16/03/2012

Llongyfarchiadau Leanne - mae'r frwydr cenedlaethol yn poethi!

Hoffwn gynnig longyfarchiadau mawr i Leanne Wood ar gipio arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Does dim dirgelwch yn y ffaith bod yna gwahaniaethau barn enfawr rhwng fy ngwleidyddiaeth de o'r canol fi a gwleidyddiaeth chwith Leanne. Yn wir yr wyf wedi lambastio gwleidyddiaeth Leanne yn rheolaidd ers dechrau blogio; yn ddi-os nid ydwyf yn disgwyl i hynny newid.

Y pyst lle rwyf wedi anghytuno a Leanne yw'r rhai sydd wedi denu'r nifer fwyaf o sylwadau gan y sawl sydd yn cytuno a hi a'r sawl sy'n cytuno a mi; dyna i mi yw cryfder Leanne fel arweinydd plaid wleidyddol; mae hi'n wleidydd sydd yn gallu tanio dadl ffyrnig a denu ymateb. Mae gormod o'n gwleidyddion cyfoes yn bobl rhy barchus a chymedrol; pobl sydd ag ofn ypsetio neb; pobl sy'n dilyn y dorf yn hytrach na herio'r bobl i feddwl am lwybr amgen.

Yn ôl yr hen ystrydeb yr unig beth gwaeth na phobl yn siarad amdanat yw bod pobl ddim yn siarad amdanat, ac yn anffodus bu pobl ddim yn siarad llawer am Blaid Cymru, Annibyniaeth na pholisïau amgen i'r consensws canolig yn niweddar. Mae Leanne yn ddynes na ellir peidio siarad amdani, mae hi'n hogan sydd yn gallu creu trafodaeth wleidyddol ffyrnig.

Cyn belled na chaiff ei swcro i mewn i ddyletswyddau parchus arswydus swydd nac yn cael ei llyffetheirio gan gyfaddawdu er lles y swydd, bydd barn glir Leanne, ar holl bynciau pwysig y dydd, yn creu trafodaeth ddifyr a thanllyd yng ngwleidyddiaeth Cymru. Trafodaeth bydd yn llesol, nid yn unig i Blaid Cymru, ond i bob plaid yng Nghymru ac i wleidyddiaeth Cymru'n gyffredinol.

2 comments:

  1. Anonymous6:53 pm

    Mae'n braf cael darllen rhywbeth sy'n codi fy nghalon am ethol Leanne Wood. Bydd yn ennyn trafodaeth ac yn sicr mae hynny'n beth da.

    Hyd yn hyd nid wyf wedi darllen dim am effaith yr aelodau newydd ar y bleidlais. Gan gymryd fod yr aelodau newydd i gyd wedi pleidlesio iddi(23% yn ol y Guardian), ac mae'n debyg eu bod i gyd wedi defnyddio eu pleidlais, byddai hyn yn golygu fod ymhell dros 1,500 o'i phleidleisiau wedi dod o'r pot yma. Rhesymol felly yw casglu mai'r aelodau newydd sydd wedi ei hethol. Beth fydd effaith hyn ar y Blaid yn gyffrediol tybed? Sut fydd y grwp o 10 yn y cynulliad yn cydweithio gan gofio fod y mwyafrif yn cefnogi Elin Jones ac yn credu mewn gweithio yn araf ac yn bwyllog tuag ar annibyniaeth?

    ReplyDelete
  2. Anonymous2:13 pm

    Di-enw 11.53

    Hyd y gwela i mae un neu ddau, o leiaf, ohonynt ddim yn credu yn annibyniaeth o gwbl.

    Fe fydd yn anodd iddi gael cefnogaeth y rhai a gefnogodd Elin, ac fe fydd rhaid i ni aros i weld os bydd rhai ohonynt yn ymdrechu i'w thanseilio, naill ai i'w gwyneb neu tu ôl ei chefn. Cofiwn am y geiriau, "gwleidyddiaeth Fisher Price".

    Os gwnaethant hynny dyna ddiwedd ar y Blaid am ddegawd. Os collasant eu seddi, arnyn nhw fydd y bai. Ni fydd yr aelodaeth yn maddau iddynt chwaith. Mae nhw wedi dyfarnu'n glir mai Leanne yw'r dewis, ac felly dylid ei chefnogi yn llwyr.

    ReplyDelete