20/06/2012

Llwyddiant Etholiadol i Genedlaetholwyr Llydewig


Llongyfarchiadau  twym galon i Paul Molac o Union Democratique Bretonne; y cenedlaetholwr Llydewig cyntaf i gael ei ethol i Lywodraeth Canolog Ffrainc.

Paul yw cadeirydd Mudiad Ysgolion Dwyieithog Llydaw Div Yezh ac mae o'n gyn-Gadeirydd Cyngor Diwylliannol Llydaw.

O holl wladwriaethau Ewrop, Ffrainc yw'r un mwyaf anoddefgar o genhedloedd ac ieithoedd lleiafrifol o fewn ei thiriogaeth; mae ethol Paul yn garreg filltir bwysig yn hanes hawliau ieithyddol a gwladgarol pob un o'r gwledydd Celtaidd - newyddion gwych!

1 comment:

  1. Anonymous2:55 pm

    Ie, newyddion da o Lydaw ... wrth gwrs, dim gair ar wefan BBC 'Cymru' (dim fersiwn Saesneg i'w gyfieithu chi gweld - er fod Vaughan Roderick wedi trydar am y canlyniad yn gynnar iawn!) a dim yn y Western Mail.

    Diolch byth am Golwg360 .... oh, a twitter a facebook.

    Ond beth bynnag - newyddion da o Lydaw.

    ReplyDelete