun tu fas o ddosbarth yn weithred gas. Dylid derbyn gwallau iaith pobl erill, ond defnyddio iaith gywir i roi esiampl o ymarfer da. Gresyn bod cymaint o Gymry ddim yn deall effaith ymddygiad purdebwyr fel Mr Lewis ar Gymry anhyderus eu hiaith.
    Gallai fod wedi dweud "Dyma Pum deg wyth punt chwedeg dau" gyda gwên ond dewusodd ef embaraso hi a chodi stŵr.

    ReplyDelete
  6. Mae cywiro Cymraeg rhywun tu fas o ddosbarth yn weithred gas. Dylid derbyn gwallau iaith pobl erill, ond defnyddio iaith gywir i roi esiampl o ymarfer da. Gresyn bod cymaint o Gymry ddim yn deall effaith ymddygiad purdebwyr fel Mr Lewis ar Gymry anhyderus eu hiaith.
    Gallai fod wedi dweud "Dyma Pum deg wyth punt chwedeg dau" gyda gwên ond dewusodd ef embaraso hi a chodi stŵr.

    ReplyDelete
  7. @ Bratiaith: nid cywir Cymraeg rhwyun ar y stryd neu yn y dafarn oedd RL. Efe oedd y cwsmer ar wario swm sylweddol. Nid gofyn i weithwyr siop mynd dros y top yn y Rhyfel Byd Cyntaf ydyn ni yma. Mae'n bosib dysgu gwneud mewn cwta prynhawn. Hen bryd i'r Cymry godi'u disgwyliadau. Gyda newid agwedd a tipyn o ymgyrch, dydy hi ddim yn ormod disgwyl i BOB gweithiwr siop yng Nghymru, gyn gynnwys y Mrs Singh gyda ei siop tsips yn Chepstow fedru cynnig y gwasanaeth. Duw a'n helpo!

    ReplyDelete