06/12/2012

dot cymru, dot wales - Dot Fi?

Rhai blynyddoedd yn ôl mi gofrestrais "dolgellau. me. uk;" fel parth, am ddim, trwy ddilyn cwmni a chanfuwyd ar Google. Wedi gosod gwerth oes o ymchwil ar y wefan, fel modd o rannu fy mrwdfrydedd am hanes y dref ag eraill, cefais wybod ymhen y rhawg mae nid fi wedi'r cwbl oedd perchennog "dolgellau. me. uk" ond cwmni a oedd yn mynnu codi crocbris arnaf i barhau i ddefnyddio'r parth. Gan nad oeddwn yn fodlon talu'r pris collais yr hawl i ddefnyddio'r cyfeiriad a'r holl waith a aeth i mewn i greu'r wefan.

Am gyfnod "benthycwyd" y dilyniant a adeiladais i'r cyfeiriad gan pornograffwyr a gwerthwyr sothach, er mawr gywilydd i mi.

Yn ôl y sôn bydd modd, cyn bo hir, cael safwe .cymru neu .wales . Hoffwn berchen ar safwe o'r fath lle mae'r cyfeiriad yn PERTHYN I FI. Rwyf wedi cael hyd i sawl cwmni sy'n fodlon cofrestru safwe "ar fy rhan" yn yr un modd a chofrestrwyd dolgellau. me. uk ar fy rhan gan gwmnïau nad fyddant yn fodlon rhyddhau'r we gyfeiriad i gwmni gwe-weini arall, os dymunaf newid gweinydd, sefyllfa sy'n ddiwerth i mi.

Nid ydwyf am rannu fy holl wybodaeth am flodau ar wefan o'r enw blodau. cymru fel cymwynas i flodwyr Cymru, dim ond i ganfod bod rhaid imi dalu miloedd er mwyn parhad y parth ym mhen blwyddyn gan mae miliwnydd o Rwsia ac nid fi yw perchennog enw'r safwe!

Sut mae mynd ati i sicrhau mae fi, a fi yn unig, bydd yn gallu defnyddio blodau. cymru yn oes oesoedd a fy mod yn gallu newid "host" y cyfeiriad os ddymunaf wneud hynny ymhen blwyddyn neu ddwy heb colli cynwys?

3 comments:

  1. Anonymous9:58 am

    Dyma ein 'rhith' adnoddau. Adnoddau sy'n lawer cyn bwysiced â gwynt a dŵr.

    Yn anffodus, nid yw .cymru (na .wales) ym meddiant y Cymry. Nid oes modd i'r Cymry lywodraethu a phenderfynu dros ddefnydd y PLUau rhain er budd Cymru a'r Gymraeg.

    Er ymgyrch a gwaith caled gan aelodau dotCym, cynlluniodd lywodraeth Llafur Cymru yn eu herbyn er mwyn i gwmni o Loegr cael perchnogaeth (ac i ffrindiau o'r blaid cael swyddi). Does yr un llywodraeth arall yn y byd wedi cytuno i'w PLU cael ei feddiannu gan sefydliad o wlad arall.

    Mae'r hanes i gyd ar wefan dotcym.org

    Yn fwy diweddar mae'r cwmni o Loegr wedi cael sylw ar wefan Haciaith, a'u 'ymroddiad' i'r Gymraeg ac felly i farchnata'r PLU .cymru - defnyddio Google Translate er mwyn darparu gwefan Cymraeg o'u hymgyrch cyhoeddusrwydd.

    ReplyDelete
  2. Alwyn, os cofrestrwyd y parth gennych chi ond nid chi oedd y perchennog cyfreithiol, mi fasech wedi galllu cael y parth nôl drwy gysylltu a Nominet (ond mae'n bosib fod hi'n rhy hwyr nawr). Mae yna gontract uniongyrchol rhwng y cofrestrydd a Nominet yn ogystal a chontract gyda'r darparwr. Dyw Nominet ddim yn ffafrio parthau sy'n cael eu cofrestru yn enw y darparwr yn hytrach na'r prynwr. Doedd dim angen colli'r gwaith hefyd ond mae hynny yn fater arall.

    O ran .cymru/.wales mi fydd nifer o ail-werthwyr yn darparu'r parthau hyn a mae'n ddigon hawdd dewis cwmni dibynnadwy i'w cofrestru. Sdim trefniadau o gwbl ar gyfer parthau cymru eto ond mae digon o gwmniau yng Nghymru yn cynnig parthau e.e. http://www.cymru1.net/

    Mae 'Anhysbys' uchod yn iawn o ran perchnogaeth y parthau newydd, ond dyw hyn ddim byd i wneud a perchnogaeth unigolion o barth mae nhw'n ei brynu. Ond mae'n reit amherthnasol pa sefydliad sy'n rhedeg .cymru a .wales hefyd am fod yr holl system DNS yn dibynnu ar yr UDA yn y pen draw.

    ReplyDelete
  3. Anonymous1:53 am

    Diweddariad gan dotcym heddiw:

    http://www.dotcym.org/hafan/?p=203

    Dwi ddim yn gytuno a Dafydd ar nad oes lawer o bwys ar berchnogaeth yn y pen draw. mae pob llywodraeth arall yn y byd yn cydnabod werth strategol eu plu ac wedi sicrhau bod y perchnogaeth yn aros o fewn eu dalgylch, ddylanwad a'u chyrraedd.

    mae'n sgandal genedlaethol na sicrhaodd Llywodraeth (Llafur yn bennaf) Cymru perchnogaeth tebyg ar y ddefnydd o'n hunaniaeth arlein am byth bythoedd.

    yn barod mae nominet wedi dangos eu bod yn ddiystyru'r Gymraeg ac felly .cymru.

    Anhysbys (sydd, er y teimladau cryf, ddim yn aelod o dotcym)



    ReplyDelete