27/04/2012

Etholiadau Diwrthwynebiad = detholiadau annemocrataidd?

Pan glywais fy mod wedi fy ethol heb gystadleuaeth ar gyfer fy nghyngor cymuned fy nheimlad oedd un o siomedigaeth bersonol, yr oeddwn yn dymuno cystadleuaeth ac yn awchu am ymgyrch. Rwy'n ddiolchgar i Owen ap Gareth o Gymdeithas Newid Etholiadol Cymru am ddangos imi hunanoldeb y fath deimladau.

Y pwynt pwysicach yw bod y bobl yr wyf wedi fy nethol i'w cynrychioli wedi eu hamddifadu o ddewis democrataidd.

Mae'n debyg bod y 93 cynghorydd Sir sydd eisoes wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad yng Nghymru wedi amddifadu hyd at 140,000 o bleidleiswyr Cymru rhag mynegi barn yn yr etholiadau Cyngor Sir. Mae diffyg mandad democrataidd y cynghorau cymuned yn waeth byth; yng Nghonwy yn unig, dim ond 11 o'r 71 adran etholaethol gymunedol sy'n cynnal etholiad - ystadeg sy'n gwatwar y syniad o ddemocratiaeth leol.

Gan fy mod yn agnostig, braidd, ar achos pleidleisio cyfrannol nid ydwyf am gefnogi achos Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru, ond mae eu hadroddiad am yr etholiadau lleol (PDF) yn un gwerth ei ddarllen a gwerth cnoi cil yn ei gylch!

1 comment:

  1. Anonymous8:12 am

    Mae'r diffyg hwn yn dipyn o broblem. Ac mae'r ffigwr o 11 allan o 71 yng Nghonwy yn rhyfeddol o isel.

    Ond rhaid gochel rhag swnio fel pe bai'r bai ar yr unigolion hynny sy'n cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad. Mae sawl adroddiad ar y stori hon y diwrnodau dwetha yma mewn peryg o swnio felly. Dylem fod yn ddiolchgar tu hwnt bod yr unigolion hynny wedi cynnig eu henwau i sefyll - nid eu bai nhw yw nad oes neb eisiau sefyll yn eu herbyn. Os oes bai ar rywun, ar y system y mae hi, mae'n siwr.

    Fel mae'r cneifiwr wedi'i nodi ar Blogmenai, mae pob un sedd ar Gyngor Sir Caerfyrddin yn destun cystadleuaeth tro ma. Ai dyna'r unig sir yng Nghymru, neu ydy hynny'n beth mwy cyffredin nag ydw i'n tybio?

    Iwan Rhys

    ReplyDelete