20/03/2012

E lyfrau ar Gwales

Mae gwales.com bellach yn gwerthu e-lyfra ar ffurf e-pub. Mae tua 150 o e lyfrau ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan ond dim ond 6 ohonynt yn llyfrau Cymraeg ysywaeth.

Mae yna tair nofel ar gael:Dyn Pob Un Euron Griffith £7.95 Llafnau Geraint Evans £7.95 a Y Tŷ Ger y Traeth Gareth F. Williams £8.95

A thri llyfr ffeithiol yn y gyfres Stori Sydyn, un yn ymdrin â hanes enillwyr Olympaidd Cymru, un arall am hanes gystadleuaeth Miss Cymru ac un am hanes tîm pêl droed Abertawe am £1.99 yr un.

Ac os oes gennych ddiddordeb yn nodweddion cystrawennol y Gymraeg, mae Syntax of Welsh gan David Willis ac eraill ar gael am ddim ond 145 o bunnoedd.

6 comments:

  1. Wyt ti wedi gweld y rhain?
    http://cromen.co.uk/cy/gwybodaeth/index.html

    ReplyDelete
  2. £145 am e-lyfr? Bois bach...

    ReplyDelete
  3. Rhaid mai typo ydy (ar wefan gwales), achos 'dim ond' £79 ydy copi caled.

    ReplyDelete
  4. Rwyf wedi gweld gwefan Cromen, ond byddwn yn gyndyn o brynu'r un o'r ddau lyfr sydd ar gael yno. Mae testun Cartrefi Cymru ar gael ar wefan Gutenberg ac mae testun (gwael iawn )o Enoc Huws ar gael o archive.org. Trwy ddefnyddio rhaglenni rhad ac am ddim megis Sigil gelli'r troi'r testunau yma'n e-lyfrau yn hawdd iawn heb orfod talu amdanynt.

    ReplyDelete
  5. Dallt hynny,ond dyna'r gwasanaeth mae Cromen yn eu gynnig - maen nhw wedi gwneud y gwaith llafurus o'i drosi drostach chi, a'i becynu mewn fformat hygyrch a deniadol.

    ReplyDelete
  6. Hwyrach dy fod yn iawn Rhys, ond does 'na ddim byd (megis rhagolwg) i brofi bod e-lyfrau Cromen wedi eu "pecynnu mewn fformat hygyrch a deniadol" mae'n bosib mae testun archive.org o Enoc Huws, gyda'i holl wallau, sydd yn cael ei werthu gan Cromen. Heb sicrwydd o safon na gwarant o bres yn ôl am safon wael, nid ydwyf am beryglu fy arian!

    Rhan o greu marchnad am e-lyfrau Cymraeg yw cael sicrwydd o safon.

    ReplyDelete