26/12/2012

Cwestiwn Dyrys am y Sêls


Yn ôl y newyddion ar BBC Brecwast y bore 'ma mae'n debyg bydd y siopau mawrion yn gwneud hyd at £3 biliwn o elw yng nghyfnod y sêls wedi'r Nadolig! Hwb gwych i economi'r ynysoedd hyn, yn ôl pob tebyg. Ond os allant wneud gymaint o elw trwy werthu eu nwyddau gymaint yn rhatach ar ôl yr ŵyl, onid ydy hynny'n brawf eu bod yn codi gormod o lawer yn eu prisiau arferol trwy gydol y flwyddyn?

Onid gwell i'r economi'n gyffredinol ac i siopwyr cyffredin byddid codi pris teg trwy gydol y flwyddyn yn hytrach na chodi crocbris am un fis ar ddeg er mwyn creu cynddeiriogrwydd cael bargen ffals am bythefnos?

3 comments:

  1. Wel yn y bon mae cwmniau fel Next yn gwneud cyfran dda o'u helw yn y Sel. Maen nhw'n gwerthu'r stwff yn ddrud cyn Dolig ac yn gwneud elw trwy werthu ychydig, ond maen nhw'n gwerthu llawer, llawer mwy ar ol Dolig ond efo margin llai o lawer. Y gwerthiant rhad sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r elw.

    ReplyDelete
  2. Wel yn y bon mae cwmniau fel Next yn gwneud cyfran dda o'u helw yn y Sel. Maen nhw'n gwerthu'r stwff yn ddrud cyn Dolig ac yn gwneud elw trwy werthu ychydig, ond maen nhw'n gwerthu llawer, llawer mwy ar ol Dolig ond efo margin llai o lawer. Y gwerthiant rhad sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r elw.

    ReplyDelete
  3. Anonymous2:50 pm

    Yn rhannol hefyd mae'r cyfnod yma'n ymwneud a chael gwared ar stoc tymhorol. Ambell waith (ddim yn aml iawn) does 'na ddim fawr o elw - dim ond cael gwared

    ReplyDelete