14/12/2012

Llinyn Arian y Cyfrifiad

Yr wyf fi, fel pob ceraint arall i'r iaith, wedi fy siomi'n arw efo canlyniadau'r cyfrifiad. Yr wyf yn cefnogi pob galwad am weithredu i wella'r sefyllfa. Mae angen mwy o Ysgolion Cymraeg penodedig, yn enwedig mewn rhai o'r ardaloedd lle fu "esgus" addysg Gymraeg o dan drefn "categori" neu "Ysgol naturiol" yn Sir Gar, Ceredigion a Meirion. Mae angen cael gwared â'r tabŵ o gwyno am y mewnlifiad ac edrych ar ffurf o'i reoli. Mae angen creu cyfleoedd gwaith ar gyfer Cymry Cymraeg, mae angen magu hyder pobl i ddefnyddio ac i ymfalchïo yn eu Cymraeg. Mae angen gwneud yr holl bethau yma a rhagor ar frys er mwyn achub y Gymraeg.

Ond mae yna berygl o ormodedd o sachliain a lludw parthed ffigyrau'r cyfrifiad. Os ydym yn ddarogan gormod o wae yr ydym yn chware i ddwylo'r sawl sy'n casáu'r iaith, sy'n honni mae iaith ar ei wely angau efo DNR uwchben y glustog ydyw; y sawl sydd am gyfiawnhau gwario llai ar y Gymraeg gan fod llai yn ei ddefnyddio ac ati.
Mae yna ambell i linyn arian yn y ffigyrau.

Os yw'r Gymraeg yn dirywio ar y lefel y mae wedi dirywio ers cyfrifiad 1962 yr oedd Tynged yr Iaith yn cyfeirio ati – bydd yr Iaith Gymraeg yn fyw am o leiaf 300 mlynedd arall. Roedd Saunders yn ddarogan marwolaeth yr iaith erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain. Dyma ni ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain! I ni yma o hyd ac mae'r iaith Gymraeg yn fyw!
Mae hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn gallu'r Gymraeg, mae'n debyg bod nifer tebyg yn byw y tu allan i Gymru - mae miliwn o Gymreigwyr yn nifer helaeth o bobl. Dim ond ychydig yn llai o ran niferoedd (yn hytrach na chanran) na phan ofynnwyd y Cwestiwn iaith am y tro cyntaf ym 1891 a llawer mwy o ran niferoedd nag oedd o Gymry Cymraeg pan gynhaliwyd y cyfrifiad cyntaf ym 1801.

Mae un o bob pump o'r bobl yr ydych yn debyg o gwrdd ar y stryd, mewn siopau mewn unrhyw fan gymdeithasol yng Nghymru yn debygol o allu'r Gymraeg, mae'n dal yn werth chweil i ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg mewn pob sefyllfa. Cei ymateb cas "don't speak that language" weithiau; ceir yr ymddiheuriad "I'm sorry I don't speak Welsh" yn amlach, ond cewch eich siomi, unwaith allan o bob pump o'r ochor orau o glywed y gyrrwr bws, yr hogan wrth y til a hyd yn oed y gwerthwr tsips enwog yng Nghas-gwent yn ymateb trwy'r Gymraeg!
 

Iawn fod yn siomedig, iawn fod yn flin o ganfod ffigyrau'r cyfrifiad - ond paid digalonni!


 

7 comments:

  1. Hanner miliwn o Gymry tu allan i Gymru? Lle cest ti'r ffigwr yna?

    ReplyDelete
    Replies
    1. "Mae'n debyg" bod nifer tebyg yn byw y tu allan i Gymru meddwn i, nid ei fod yn ffaith ddiymwad bod hanner miliwn o siaradwyr y Gymraeg sy'n alltud. Does dim prawf o faint y Cymru ar wasgar sy'n dal i arddel y Gymraeg am wn i ond mae'r honiad bod cymaint o ddefnyddwyr yr iaith tu draw i ffiniau Cymru ag sydd oddi mewn i'w ffiniau yn un sydd wedi ei wnaed droeon ers dros ganrif a mwy.

      Delete
    2. Mae Dafydd Wigley yn awgrymu hyd at 150,000 o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr yn yr erthygl hon: http://www.english.plaidcymru.org/the-slate/2012/12/14/welsh-language-census-figures-reopen-our-perennial-debate/

      Ychwanega efallai 50,000 yng ngweddill y byd, ac efallai ceir cyfanswm o 700,000. Ond, dyma 700,000 sydd hefyd yn siarad ac yn defnyddio un o brif ieithoedd y byd yn feunyddiol. Mae môr o wahaniaeth rhwng "medru siarad" ac "yn siarad", yn anffodus.

      Delete
    3. 150,000 yn swnio'n fwy realistig. Yn sicr, mae yna lawer - hyd y gwela i mae tua 1/3 o fy mlwyddyn ysgol (fe adawon ni yn 2006) bellach yn byw yn Lloegr - ond does modd bod cymaint a hanner miliwn.

      Delete
  2. Neilyn8:05 pm

    Cytuno'n llwyr Alwyn. Os yw'n dderbyniol (angenrheidiol?) bellach yng ngwyneb y pryderon cyhoeddus amlwg i Mr Milliband ddweud ei fod am weld gwell mesurau i sicrhau fod newydd-ddyfodiaid i Brydain am ddysgu'r Saesneg, nid oes gan Mr Jones unrhyw esgus foesol dros osgoi gwneud datganiad gyhoeddus agored a chall dros fesurau perthnasol parthed y Gymraeg yng Nghymru. Mae'n hen bryd i'r tabw ddiflannu. Mae'n hen bryd i weithredu. Dyma'r cyfle.

    ReplyDelete
  3. Anonymous6:37 pm

    Mae'n bosib bod ffigurau'r cyfrifiad yn rhy uchel unwaith eto, yn enwedig y ganran o bobl ifanc sy'n medru'r Gymraeg.
    Welbru

    ReplyDelete
  4. Anonymous5:07 pm

    Os ydi "un o bob pump o'r bobl yr ydych yn debyg o gwrdd ar y stryd" yn siarad yr iaith, felly fydd 1/5 o sgwrsiau i fod clywed wrth pasio ar y stryd hefyd yn Gymraeg, ond dydi? Wel, nag ydi, dim o gwbl, am rhaid cael "dau i dango". Os nad ydi'r pâr yll dau yn medru Cymraeg, bydden nhw'n sgwrsio yn Saesneg, a'r siawns felly o glywed sgwrs Gymraeg ydi 1/5 * 1/5 = 1/25 h.y. 0.04 neu dim ond 4%. Felly wrth gerdded y strydoedd fyddai rhywun yn meddwl, "does neb yma sy'n siarad Cymraeg", ac os ydi o'n Gymru Cymraeg, "does dim pwynt i'w siarad yma", ac i'r brawd digymraeg, "does dim pwynt i'w dysgu". Mae'r iaith "yma o hyd" yn wir, ond dros y ran fwya o'r wlad mae hi anglywadwy (yw hynny gair??) Dyna'r broblem wrth greu haen danau o siaradwyr led-led y wlad. Unigolion gwasgaredig yn lle cymunedau. Pa werth lliaws o gymru Cymraeg yn Lloegr, sy'n siarad Cymraeg wrth y gath efallai??

    ReplyDelete