27/10/2012

Beio'r Gymraeg am Bedoffilia

Yn ddi-os mae yna tebygrwydd rhwng achos Jimmy Savile ac achos John Owen. Ar y lefel isaf mae'r ddau achos yn halogi cof gwylwyr. Roeddwn yn mwynhau gwylio Jim Will Fix It - mi ddanfonais gais i'r rhaglen, na chafodd ei gwireddu ysywaeth (neu ddiolch byth - o bosib!) Roeddwn yn credu bod Pam Fi Duw ymysg y rhaglenni Cymraeg gorau a darlledwyd erioed! Mae meddwl fy mod yn mwynhau rhaglenni lle'r oedd y cyfranwyr ifanc yn dioddef trais, tra fy mod yn cael blas gwylio yn codi cyfog arnaf, ac yn gwneud i mi deimlo'n euog.

Yn ddi-os fe wnaeth y sefydliad cyfryngau Cymraeg amddiffyn John Owen, fel cyfrannwr talentog a phoblogaidd, yn yr union un modd ac amddiffynnwyd Jimmy Savile fel cyfrannwr poblogaidd i'r cyfryngau Saesneg.

Mae yna wersi a gwybodaeth werthfawr yn Ymchwiliad Clywch dylid eu dwys hystyried gan y rai sy'n ymchwilio i achos Savile, ac yr wyf yn mawr obeithio y bydd Comisiynydd Plant Cymru yn rhannu profiad gyda'r ymchwiliadau i ymddygiad Savile y DU.

Mae achos John Owen yn profi nad yw cefndir iaith yn amddiffyn plant rhag eu cam-drin a bod drygioni a ffieidd-dra yn perthyn i bob grŵp cymdeithasol, gan gynnwys y Cymry Cymraeg, ac nad yw bod yn "Gymro-dda" yn amddiffyniad, nac yn nacâd.

Ond os ydym ni'r Cymry am ymchwilio i'n gwendidau ein hunain gan geisio sicrhau nad oes John Owen arall yn ein mysg prin fod ein gorchwyl yn cael ei wneud yn haws os yw dyn, megis Karl Francis yn honni mae'r Gymraeg sy'n gyfrifol am y cam drin.

Sori, Karl ond prin oedd y Gymraeg ar wefusau Syr Jimmy; mae beio'r Gymraeg, nid yn unig yn sarhau'r Gymraeg, ond mae'n amlygu rhyw duedd ymysg y sawl sy'n gam drin i chwilio am unrhyw esgus arall ond eu tueddiadau eu hunain am eu hymddygiad ysgeler! Megis Cymro di-gymraeg sy'n casáu'r iaith ond sydd a'i enw ar y rhestr gam drin rhywiol yn beio'r iaith Gymraeg fel achos cam drin!

7 comments:

  1. Anonymous8:05 pm

    Pam ddaru Martin Shipton ddim son gair bod Kar Francis ei hun wedi ei dyfarnu'n euog o paedoffilia? Newyddiaduraeth gwael iawn.

    ReplyDelete
  2. Meic Owen8:27 pm

    Dwi'm yn deallt ei bwynt, oes gan y dyn chwerw yma unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei honiadau? Oedd BBC heb gwneud ymholiadau bellach i ymddygiad Jimmy Saville oherwydd bod on siaradwr Saesneg? Karl Francis - mae cymryd ceiliog glan i ganu, a gyda chefndir Karl Francis yn ym maes hon mae hyn teimlo fel Harold Shipman yn beiriniadu eraill ar gofal henoed. Mae cymryd y mater difrifol fel hon i ladd ar siaradwyr Cymraeg mor afiach mae'n bron mor afiach a beth wnaeth Karl Francis ei hun gyda'i laptop.

    ReplyDelete
  3. Anonymous11:09 am

    Karl Francis - Convicted of downloading child pornogrpahy, a nasty piece of work.

    ReplyDelete
  4. Anonymous2:48 pm

    "Yn ddi-os fe wnaeth y sefydliad cyfryngau Cymraeg amddiffyn John Owen"

    Pwy yn benodol? Ble allaf i weld y dystiolaeth am hyn?

    Mae achos John Owen yn profi nad yw cefndir iaith yn amddiffyn plant rhag eu cam-drin a bod drygioni a ffieidd-dra yn perthyn i bob grŵp cymdeithasol, gan gynnwys y Cymry Cymraeg, ac nad yw bod yn "Gymro-dda" yn amddiffyniad, nac yn nacâd.

    A ddywedodd unrhyw un fel arall?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Yn ôl yr ymchwiliad bu nifer sylweddol o gwynion am dechnegau dysgu anaddas John Owen ond bu dim gweithredu ar y cwynion yna oherwydd llwyddiant John Owen fel Awdur, dramodydd a darlledwr. Roedd ei llwyddiant yn y cyfryngau yn cynnig amddiffyniad iddo. Rhwng marwolaeth John Owen a chyhoeddi Adroddiad Clywch roedd yna nifer o bobl o'r cyfryngau yn ddweud yn gyhoeddus nad oeddynt yn credu dilysrwydd yr honiadau a wnaed yn ei erbyn. Megis yn achos Savile roedd nifer o'r dioddefwyr yn mynegi ofn cwyno, mae unrhyw sefydliad bod trwy fwriad neu ddiwylliant sydd yn gwneud i berson sy'n agored i gam drin teimlo bod yr un sy'n gwneud drwg iddynt yn rhy bwysig neu bwerus i gwyno amdano yn amddiffyn y drwg weithredwr.

      O ran dy ail gwestiwn, o ganol y ddeunawfed ganrif i 80au y bedwaredd ganrif ar bymtheg roerdd myth "Cymru Gwlad y Menig Gwynion" yn cael ei ddysgu fel ffaith yn ysgolion ac ysgolion Sul. Myth sydd yn creu canfyddiad yn y rhai sydd yn ei goleddu bod y Cymry yn bobl burach a mwy daionus nag eraill ac sy'n creu diwylliant o fethu coelio bod "Cymro Da" yn gallu gwneud drwg mawr.

      Delete
    2. Damnia! Mae rhifo canrifoedd wedi fy nrysu ers achau! O'r 1840au i'r 1980au roedd myth Y Menig Gwynion ar ei hanterth nid yn yr C18 i'r C19!!!

      Delete
  5. Anonymous7:22 pm

    Karl Francis yn beirniadau siaradwyr Cymraeg am bedoffilia, fel Fred West yn beirniadau Jimmy Saville am gofal plant.

    ReplyDelete