15/04/2012

Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfrannu

.
Dyma Fy ymateb i'r drafodaeth ar y Maes:

Er mae dyma'i neges gyntaf mae'r hwyliwr yn gwneud pwynt digon teg. Rhyw pum - chwe blynedd yn ôl mi fûm yn danfon deg neu ragor o negeseuon y dydd i'r Maes, mae hynny wedi mynd lawr i neges neu ddwy'r flwyddyn bellach. Hwyrach ei fod yn rhan o natur y we bod ffurfiau o gymdeithasu / trafod yn newid gyda ffasiwn. Cyn ymuno a Maes-e yr oeddwn yn aelod o nifer o restrau e-lythyr ac yn cael hyd at fil o e-lythyrau'r dydd, rwy'n dal yn aelod o nifer o restrau tebyg ond yn cael dau neu dir ymateb dyddiol ganddynt bellach.

Pan oeddwn yn cyfrannu'n gyson i'r Maes yr edefydd wleidyddiaeth, hanes ac iaith oedd fy hoff barthau, ond fe wnaeth y blogiau dwyn y bri allan ohonynt. Bellach mae'r trafodaethau ar flogiau yn lleihau gan fod y Gweplyfr a Thrydar wedi dwyn eu tân - er bod Facebook yn ddechrau edrych yn hen ffasiwn braidd bellach hefyd!

Rwy'n credu bod yna golled i'r Gymraeg o symud oddi wrth barth naturiol Gymraeg fel Maes-e i lwyfannau eraill. Dim ond trwy'r Gymraeg bu modd cyfrannu i'r Maes. Y mae gennyf gyfeillion ar Facebook a dilynwyr ar Twitter sydd yn ddi-gymraeg, ac fel mewn tafarn pan fo naw Cymro Cymraeg yn cymdeithasu yng nghwmni un Sais yr ydym i gyd yn troi i'r Saesneg.

Yr wyf mor euog ac eraill am droi at y fain ar Facebook a Twitter, because I have English friends and followers! Os yw Maes-e bellach yn passé, mae angen creu Bro Gymraeg newydd ar y we er mwyn sicrhau nad yw Cymry Cymraeg yn dod i gredu mai Saesneg yw'r unig iaith cyfoes i gyfythrebu trwyddi ar gyfrifiadur a theclyn.

2 comments:

  1. Anonymous12:07 pm

    Cytunaf - pwynt pwysig iawn. Heb ei defnyddio, heb ei gweld, be di'r iws? Neu o leia ein bod ni'n datblygu rhyw fath o arferiad/protocol ynglŷn â'r defnydd o'r Gymraeg e.e. dwi'n gweld sawl person yn cyfeirio eu darllenwyr di-Gymraeg at Google Translate a.y.b.
    S'gwn i sut mae'n gweithio mewn llefydd eraill cyffelyb?
    O.N. Dwi'n cytuno am Facebook - ma'n nhw wedi magu a phesgi'r fuwch - rwan ma'n nhw am ei godro (cymysgu trosiadau/stoc braidd!). Wedyn i'r farchnad eto am be gawn nhw, neu Cluttons.

    ReplyDelete
  2. Anonymous12:39 pm

    Rwyf bellach yn dewis ymateb i straeon ar golwg360. Ond heddiw, am ryw reswm, ni cheir adran i ymateb o dan stori. Dwi ddim yn deall paham. Rhai yn y byd Cymraeg ddim eisiau trafodaeth?
    Dylai S4C roi sylw i maes-e... efallai ar Heno? Gwefreiddiol? Hyd yn oed Sam ar y Sgrin?

    ReplyDelete