07/05/2012

Rag lleol am ddim?

Rwy'n siarad ar fy nghyfer yma am bwnc rwy'n gwybod dim yn ei gylch; ond ymysg y sôn am ddiffyg cyfryngau Cymreig a pherchnogaeth estron yr ychydig sydd; derbyniais gopi o'r North Wales Pioneer papur sy'n cael ei ddosbarthu yn y parthau hyn yn rhad ac am ddim i'r rhan fwyaf o dai.

Sut mae'r papurau 'ma 'n gweithio?

A oes modd i genedlaetholwyr creu papurau tebyg trwy'r sustem cwmni cydweithredol mewn ardaloedd megis Wrecsam, Y Drenewydd ac ati lle nad yw'r achos cenedlaethol yn cael llawer o sylw?

2 comments:

  1. Mae gan gwmniau fel trinity mirror weisg anferth sy'n medru ar argraffu 30,000 mewn llai nac awr. Hysbysebion sy'n eu cynnal wrth reswm, does fawr ddim cynnwys golygyddol - cut and paste o chwaer bapur fel arfer. Mi fysa costau cychwynnol yn uchel iawn.

    ReplyDelete
  2. Iestyn7:56 pm

    Dyna oedd cynnig "Y Byd" wrth gynnig am y grant a aeth at golwg360, dwi'n credu - papur newydd rhad ac am ddim, rhywbeth tebyg i'r Metro, fyddai'n dibynnu ar elw hysbysebu am ei gynhaliaeth. Welais i erioed eu ffigyrau, ond wi'n credu mod i'n iawn i weud bod arbenigwr o ryw fath gyda nhw ynghlwm wrth eu cais. Fyddai wedi bod yn ddiddorol / cynhyrfus / siomedig (dilewch fel bo'n briodol) i weld datblygiad model o'r fath ar gyfer papur Cymraeg!

    ReplyDelete