05/05/2012

Canlyniad y Blaid, Leanne, y Cŵin a'r Rag Lleol

Gan wybod bod y Blaid Lafur am ennill tir sylweddol wedi etholiad trychinebus 2008, rwy'n credu bod Plaid Cymru wedi cael etholiad eithaf dechau Dydd Iau diwethaf, roedd ambell i siom, ond prin ei fod yn drychineb.

Er gwaethaf hynny fe ymddengys bod y cyllyll allan gan ambell i Bleidiwr siomedig yn sgil yr etholiadau. Mae Phil Bowen yn rhoi y bai yn glir ar ysgwyddau Leanne Wood a'i ymrwymiad i'r achos gweriniaethol! Roedd barn Leanne am y Frenhiniaeth yn wybyddus cyn ei hethol yn arweinydd y Blaid; os oedd y farn yna am golli pleidleisiau i Blaid Cymru camgymeriad oedd ei hethol, ac mae'n fater dylai aelodau'r Blaid wedi eu hystyried dau fis yn ôl yn hytrach na grwgnach amdani rŵan.

Pe bai Leanne wedi dechrau cow-towio i'r Brenhiniaeth wedi ei dewis yn arweinydd y Blaid, mae'n debyg mae cwyno am ei dauwynebogrwydd byddai'r esgus dros golledion y Blaid!

Yn bersonol rwy'n amheus iawn bod y Frenhiniaeth a barn Leanne amdani wedi gwneud fliwj o wahaniaeth i'r canlyniadau! Hyd yn oed pe bai Leanne wedi canu God Sêv o ben tŵr y castell, colli byddai hanes y Blaid yng Nghaerffili 'run fath.

Mae Ifan Morgan Jones yntau yn cyfeirio at yr un pwnc gan din ymdroi a methu dod i ganfyddiad pendant.
Mae'n debyg mae'r gwahaniaeth rhwng Ifan a Leanne yw nad yw hi'n eistedd ar y ffens!

Mae yna un pwynt ym mhost Ifan yr wyf yn anghytuno'n gref ag ef sef bod y mwyafrif o’r Cymry yn cael eu holl newyddion o’r cyfryngau Llundeinig. Hwyrach eu bod yn cael llawer o'u newyddion o'r cyfryngau Llundeinig ond yn fy mharth bach i o Gymru byddwn yn tybio bod tua 90% o'r brodorion hefyd yn darllen y papur lleol (y North Wales Weekly News yma), ond prin yw'r hanesion yn y papur lleol am weithgaredd Y Blaid yn gyffredinol na chynghorwyr unigol y Blaid yn benodol.

Pe bawn yn gyfarwyddwr etholiadau Plaid Cymru (neu unrhyw blaid arall) byddwn yn hyfforddi cynghorwyr a changhennau ar sut i baratoi "datganiad i'r wasg" sy'n ddeniadol a defnyddiol ac yn mynnu bod pob cynghorydd a changen yn danfon datganiad o'r fath yn wythnosol i'w papurau lleol.

Megis a nododd Cai cyn yr etholiad mae stori "hurt" gan ymgeisydd craff yn gallu creu newyddion tudalen blaen mewn ambell i bapur lleol – mae angen y tudalennau blaen yna ar gynghorwyr y Blaid os am adeiladu cefnogaeth driw yn lleol!

6 comments:

