23/10/2012

Dal fy Nhrwyn Dros Winston

Yr wyf wedi bod mewn cyfyng gyngor parthed pleidleisio yn yr Etholiadau Comisiynydd Heddlu.

Mae'r syniad o gael pleidleisio am y fath swydd yn fy ffieiddio. Fel cenedlaetholwr yr wyf wedi cael y profiad o gael fy erlyn yn droseddol o ganlyniad i weithredu ar egwyddorion gwleidyddol ac ar y cyfan yr wyf wedi cael y system droseddol, er gwaethaf ei ragfarn o blaid y drefn, yn weddol onest a diduedd. Rwy'n casáu'r syniad mae "gwleidydd" bydd yn trefnu polisi'r heddlu o hyn allan.

Y mae Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd wedi penderfynu peidio ag ymladd yr Etholiadau Comisiynydd, pe bai gan y Blaid ymgeisydd byddwn yn gallu bwrw pleidlais yn hyderus dros eu hymgeisydd, ond heb ymgeisydd swyddogol gan y Blaid y mae gennyf ofn pleidleisio ac ofn peidio a phleidleisio.

Fel unigolyn mae Tal Michael yn hen foi iawn, ond rwy'n casáu'r Blaid Lafur a phrin fy mod am greu'r argraff bod y Blaid Lafur ar ei fyny yng Nghymru (canys dyna fydd canlyniad ethol 4 Comisiynydd Llafur) trwy bleidleisio iddo.

Gwan yw'r gair caredicaf y gallwn ddod ar hyd iddo i ddisgrifio'r ymgeisydd Ceidwadol. Weithiau mae pleidiau gwleidyddol yn datgan eu gobeithion am ennill trwy ddewis "rhywun rhywun" i sefyll yn eu henw yn hytrach nag ymgeisydd gwerth chweil; "rhywun rhywun" i'w aberthu yw'r ymgeisydd Ceidwadol - unigolyn nad yw'r blaid yn disgwyl ennill yn ei henw - ac (yn ddistaw bach) yn gobeithio i'r nefoedd na chaiff ei hethol yn annisgwyl.

Sydd yn gadael yr annibynwyr. Mi wnes i roi dwys ystyriaeth i sefyll fel ymgeisydd annibynnol, ond wedi ymchwilio i'r oblygiadau mi ddois i'r canlyniad y byddai cost sefyll - yn gwbl annibynnol - o ennill yn fwy na chyflog y swydd am ei thymor, sydd yn gwneud imi amau argymhellion yr ymgeiswyr annibynnol.

Pa mor annibynnol ydynt?

Pwy sy'n ariannu eu hymgyrchoedd?

Mi fyddai'n loes calon imi i beidio a phleidleisio - yr wyf yn ddisgynnydd i rai o'r sawl cafodd eu troi allan ym 1859 ac i Hen Nain a phleidleisiodd yn ei phenwynni am y to cyntaf ym 1928; mae pleidleisio yn ddyletswydd imi. Gan hynny yr wyf wedi penderfynu bwrw fy mhleidlais dros Winston Roddick, ymgeisydd annibynnol sydd a hen hanes o wasanaethu'r genedl trwy amryfal ffurf heb lygredd, a gan hynny yn un gellid ei drystio; ond o ddweud hynny dan afael fy nhrwyn yn dynn iawn y byddwyf yn bwrw pleidlais iddo!

4 comments:

  1. Anonymous9:54 pm

    Roeddwn yn bwriadu sbwylio fy mhleidlais, ond gan fod Dafydd El wedi datgan ei gefnofaeth i'r ymgeisydd Llafur byddaf innau hefyd yn pleidleisio i Winston Roddick.

    ReplyDelete
  2. Dwi hefyd am bleidleisio i Winston Roddick

    ReplyDelete
  3. Anonymous8:23 pm

    Yr wyf innau wedi bod yn pendroni nes i'r arglwydd fy argyhoeddi mai Mr Roddick sy'n haeddu fy mhleidlais.

    ReplyDelete