  1. Anonymous11:14 am

    Mae hyfforddi ynghylch datganiadau wedi cael ei wneud hyd syrffed. Mae pob etholaeth a'r mwyafrif o ganghenau efo'r gallu i lunio datganiadau cytbwys, cryno ac effeithiol.
    Rwy'n gweld y datganiadau hynny.
    Dewis y papurau yw peidio a'u cyhoeddi.
    Pam? Amryw o resymau.
    Ac mae un o'r prif resymau yn mynd yn groes i'r 'zeitgeist' gwleidyddol presenol. Y gredo wleidyddol sy'n tra-arglwyddiaethu ar y foment yw'r angen i gyfleu neges 'bositif'. Rwy'n cytuno a hyn.
    Serch hynny bara menyn papurau lleol yw straeon negyddol. Mae papurau lleol yn mynd trwy cyfnod anodd uffernol ac yn eu hymdrechion i ddenu darllenwyr mae'n rhaid iddyn nhw gael straeon 'arswyd'. Mae hyn yn de rigueur yn y diwydiant newyddion lleol erbyn hyn.
    Felly os nad oes yna scandal neu spat wleidyddol ,prin y bydd o ddiddordeb i'r papur.
    Yna mae gen ti newyddiadurwur megis Elgan Hearn yn Ynys Mon sydd yn casau Plaid Cymru; neu'r Cambrian News sydd yn barod i argraffu cachu rwtsh gan Louise Hughes.
    Cam argraff yw hyn gan y papurau. Dydio ddim wedi arbed eu cwymp, ond mae nhw mewn sefyllfa mor desperate fel na fedra nhw weld ymhellach na'u trwynau erbyn hyn.
    Mae papurau lleol yn parhau i fod yn ffynhonell bwysig o newyddion, ac mae'n wir dweud fod pobl Cymru yn eu darllen yn lled reolaidd, ond mae'r genhedlaeth 18-30 yn cael eu newyddion o'r we.
    O'r papurau Prydeinig Y Daily Mail sy'n gwerthu orau yng Nghymru (ffaith).
    Yr hyn sydd angen yw datblygu system o ddarparu ein newyddion ni yn uniongyrchol i'r etholwr. Mae technoleg fodern yn caniatau hyn i ryw raddau, ac am fod yn gynyddol bwysig.

    ReplyDelete
  2. "Mae Ifan Morgan Jones yntau yn cyfeirio at yr un pwnc gan din ymdroi a methu dod i ganfyddiad pendant.
    Mae'n debyg mae'r gwahaniaeth rhwng Ifan a Leanne yw nad yw hi'n eistedd ar y ffens!"

    Haha, weithiau'r ffens yw'r lle callaf i fod! Ond fy marn i yw y dylai Plaid Cymru anwybyddu mater y frenhiniaeth am y tro a chanolbwyntio ar annibyniaeth. (Nes bod Charles ar yr orsedd beth bynnag, wedyn fe fydd dadl y gweriniaethwyr ychydig yn fwy poblogaidd dybiwn i).

    ReplyDelete
  3. Anonymous11:15 pm

    Phil Beavn yngn Nghaerffili, nid Phil Bowen.

    Mae tystiolaeth fod mater diffyg cyfeillgarwch Leanne tuag at Y Cwin wedi bod yn destun trafod, ond mater arall ydi profi fod hyn wedi golygu bod darpar bleidleiswyr wedi penderfynu peidio pleidleisio o blaid ymgeiswyr y Blaid

    ReplyDelete
  4. Anonymous8:13 am

    Does dim dwywaith fod ambell un wedi trafod y frenhines, ond ymylol iawn, iawn fu'r effaith, a dwi'n dweud hynny fel un a fu yn canfasio'n rheolaidd ar ran Plaid. Ffactorau Prydeinig a fu'n tra-arglwyddiaethu ar y canlyniadau yma, a threfniadaeth / gweithgarwch lleol yn gallu ynysu i raddau rhai cynghorwyr o'r darlun mwy.

    ReplyDelete
  5. Cefais i sylwadau negyddol ynglyn ac agwedd LW tuag at y frenhiniaeth a sdim dwy waith fod o yn ffactor yn y ffordd mae y to hyn yn pleidleisio a nhw sydd yn fwyaf teyrngar. Fel Plaid ryda ni yn disgyn i'r un hen drap ddylse ni ddysgu anwybyddu y frenhinaeth, dydy o ddim yn bwysig i'r Gymru gyfoes. Lot o wersi i ddysgu eto gn yr SNP ar sut i beidio colli pleidleisiau a dal ein trwnau weithiau a gneud pethau da ni ddim isio neud er lles Cymru.

    ReplyDelete
  6. Be sydd angen ydy fersiwn Gymraeg o Newsnet Scotland gwefan newyddion gwbwl annibynnol wedi ei chychwyn oherwydd anfodlonrwydd ar wasg yn yr Alban (Duw a'n gwaredo!) yn arbenig BBC Scotland. Os am esiampl o wefan newyddion leol ewch i wrexham.com, neu dilynwch @wrexham, esiampl dda o be ellith cael i gyflawni.

    ReplyDelete